Un o Raddedigion y Drindod Dewi Sant yn Troi Anawsterau'n Effaith Gymdeithasol
Mae taith Norman Wright i raddio o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn stori bwerus o wydnwch, hunangred a thrawsnewid.

Ar y dechrau, roedd Norman yn meddwl bod addysg uwch allan o’i gyrraedd oherwydd nad oedd ganddo gymwysterau ffurfiol. Wedi digalonni, bu bron iddo roi’r gorau iddi, nes i ddarganfyddiad amserol gan ei wraig newid popeth. Daeth o hyd i wybodaeth ar-lein am PCYDDS, gan ysgogi Norman i wneud ymholiadau.
Arweiniodd y neges honno at sgwrs gyda Phillip Morgan, cyn-ddarlithydd yn y brifysgol, a newidiodd ei fywyd. Meddai Norman:
“Trefnodd Phillip alwad ffôn a’m cyflwyno i’r rhaglen BA Eiriolaeth. Gwnaeth i’r cwrs swnio’n gyffrous ac yn llawn pwrpas. Siaradodd am y math o newid y gallem ei wneud mewn cymdeithas, dyna’n union beth oedd angen i mi ei glywed.”
Yn fuan wedyn, cofrestrodd Norman a dechreuodd ei astudiaethau - wedi’i yrru gan awydd i brofi bod y bobl oedd wedi’i amau yn anghywir a dangos iddo fo’i hun ei fod yn gallu ffynnu mewn addysg uwch.
Trwy gydol y cwrs, cofleidiodd Norman gynnwys sy’n ysgogi meddwl a oedd yn herio normau cymdeithasol ac yn ysbrydoli meddwl beirniadol. Mae’n diolch i ddarlithwyr fel Phillip Morgan, Ken Dicks, Dr. Caroline Lohman-Hancock, a Laura Jenkins am danio ei angerdd dros eiriolaeth a newid cymdeithasol. Ychwanegodd:
“Roedd y darlithoedd yn grymuso ac yn fy helpu i sylweddoli y gallwn wneud gwahaniaeth go iawn.”
I Norman, un o’r prif uchafbwyntiau oedd y modwl lleoliad, a’i roddodd yn DRMZ, canolfan ieuenctid yng Nghaerfyrddin.
“Am le gwych yw hwn! Mae’n darparu lle diogel i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed lle gallant fod yn nhw eu hunain a dysgu sgiliau newydd, o goginio a drama i brofiadau addysgol a chael hwyl a gwneud ffrindiau. Mae hefyd yn fuddiol i’r gymuned leol, gan ei fod yn cadw plant oddi ar y strydoedd ac yn rhoi pryd o fwyd am ddim iddynt bob nos Wener. Mae hwn wir yn lle gwych, ac fe wnaeth fy mhrofiad yn ystod y lleoliad fy ysbrydoli i newid fy llwybr gyrfa. Rydw i bellach yn gwirfoddoli yno ddeuddydd yr wythnos.”
Mae llwybr gyrfa Norman wedi newid, ac o ganlyniad i’r profiad hwn mae bellach yn rhoi yn ôl trwy wirfoddoli ac yn gobeithio cael effaith gadarnhaol ar yr ieuenctid yn DRMZ. Mae’n ychwanegu:
“Mae hyn yn rhywbeth a oedd yn brin yn ystod fy ieuenctid. Gyda fy mhrofiadau byw, rwy’n anelu at eu helpu i ganolbwyntio ar y pethau positif mewn bywyd a goresgyn y rhai negyddol.”
Nid oedd ei daith academaidd yn ddi-rwystr. Wynebodd Norman golled bersonol, salwch teuluol, symudodd dŷ nifer o weithiau, anawsterau technegol, a ‘syndrom twyllwr’, ond
“Er gwaethaf y cyfan, fe wnes i ddyfalbarhau. Rydw i wedi profi i mi fy hun ac eraill, fy mod i’n gallu ei wneud.
Mwynhaodd Norman y cwrs a chanfu bod y darlithwyr yn gefnogol iawn i’w ddatblygiad.
“Roedd yn gwrs ardderchog a chanddo ddarlithoedd a heriau diddorol. Mae’n eich annog i gwestiynu’r status quo ac yn pwysleisio pwysigrwydd hunan-wella, cyfrannu at gymdeithas, a helpu’r rhai sydd angen cefnogaeth.”
Dywedodd Ken Dicks, darlithydd PCYDDS:
“Mae Norman wedi dangos gwytnwch mawr i barhau â’i astudiaethau yn wyneb sawl her. Mae bob amser wedi cyfrannu at addysgu a dysgu’r cwrs gydag enghreifftiau a chwestiynau craff. Mae Norman hefyd yn enghraifft ddisglair o rywun sydd wedi cyflawni mewn Addysg Uwch fel myfyriwr Ehangu Mynediad. Dymunwn bob llwyddiant iddo yn y dyfodol”.
Yn fyfyriwr sy’n falch o fod wedi graddio o PCYDDS, mae Norman bellach yn chwilio am rôl yn y sector ieuenctid ac yn ystyried astudiaethau pellach.
“Os nad yw’r cyfle cywir yn codi ar unwaith, byddaf yn dal ati i ddysgu. Rwy’n hyderus y bydd popeth yn syrthio i’w le.”
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476