Skip page header and navigation

Mae astudiaeth newydd bwysig gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi datgelu tystiolaeth bwerus o effaith SKIP-Cymru: mae plant 4-7 oed mewn ysgolion SKIP-Cymru yn dangos dwywaith yn fwy o lefel sgiliau echddygol o gymharu â phlant mewn ysgolion nad ydynt yn ysgolion SKIP.

A child and adult playing with scarves

Cyhoeddwyd yr ymchwil yn y Journal of Motor Learning and Development, ac mae’n tynnu sylw at rywbeth prin mewn addysg: bron i dair blynedd ar ôl yr hyfforddiant, mae athrawon yn dal i ddefnyddio technegau SKIP-Cymru yn eu hymarfer bob dydd. Er bod llawer o fentrau yn pylu dros amser, mae SKIP-Cymru wedi parhau, gan weddnewid ystafelloedd dosbarth, gwella ffocws a hyder, a helpu plant i symud yn well a dysgu’n well.

Canfu astudiaethau blaenorol mai dim ond 12% o blant cyn oed ysgol oedd yn cyrraedd cerrig milltir echddygol priodol i’w hoedran, cyn i staff gwblhau’r hyfforddiant. Ar ôl cyflwyno SKIP-Cymru, cododd y ffigur hwnnw i 67%, tystiolaeth glir o bŵer ymyrraeth gynnar.

Mae’r newid parhaol hwn yn dangos pa mor drawsnewidiol yw’r rhaglen a faint mae’n gwella bywydau plant ledled Cymru.

Dywedodd yr Athro Cysylltiol Dr Nalda Wainwright:

“Ar adeg pan rydyn ni’n clywed mwy a mwy am blant yn cael trafferth gydag iechyd corfforol a meddyliol, mae canfyddiadau’r astudiaeth hon yn newyddion da iawn. Mae’n dangos bod hyfforddi staff gyda SKIP-Cymru yn cael effaith sylweddol ar y plant yn eu hysgolion.”

Mae symud yn bwysig. Mae’n siapio sut mae plant yn meddwl, yn cyfathrebu ac yn cysylltu. Mae ymchwil gyfredol yn rhybuddio bod gormod o blant yn colli allan ar sgiliau echddygol hanfodol, gan eu rhoi mewn mwy o berygl o heriau dysgu, cymdeithasol ac iechyd yn ddiweddarach mewn bywyd.

Mae SKIP Cymru, cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol, yn arfogi athrawon a staff y blynyddoedd cynnar â’r sgiliau i feithrin symudiad, hyder a datblygiad cyffredinol plant.

Croesawyd y canfyddiadau gan Awdurdod Lleol Abertawe, a ariannodd ysgolion a darpariaethau cyn-ysgol yn yr ardal i gael mynediad at hyfforddiant SKIP Cymru.

Meddai’r Cynghorydd Hayley Gwilliam:

“Rydym yn angerddol yn Abertawe am roi’r Dechrau Gorau mewn Bywyd i bob plentyn… Mae’n sgil hanfodol er mwyn iddynt fod y gorau y gallant fod.

“Roeddem yn ffodus i weithio mewn partneriaeth â PCYDDS a Dr Nalda Wainwright a’i thîm i fabwysiadu dull ysgol gyfan o weithredu rhaglen SKIP Cymru yn Ysgol Gynradd Gymunedol St Thomas. Rydym wrth ein bodd bod cyhoeddi ymchwil Nalda yn cefnogi’r dull hwn ac yn tynnu sylw at fanteision gweithio gyda’n gilydd i gefnogi anghenion datblygiadol plant o’r oedran cynharaf. Mae’r ffaith bod yr athrawon wedi gallu cefnogi plant i wella eu canlyniadau o ran datblygu symud yn wirioneddol wych i’r plant yn y gymuned ac yn dangos ein hymrwymiad i gefnogi pob plentyn yn Abertawe i fod y gorau y gallant fod!”

Mae’r canfyddiadau yn tanlinellu neges hanfodol: gall buddsoddi mewn hyfforddiant athrawon o ansawdd uchel yn awr newid dyfodol plant.


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon