Skip page header and navigation

Mae Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn falch o groesawu Dr Jaione Diaz Mazquiaran yn bedwerydd deiliad Cadair Breswyl Alan R King mewn Sosioieithyddiaeth, mewn partneriaeth â Sefydliad Etxepare Gwlad y Basg.

Dr Jaione Diaz Mazquiaran and Professor Elin Haf Gruffydd Jones sitting and in discussion with a CAWCS banner in the background
Dr Jaione Diaz Mazquiaran a’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones

Sefydlwyd y Gadair yn 2022 a’i henwi ar ôl yr ieithydd nodedig, y diweddar Dr Alan R. King, un a wnaeth gymaint i hwyluso’r berthynas rhwng Cymru a Gwlad y Basg. Mae’r Gadair yn gyfle strategol i ymchwilydd o Wlad y Basg ddod i Gymru, er mwyn cryfhau’r cyfnewid a’r cysylltiadau rhwng y ddwy wlad, ynghyd â rhannu ymchwil ac ymarfer ym meysydd sosioieithyddiaeth a chynllunio iaith, sydd mor bwysig i’r ddwy iaith.

Arbenigedd Dr Diaz Mazquiaran yw addysg cyfrwng Basgeg, gan ganolbwyntio ar bolisi ac ymarfer mewn ysgolion ble mae canran o’r disgyblion yn dod o deuluoedd mewnfudol. Fel rhan o’i phreswyliad, cyflwynodd ddarlith yn y Llyfrgell Genedlaethol yn dwyn y teitl ‘Iaith, perthyn a daliadau: profiad disgyblion o deuluoedd mewnfudol mewn addysg cyfrwng Basgeg’. Mae’r recordiad ar gael YouTube y Ganolfan: Y Ganolfan Geltaidd / CAWCS - YouTube.

Yn ogystal â’r ddarlith, mae ei rhaglen waith yn ystod ei chyfnod yn cynnwys gweithdai, ymweliadau, cyflwyniadau a seminarau, gan gynnwys sesiwn ar y Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Polisi a Chynllunio Iaith.

Meddai’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan: “Rydym yn falch iawn o groesawu Dr Jaione Diaz Mazquiaran atom eleni. Mae hi’n ysgolhaig dawnus sydd wedi astudio mewn sawl prifysgol ar draws y byd ac wedi cwblhau prosiect hynod amserol a gwerthfawr. Bydd y preswyliad hwn yn gyfle iddi rannu ei canlyniadau ei hymchwil gyda ni ynghyd â chreu cysylltiadau yma yng Nghymru wrth iddi ddatblygu ei gyrfa dros y blynyddoedd nesaf.

Yn sicr, mae’r Gadair hon wedi ennill ei phlwyf a’r cysylltiadau rhwng ymchwilwyr o Gymru ac o Wlad y Basg ym maes Sosioieithyddiaeth wedi cryfhau o ganlyniad iddi. Croesawyd Dr Imanol Larrea yn 2022, Dr Harkaitz Zubiri yn 2023 a Dr Mike Gartziarena llynedd ac mae’r tri yn parhau i gydweithio ag ymchwilwyr o sawl prifysgol yng Nghymru yn dilyn eu cyfnod yn y Gadair Alan R King.”

Meddai Dr Monika Madinabeitia, Cyfarwyddwr Hyrwyddo’r Iaith Fasgeg yn Sefydliad Etxepare Gwlad y Basg, “Mae Cadair Alan R. King yn darparu platfform rhagorol ar gyfer meithrin cyfnewid academaidd, ymchwil gydweithredol, a myfyrio ar bolisi iaith a strategaethau adfywio y cymunedau Cymreig a’r cymunedau Basgeg.”

Meddai Dr Jaione Diaz Mazquiaran, deiliad Cadair Alan R King 2025, “Mae cael fy nerbyn i Gadair Alan R. King mewn Sosioieithyddiaeth 2025 wedi bod yn brofiad hynod werthfawr i mi fel ymchwilydd ac addysgwr gyrfa cynnar. Mae wedi rhoi cyfle unigryw i mi rannu a thrafod canfyddiadau ymchwil fy noethuriaeth mewn cyd-destun amlieithog lle mae’r Gymraeg, fel iaith fywiog, yn chwarae rôl mor ganolog. 

Mae gweithio yn yr amgylchedd hwn wedi fy ngalluogi i ymgysylltu a dysgu oddi wrth fentrau ysbrydoledig ym maes cynllunio ac adfywio iaith, i gyfnewid syniadau gyda chydweithwyr, ac i gyfrannu at gryfhau’r cysylltiadau rhwng Gwlad y Basg a Chymru. Ochr yn ochr â fy narlith a’r seminarau gwadd, rwyf hefyd yn dysgu Cymraeg, yn cael cyfle i gwrdd â rhanddeiliaid sy’n hyrwyddo ac yn diogelu ei defnydd ar draws gwahanol feysydd, ac yn rhannu safbwyntiau ac adnoddau gydag ymchwilwyr lleol. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ymweld â Chanolfan Gwên, canolfan drochi iaith yn Sir Gaerfyrddin, er mwyn cyd-rannu datblygiadau a heriau addysg drochi yng Nghymru a  Gwlad y Basg. 

