Un o brif arweinwyr addysg Cymru yn cwblhau Doethuriaeth mewn Addysg ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Mae Dr Tegwen Ellis, un o brif arweinwyr addysg Cymru wedi cwblhau Doethuriaeth mewn Addysg (EdD) ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS).
Gyda chefndir fel athrawes, Pennaeth ysgol gynradd, ac yn fwy diweddar fel Prif Weithredwr yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol (AGAA), datblygodd Tegwen gwir ddiddordeb mewn arweinyddiaeth system, maes sy’n tyfu mewn arwyddocâd wrth i ysgolion, awdurdodau addysg a chyrff cenedlaethol gydweithio i wella canlyniadau dysgwyr ledled y wlad.
Wrth egluro ei chymhelliant i astudio’r Ddoethuriaeth, dywedodd:
“Roedd diffyg eglurder ynghylch ystyr ac ymarfer arweinyddiaeth system yng Nghymru, ac roeddwn yn awyddus i archwilio’r maes yn academaidd er mwyn cyfrannu’n uniongyrchol at bolisi ac ymarfer cenedlaethol.”
Roedd Tegwen am gryfhau ei gallu i ddylanwadu ar bolisi addysg, sicrhau bod ei harweinyddiaeth yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn ac ehangu ei rhwydwaith proffesiynol. Ychwanegodd:
“Roeddwn am gyfrannu’n fwy effeithiol i drafodaethau cenedlaethol a sicrhau bod arweinyddiaeth yng Nghymru yn cyd-fynd â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu’r system addysg, yn enwedig o ran cydlyniad, cydweithio a chyfiawnder cymdeithasol.”
Penderfynodd Tegwen astudio Doethuriaeth mewn Addysg yn PCYDDS, oherwydd ei fod yn cynnig cyfle unigryw i gyfuno damcaniaeth, ymchwil ac ymarfer, gyda ffocws penodol ar gyd-destun Cymru. Meddai:
“Roedd y cwrs yn caniatáu i mi archwilio materion cyfoes fel diwygio’r cwricwlwm, anghenion dysgu ychwanegol, a’r Gymraeg, gan ddatblygu sgiliau ymchwil ansoddol a meithrin dealltwriaeth o arweinyddiaeth system.”
Canolbwyntiodd ymchwil Tegwen ar ddiffinio a deall y cysyniad o arweinyddiaeth system yng nghyd-destun diwygio addysg yng Nghymru. Sbardunwyd ei hymchwil yn dilyn ei phrofiad personol o arwain AGAA , a’r diffyg eglurder polisi oedd yn bodoli ynghylch ‘arweinyddiaeth system.’
“Roeddwn yn ceisio deall sut mae arweinwyr, ymgynghorwyr a dylanwadwyr polisi yn diffinio ac yn ymarfer arweinyddiaeth sy’n mynd y tu hwnt i ffiniau ysgolion unigol, gan gyfrannu at welliant ar draws y system gyfan.”
Dywed Tegwen fod y gefnogaeth a dderbyniodd oddi wrth ei thiwtoriaid wedi bod yn hynod o ysbrydoledig.
“Roedd yr Athro Jane Waters-Davies a Dr Susan Jones yn allweddol i’m llwyddiant. Roedd eu harbenigedd a’u hanogaeth yn gwneud gwahaniaeth mawr, gan fy helpu i feithrin hyder ac i fynd i’r afael â heriau methodolegol ac academaidd.”
Meddai’r Athro Jane Waters – Davies:
“Mae Tegwen, wedi bod yn fyfyriwr rhagorol ar ein rhaglen Doethuriaeth Broffesiynol mewn Addysg (Ed D). Fel gweithiwr addysg broffesiynol llawn amser ymroddedig, gweithgar, mae hi wedi llwyddo i greu amser i ganolbwyntio ar agweddau damcaniaethol astudiaeth ddoethur yn ogystal â lleoli ei hymchwil yn uniongyrchol o fewn y maes ymarfer.
“Mae ei thraethawd hir yn gyfraniad perthnasol a phwysig at yr hyn a wyddom am arweinyddiaeth systemau mewn addysg. Mae hyn yn arbennig o berthnasol yng Nghymru gan fod y gwaith yn defnyddio sylfaen dystiolaeth gref i gefnogi datblygiad effeithiol arweinyddiaeth o’r fath o fewn system addysg Cymru. Dylai fod yn haeddiannol falch o’i chyflawniad; fel ei thîm goruchwylio rydym wrth ein bodd gyda’i llwyddiant.’
Dywed Tegwen fod y cwrs wedi:
“cryfhau fy hyder fel arweinydd, ehangu fy ngwybodaeth am bolisi addysg ac wedi fy mharatoi i ymgymryd â rôl strategol ar lefel genedlaethol fel Prif Weithredwr AGAA. Mae hefyd wedi meithrin sgiliau ymchwil, dadansoddi a myfyrio, sy’n hanfodol ar gyfer arwain newid a sicrhau bod arweinyddiaeth yn seiliedig ar dystiolaeth.”
Un o’r prif heriau wrth astudio’r cwrs i Tegwen oedd cydbwyso astudio doethuriaeth â chyfrifoldebau arwain sefydliad cenedlaethol. Bu’n rhaid rheoli amser yn ofalus i sicrhau cynnydd academaidd wrth ymateb i ofynion strategol a phwysau gwaith o ddydd i ddydd. Profodd astudio yn ystod cyfnod y pandemig yn heriol hefyd.
“Roedd yn rhaid addasu dulliau ymchwil, gan symud cyfweliadau i lwyfannau digidol a delio â chyfyngiadau ar fynediad i ysgolion. Roedd hyn yn gofyn am hyblygrwydd, gwytnwch a chreadigrwydd i sicrhau bod y prosiect ymchwil yn parhau’n gadarn. Yn bersonol, roedd yn her i gynnal cydbwysedd rhwng gwaith, astudio a lles, ond dysgais sgiliau rheoli newid a blaenoriaethu sy’n werthfawr iawn i’r dyfodol.”
Mi fyddai Tegwen yn annog unrhyw un sydd am ddatblygu eu harweinyddiaeth addysgol, yn enwedig y rhai sydd â diddordeb mewn dylanwadu ar y system ehangach i astudio’r cwrs.
“ Mae’r cwrs yn cynnig persbectif cenedlaethol, cefnogaeth academaidd ragorol a chyfle i wneud gwahaniaeth go iawn drwy ymchwil sy’n berthnasol i bolisi ac ymarfer yng Nghymru.”
Fis Rhagfyr, bydd Tegwen yn sefyll lawr o’i rôl fel Prif Weithredwr, ac yn ystyried ymddeol yn rhannol, gyda’r bwriad clir ar barhau i gyfrannu’n strategol i’r sector addysg yng Nghymru.
“Hoffwn weithio fel ymgynghorydd strategol, gan ddefnyddio fy mhrofiad a’m hymchwil ar arweinyddiaeth system i lywio polisi ac ymarfer. Mae cyfrannu at fyrddau cenedlaethol a grwpiau penderfyniadau strategol yn flaenoriaeth, yn ogystal â chefnogi arweinwyr presennol a darpar arweinwyr i ddatblygu fel arweinwyr system. Byddaf hefyd yn parhau i rannu canfyddiadau fy ymchwil drwy ymgynghoriadau polisi ac efallai drwy waith academaidd pellach, gan sicrhau bod fy nghyfraniad yn parhau i wneud gwahaniaeth ar lefel genedlaethol.”
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476