Skip page header and navigation

Ar ôl mwy na degawd yn y diwydiant lletygarwch, mae Silvio Lisciandrelli wedi cyfnewid gwres y gegin am y sbotolau cyflawni academaidd. Yr haf hwn, mae’r cogydd a anwyd yn yr Eidal yn dathlu graddio o raglen Rheolaeth Gastronomeg Rhyngwladol BA (Anrh)  Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn Abertawe, gan nodi taith drawsnewidiol o’r gegin i’r neuaddau darlithio ac ymlaen i ddyfodol sydd wedi’i lunio gan arbenigedd ymarferol a rhagoriaeth academaidd. 

A chef wearing a navy apron, standing proudly in a catering venue.

Roedd Silvio, sydd wedi gweithio yn y diwydiant lletygarwch ers 2013, wedi mireinio ei sgiliau yn yr Eidal cyn ail-leoli i Abertawe yn 2018. Mae wedi treulio sawl blwyddyn yn ennill profiad ymarferol mewn amrywiaeth o geginau, gan gynnwys Bwyty enwog Marco Peirre White, lle daeth ar draws dylanwad allweddol: Dr Jayne Griffith Parry, Cyfarwyddwr Academaidd, o gwrs Rheolaeth Gastronomeg Rhyngwladol PCYDDS

“Roedd cwrdd â Jayne wedi rhoi’r hyder oedd ei angen arnaf i ddychwelyd i addysg,” meddai Silvio.  “Roeddwn i eisiau ategu fy mhrofiad ymarferol gyda gwybodaeth ddamcaniaethol ac o’r diwedd,  gwblhau fy nhaith academaidd.” 

Cofrestrodd Silvio ar y cwrs yn PCYDDS, yn benderfynol o wthio heibio ei ansicrwydd am astudio mewn ail iaith ac amgylchedd academaidd anghyfarwydd.  “Pan ddechreuais i, roeddwn i’n ofnus na fyddai hyd yn oed yn gorffen y flwyddyn gyntaf,” cyfaddefodd.  “Ond gyda chefnogaeth anhygoel fy narlithwyr, des i o hyd i’r hyder i lwyddo.”

Yn ystod y cwrs, datblygodd Silvio ddealltwriaeth ddofn o gynaliadwyedd, marchnata a tharddiad, tra bod ei hoff agwedd yn parhau i fod ar leoliadau yn y byd go-iawn.   Un foment nodedig oedd ei leoliad yn The Beach House, bwyty â seren Michelin ym Mae Oxwich, y mae’n ei ddisgrifio fel “uchafbwynt fy natblygiad personol a phroffesiynol,” a lle mae bellach yn cael ei gyflogi’n llawn amser.

“Roedd cael y cyfle i ymgolli mewn amgylchedd mor safonol yn her wirioneddol a daeth yn yrfa i mi,” meddai.

Mae Silvio bellach yn cynllunio i astudio gradd feistr tra’n gweithio yn y diwydiant ac yn cynilo arian tuag at lansio ei fusnes ei hun.  Mae’n ystyried addysgu hefyd, gan fod awydd ganddo i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf drwy rannu ei brofiad. 

“Byddwn yn argymell y cwrs hwn yn gryf i unrhyw un sydd am ddyfnhau eu gwybodaeth broffesiynol,” meddai Silvio.  “Peidiwch ag ofni herio eich hun.  Mae’n fwy na gwerth chweil.”


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon