Un o Raddedigion y Drindod Dewi Sant, yn Agor Campfa Gymunedol ac yn Cefnogi'r Academi Chwaraeon
Mae Cian Trevelyan, un o raddedigion Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi cyfuno ei angerdd am chwaraeon, ffitrwydd a chymuned drwy agor ei gampfa ei hun, NXTLVL Fitness yn Drefach, yng nghanol Cwm Gwendraeth, gan ddychwelyd hefyd i gefnogi Academi Chwaraeon y Brifysgol.
Mae’r gampfa, sydd wedi’i lleoli yn hen Ysgol y Gwendraeth, wedi cael ei thrawsnewid o ddau gwrt sboncen yn ofod llawn offer ar gyfer y gymuned leol. Dywedodd:
“Rwyf wedi bod yn angerddol am ffitrwydd erioed ac mae rhedeg campfa wedi bod yn uchelgais hirdymor. I mi, nid yw’r gampfa yn ymwneud â ffitrwydd personol yn unig; mae’n ymwneud â chreu gofod sy’n cefnogi eraill â’u harferion beunyddiol ac yn helpu pobl i gyflawni eu nodau.”
Chwaraeodd yr Academi Chwaraeon yn y Drindod Dewi Sant ran bwysig yn ystod ei astudiaethau, gan ei gefnogi fel myfyriwr-athletwr a helpu i gydbwyso gwaith academaidd â’i ymrwymiadau rygbi. Nawr, mae Cian yn rhoi yn ôl trwy noddi tîm rygbi’r Brifysgol a gweithio fel hyfforddwr cryfder a chyflyru, gan helpu athletwyr i ddatblygu eu perfformiad corfforol. Mae’n ychwanegu:
“Rwy’n falch fy mod yn gallu rhoi yn ôl i’r Brifysgol. Mae cefnogi a datblygu chwaraewyr presennol yn yr un amgylchedd lle roeddwn i unwaith yn elwa fel myfyriwr-athletwr yn rhoi boddhad mawr i mi.”
Wrth edrych ymlaen, gweledigaeth Cian yw ehangu ei fusnes i fod yn fodel masnachfraint, gan agor campfeydd mewn lleoliadau newydd i wneud cyfleusterau ffitrwydd o safon yn hygyrch i fwy o gymunedau.
“Fy nod yw helpu pobl i ddod yn fwy gweithgar, yn llawn cymhelliant ac i ymgysylltu â’u hiechyd a’u lles. Trwy dyfu’n fasnachfraint, gallwn gyrraedd mwy o bobl a pharhau i gael effaith gadarnhaol trwy ffitrwydd.”
Dewisodd Cian, a astudiodd Hyfforddi a Pherfformiad Chwaraeon yn y Drindod Dewi Sant, y Brifysgol oherwydd ei bod yn caniatáu iddo aros yn agos at adref gan barhau i chwarae rygbi ochr yn ochr â’i astudiaethau. Eglurodd:
“Roedd y cydbwysedd rhwng cyfleoedd academaidd a chwaraeon yn ei wneud yn ddewis delfrydol.”
Wrth adfyfyrio ar ei gwrs, tynnodd Cian sylw at werth cyfuno theori ag arfer:
“Yr hyn roeddwn i’n ei werthfawrogi’n fawr oedd y cyfuniad o ddysgu academaidd a chymhwysiad ymarferol. Rhoddodd y cydbwysedd rhwng gwaith ysgrifenedig a gweithgareddau ymarferol, fel hyfforddi a chyflwyno sesiynau, set sgiliau eang a gwybodaeth fanwl i mi o hyfforddi chwaraeon.”
Dywedodd Cian fod y cwrs wedi bod yn allweddol yn ei ddatblygiad personol a phroffesiynol, ac mae hefyd wedi rhoi hwb i’w hyder a’i siapio fel hyfforddwr:
“Fe fagodd fy hyder a rhoddodd i mi’r wybodaeth a’r sgiliau i hyfforddi’n effeithiol o fewn a thu allan i’r gwaith. Bellach, nid yn unig mae hyfforddi yn rhywbeth rwy’n ei chael yn hawdd ei gyflawni, ond mae’n wirioneddol gyffrous a gwerth chweil hefyd.”
Dywedodd Lee Tregoning, Pennaeth Academi Chwaraeon y Drindod Dewi Sant:
“Roedd Cian yn fyfyriwr ymroddedig a gymhwysodd ei hun yn dda iawn, ac mae’r sgiliau cyflogadwyedd a ddatblygwyd yn ystod ei gwrs wedi ei gefnogi’n amlwg ar y llwybr y mae wedi’i gymryd ers graddio. Roedd hefyd yn aelod gweithgar o’r Academi Chwaraeon a chwaraeodd ran bwysig yn llwyddiant y tîm rygbi dros y tair blynedd diwethaf. Mae’n wych ei weld nawr yn defnyddio’r profiadau hynny i gael effaith mor gadarnhaol yn y gymuned a dangos sgiliau entrepreneuraidd eithriadol.
“Rydym yn falch iawn o’i gyflawniadau ac mae wedi dod ‘nôl i’r dechrau nawr, drwy fod yn rhan o staff Academi Chwaraeon y Drindod Dewi Sant gan ddarparu gwasanaeth cryfder a chyflyru o’r radd flaenaf i’n myfyriwr-athletwyr ac rwy’n siŵr y bydd yn gaffaeliad mawr i’r Brifysgol.”
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476