Byddaf hefyd yn achub ar y cyfle i arsylwi gwaith maes Prosiect BRO, i ddysgu rhagor am yr arolwg sosioieithyddol cynhwysfawr hwn o gymunedau Cymraeg cyfoes. Mae ymweld â gwahanol rannau o Gymru a phrofi ei threftadaeth ddiwylliannol gyfoethog wedi gwneud y gymrodoriaeth hon nid yn unig yn garreg filltir academaidd ond hefyd yn daith hynod bersonol a gwerthfawr.”

CAWCS and Etxepare logos side by side

Nodiadau i Olygyddion 

Cyswllt: yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan: elin.jones@pcydds.ac.uk

1. Sefydlwyd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd gan Brifysgol Cymru yn 1985 fel canolfan ymchwil arbenigol yn cynnal prosiectau cydweithredol ar ieithoedd, llenyddiaethau, diwylliant a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill. Ymysg y meysydd ymchwil mae Ieithoedd Celtaidd Cynnar, Hagiograffeg, Llenyddiaeth Gymraeg y Canol Oesoedd, Rhamantiaeth a’r Ymoleuo yng Nghymru ac Ewrop, Enwau Lleoedd yng Nghymru a Phrydain, Geiriadureg. Cyfieithu llenyddol, Sosioieithyddiaeth Gyfoes a Pholisi a Cynllunio Iaith mewn Ieithoedd Lleiafrifedig. Dyma gartref Geiriadur Prifysgol Cymru a ddathlodd ei ganmlwyddiant yn 2021.

2. Mae Sefydliad Etxepare Gwlad y Basg yn hyrwyddo cydweithio ym meysydd diwylliant a’r byd academaidd gyda phartneriaid rhyngwladol (prifysgolion, endidau diwylliannol, gwyliau, canolfannau celfyddydol, ac ati), i gynyddu presenoldeb a gwelededd rhyngwladol yr iaith Basgeg a chreadigrwydd cyfoes Gwlad y Basg ac i hyrwyddo cydweithredu a chyfnewid rhyngwladol.

3. Sefydlwyd y bartneriaeth rhwng Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Sefydliad Etxepare Gwlad y Basg i greu Cadair mewn Sosioieithyddiaeth a’i henwi ar ôl yr ieithydd nodedig Dr Alan R. King yn 2022. Mae’n rhaglen flynyddol er mwyn rhoi sylfaen gadarn i’r berthynas rhwng Cymru a Gwlad y Basg yn y maes blaenoriaeth hwn gan y ddwy wlad. Mae Cadair Alan R. King yn un o ddeuddeg o gadeiriau a gefnogir gan Sefydliad Etxepare Gwlad y Basg mewn prifysgolion ar draws y byd, a hon yw’r unig un ym maes polisi a chynllunio iaith.

4. Yn ieithydd dawnus, cyfrannodd y diweddar Dr Alan R. King i’r maes hwn am gyfnod o bedwar degawd, ar sawl cyfandir ac fe ddysgodd dros ugain o ieithoedd gan gynnwys gynnwys Nawatl, Hawaieg, Hebraeg, Cymraeg a Basgeg. Drwy gydol ei oes, defnyddiodd ei ddawn ieithyddol ryfeddol i wneud dysgu ieithoedd yn haws i eraill drwy greu adnoddau ymarferol ar gyfer ieithoedd lleiafrifedig a ieithoedd o dan fygythiad. Roedd yn aelod o Euskaltzandia, sef Academi’r Iaith Fasgeg. Ymhlith ei gyhoeddiadau yn Saesneg ar yr iaith Fasgeg mae ‘A Basque Course: A Complete Initiation to the Study of the Basque Language’ (1982), ‘The Basque Language: A practical Introduction’ (1994), ‘Colloquial Basque’ (1996), a’r olaf gyda Begotxu Olaizola, un a fu’n cyd-ddysgu Basgeg yn Aberystwyth gydag ef yn ystod y 1990au cynnar. Yn ystod y cyfnod hwn, cynhaliodd Alan a Begotxu ddosbarthiadau Basgeg a ddenodd dros ugain o Gymry. Dysgodd y ddau ohonynt Gymraeg yn rhugl. Gwnaeth gyfraniad sylweddol dros flynyddoedd lawer i hwyluso’r berthynas rhwng y ddwy wlad, gan groesawu dirprwyaethau o Gymru i Wlad y Basg, cyfieithu rhwng y ddwy iaith a throsglwyddo syniadau arfer da rhwng y ddwy gymuned.

5. Mae Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn cynnig cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr ôl-raddedig i weithio gydag arbenigwyr mewn amgylchedd deinamig a chefnogol. Croesawn ymholiadau am bynciau MPhil/PhD mewn unrhyw un o’n meysydd ymchwil.  Mae’r Ganolfan wedi ei lleoli mewn adeilad pwrpasol yn Aberystwyth, wrth ymyl Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llyfrgell hawlfraint o fri rhyngwladol gyda chyfleusterau ymchwil rhagorol. Am ragor o wybodaeth, neu i gael sgwrs anffurfiol am bynciau posibl, cysylltwch â’n Pennaeth Astudiaethau Ôl-raddedig, Dr Elizabeth Edwards: e.edwards@cymru.ac.uk.


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon