Yr Adeilad Matrics Arloesi yn llawn: hwb ffyniannus ar gyfer arloesi digidol a menter
Mae adeilad Matrics Arloesi Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) bellach yn llawn, gan nodi carreg filltir sylweddol i ecosystem arloesi Glannau SA1 y Brifysgol.
Ers agor ei drysau, mae’r ganolfan o’r radd flaenaf sy’n 2,200 metr sgwâr, wedi dod yn hwb ffyniannus ar gyfer arloesi digidol, mentergarwch a chydweithio traws-sector. Mae’r Matrics Arloesi, sydd wedi’i leoli drws nesaf i adeiladau IQ a Fforwm PCYDDS, yn gartref i gymuned amrywiol o fusnesau blaengar ac arweinwyr diwydiant sydd bellach yn sbarduno twf a chreadigrwydd ar draws sectorau lluosog.
Meddai Dr Mark Cocks, Deon Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf yn PCYDDS, fod y garreg filltir yn adlewyrchu gweledigaeth y Brifysgol dros arloesi a chryfder cynyddol cydweithredu rhwng busnes ac addysg:
“Mae’r ffaith bod y Matrics Arloesi yn llawn yn arwydd glir o gryfder ac uchelgais ein hecosystem arloesi yma yn Abertawe. Mae’r gymuned deinameg hon yn dod ag arloeswyr, ymchwilwyr a myfyrwyr ynghyd mewn amgylchedd lle gall syniadau llwyddo a chydweithredu ffynnu.
“Mae’r Matrics Arloesi yn fwy nag adeilad, mae’n gatalydd am dwf, creadigrwydd a menter. Mae’n dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fydd academyddion a’r diwydiant yn gweithio ochr yn ochr i yrru datblygiad economaidd, meithrin talent, a llywio dyfodol digidol Cymru.”
Dywedodd y Cynghorydd Rob Steward, Arweinydd Cyngor Abertawe a Chadeirydd Pwyllgor Cydweithredol Bargen Ddinesig Bae Abertawe: “Mae gweld y Matrics Arloesi yn cyrraedd meddiannaeth lawn yn garreg filltir arwyddocaol a chyffrous i Fargen Ddinesig Bae Abertawe. Mae wedi dod yn gartref bywiog, blaengar i fwy na 22 o fusnesau ar draws ystod eang o sectorau, sefydliadau a fydd yn cydweithio, yn arloesi ac yn tyfu gyda’i gilydd.
“Wrth i ni symud y tu hwnt i ganolbwynt y Fargen Ddinesig, mae’n wych gweld cymaint o’n hadeiladau ar agor, yn weithredol ac yn ffynnu. Mae’r cynnydd hwn yn adlewyrchu uchelgais busnesau ar draws ein rhanbarth a’u cydnabyddiaeth o’r gwerth sy’n dod o fod yn rhan o amgylchedd cydweithredol lle mae syniadau ffres, ymchwil ac egni entrepreneuraidd yn cydgyfarfod.
“Mae hyd yn oed mwy i ddod trwy’r Fargen Ddinesig a mentrau ar y cyd ehangach, cyfleoedd a fydd yn parhau i gryfhau ein rhanbarth a helpu i adeiladu dyfodol mwy disglair a llewyrchus i bawb.”
Gyda phob uned bellach yn llawn, mae’r Matrics Arloesi yn cynnal cwmnïau sy’n rhychwantu ystod eang o ddiwydiannau, o dechnoleg feddygol a gwasanaethau iaith i atebion digidol ac ynni ar y môr. Mae tenantiaid presennol yr adeilad yn cynnwys:
Kaydiar Medical – Technoleg orthoteg arloesol ar gyfer atal clwyfau
BroadReach Integrity – Arbenigwyr mewn sganwyr canfod cyrydu
• Rockfield – Datblygwyr systemau efelychu uwch at ddefnydd diwydiant
ATiC – Prototeipio technoleg iechyd drwy brofion defnyddioldeb arloesol
Ffilmiau Gŵyr – Cwmni dim er elw yn dathlu adrodd straeon o Gymru
Wolfestone – Darparwyr gwasanaeth iaith byd-eang
Purus – Gwasanaethau morol sy’n canolbwyntio ar gymorth ynni glân
Visit Digidol – Codio a marchnata digidol
S8080 – Dylunio a datblygu gwasanaethau digidol diogel sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr a gwefannau ar gyfer y sector cyhoeddus
IDNS – Dylunio, integreiddio a gweithredu clyweledol ar gyfer y sector addysg
Shipmax – Datrys materion cludiant, TG a materion yn ymwneud â warysau ar gyfer gwerthwyr e-fasnach, brandiau, cludwyr parseli, anfonwyr cludo nwyddau a logisteg trydydd parti
Smiljan – Cwmni Peirianneg sy’n arbenigo mewn Hydrogen a Cherbydau Trydan
Ballington Hall Group – Arloesi meddygol
Ymhlith y gymuned o denantiaid yw David Barton, Cyd-Sylfaenydd a Chyd-Brif Swyddog Gweithredol Kaydiar ac meddai: “Mae adeilad Matrics Arloesi yn profi i fod yn lle gwych i gydweithredu â busnesau newydd a chyfleusterau ymchwil eraill, sy’n helpu gyda thwf ein cwmni. Mae trefnu a gweithredu prosiect Clyfar Arloesi DU yn ddigon anodd, ond mae cael eich cydweithredwyr a’ch partneriaid o dan yr un to yn fendith ac yn dwyn ffrwyth. Byddwn yn argymell hyn i fusnesau newydd eraill ym maes technoleg feddygol.”
Ychwanegodd Lee Woodman o Visit Digitol fod yr awyrgylch cydweithredol wedi bod yn drawsnewidiol i’w fusnes.
“Rwyf wrth fy modd o gwmpas busnesau digidol eraill, y rhwydweithio digymell, a’r sgyrsiau. “Rwyf wedi dechrau cydweithio â dau denant arall eisoes,” meddai. “Rydym i gyd yma i gryfhau ecosystem ddigidol ac arloesi Cymru a thrwy fod yn yr adeilad hwn, mae ymdeimlad ei fod yn bosibl.
“Mae bod yn agos at fyfyrwyr yn fantais hefyd. Mae’n anhygoel i allu manteisio ar eu sgiliau a’u syniadau ffres. Dyma’n blwyddyn orau hyd yn hyn. Efallai cyd-ddigwyddiad yw hi, ond mae cael eich amgylchynu gan gymaint o dalent, uchelgais a chymhelliad yn hynod ysgogol. Rydym yn teimlo’n ffodus i fod yn rhan o’r gymuned a’r diwylliant yn PCYDDS a denu busnesau o bob cwr o’r byd i weithio gyda ni a’n partneriaid yma yn Abertawe.”
Cyflwynwyd Matrics Arloesol drwy bartneriaeth strategol rhwng PCYDDS a Bargen Ddinesig Bae Abertawe, gan gynrychioli buddsoddiad o £6 miliwn i ddyfodol economaidd y rhanbarth. Cefnogodd y prosiect a gyflwynwyd gan Kier Construction, nifer o gyflenwyr a chontractwyr o Gymru drwy gydol ei ddatblygiad.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071