Y Drindod Dewi Sant a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn croesawu dirpwyaeth i gryfhau cydweithrediad Cymru-Malta ym maes arloesi iechyd
Roedd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn falch iawn o groesawu Uchel Gomisiynydd Malta, Ei Ardderchogrwydd Yr Athro Stephen Montefort, a Mr Reuben Mifsud, Conswl Anrhydeddus Malta yng Nghymru sydd newydd ei benodi, i’w champws SA1 Glannau Abertawe ddoe (dydd Mawrth, 14 Hydref).

Mae Ei Ardderchogrwydd yr Athro Montefort yn Athro Meddygaeth ac yn feddyg anadlol arbenigol, sydd wedi gwasanaethu fel Pennaeth yr Adran Feddygaeth ac fel Dirprwy Ddeon ym Mhrifysgol Malta.
Rhoddodd yr ymweliad gyfle i’r Brifysgol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda archwilio’r potensial ar gyfer cydweithio â sefydliadau ym Malta, gan gynnwys y Ganolfan Arloesi Cymdeithasol, menter ar y cyd rhwng y Drindod Dewi Sant a’r Bwrdd Iechyd.
Nod y Ganolfan yw helpu pobl i gymryd perchnogaeth o’u hiechyd a’u lles, adeiladu gwytnwch, a harneisio technoleg mewn gofal iechyd. Mae’r Ganolfan hefyd yn darparu cyfleoedd i arloeswyr brofi ac addasu eu syniadau o fewn sefydliadau mwy.
Cyflwynodd y Brifysgol a’r Bwrdd Iechyd rywfaint o’u gwaith cydweithredol cyfredol i’r Uchel Gomisiynydd a’r Conswl Anrhydeddus, ac amlygodd enghreifftiau o atebion digidol a ddatblygwyd i gynorthwyo strategaethau byw’n annibynnol a heneiddio’n iach, yn ogystal â diagnosis o bell o glefyd anadlol.
Dywedodd Is-Ganghellor y Drindod Dewi Sant, yr Athro Elwen Evans, CB: “Roedd yn bleser croesawu’r Uchel Gomisiynydd a’r Conswl er Anrhydedd i’r Brifysgol.
“Roedd yr ymweliad yn gyfle i ddangos effaith ein hymchwil gymhwysol ac arloesi iechyd ar y cyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ac i arddangos gwaith ein Canolfan Arloesi Cymdeithasol. Mae ein cydweithrediad eisoes yn darparu gwell canlyniadau iechyd a lles i bobl a chymunedau yng ngorllewin Cymru”.
Meddai’r Athro Phil Kloer, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, sydd hefyd yn feddyg anadlol:
“Roedd yn anrhydedd cwrdd â’i Ardderchogrwydd yr Athro Stephen Montefort a rhannu gydag ef y gwaith gwych sy’n cael ei wneud gyda’n partneriaid yn y Drindod Dewi Sant. Mae gwaith y Ganolfan Arloesi Cymdeithasol yn cefnogi ein hymdrechion i annog ein cymunedau i fyw bywydau iachach a hapusach.”
Ychwanegodd yr Athro Wendy Dearing, Pennaeth y Ganolfan Arloesi Cymdeithasol: “Crëwyd y Ganolfan Arloesi Cymdeithasol i ysgogi newid diwylliannol ac ymddygiadol parhaol yn lles meddyliol, corfforol ac emosiynol pobl yng Ngorllewin Cymru. Ei genhadaeth yw troi gweledigaeth yn lles trwy harneisio arloesedd, dewrder a chydweithrediad i newid bywydau er gwell. Roeddem wrth ein bodd i arddangos rhywfaint o’n gwaith, adeiladu ar y cyfleoedd y mae hyn yn eu cyflwyno, ac i ddysgu a rhannu gyda’n cydweithwyr o bob cwr o’r byd”.
Gwybodaeth Bellach
Eleri Beynon
Pennaeth
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: e.beynon@pcydds.ac.uk
Ffôn: 01267 676790