Skip page header and navigation

Mae’r Athro Mirjam Plantinga Yn Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol y Drindod Dewi Sant wedi derbyn y wobr am Gyfraniad Eithriadol i Addysg Cyfrwng Cymraeg gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Yr Athro Mirjam Plantinga yn derbyn gwobr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Yr Athro Mirjam Plantinga a'r Athro Elwen Evans yng ngwobrau y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Cyflwynwyd y wobr, sy’n cydnabod unigolion sydd wedi mynd y tu hwnt i’w rolau proffesiynol i hyrwyddo a gwella addysg cyfrwng Cymraeg, yn Seremoni Wobrwyo’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yng Nghaerfyrddin neithiwr (19 Mehefin)

Daw Mirjam yn wreiddiol o Egmond aan Zee yn yr Iseldiroedd, ac mae wedi dysgu Cymraeg trwy Ganolfan Gwasanaethau Cymraeg y Brifysgol. Mae’n parhau i dderbyn gwersi, ond yn ychwanegol at hynny mae’n ymroi’n llwyr i’r dasg gan ddarllen yn eang a chymryd cyfleoedd i gymdeithasu gyda’r gymuned Gymraeg leol, ac Eglwys Llanddarog yn benodol. Mae hi hefyd yn aelod ffyddlon o Gôr y Gangen yn y Brifysgol ac yn canu mewn nifer o ddigwyddiadau a gwasanaethau yn ystod y flwyddyn. 

Hi sydd â chyfrifoldeb dros brofiadau academaidd yn y brifysgol. Gyda chefnogaeth lawn tîm rheoli’r Brifysgol, mae wedi gweithio’n dawel ond yn ddiwyd i newid y ffordd y mae addysg cyfrwng Cymraeg, a materion sy’n ymwneud â thwf addysg cyfrwng Cymraeg yn benodol, yn cael eu cynllunio’n strategol gan y Brifysgol.

Cafodd ei enwebu gan Bethan Wyn, sy’n gweithio fel Rheolwr Addysg Cyfrwng Cymraeg yn y brifysgol. Dywedodd:

“Yr hyn sy’n nodweddu Mirjam yw ei hymrwymiad i sicrhau mai profiad y myfyriwr sy’n dod gyntaf waeth beth yw eu cefndir. Mae hynny’n cynnwys unigolion sy’n dymuno derbyn profiadau cyfrwng Cymraeg ar draws ein campysau gan sicrhau bod y cynlluniau yma yn rhoi mynediad ac anogaeth i siaradwyr llai hyderus a myfyrwyr o gefndiroedd sy’n cael eu tangynrychioli.

Mae Mirjam  wedi gweithio gydag eraill i wneud yn siŵr bod darpariaeth cyfrwng Cymraeg, yn un o ystyriaethau craidd prosesau cynllunio cwricwlwm y Brifysgol. Yn seiliedig ar ddata sy’n dangos gallu ieithyddol staff a myfyrwyr fesul pwnc a champws, nododd Mirjam feysydd posibl ar gyfer datblygiad newydd a sicrhaodd ddarpariaethau penodol ychwanegol o fewn cynnig cyfrwng Cymraeg y Brifysgol.

Dywedodd Mirjam. “Dw i mor ddiolchgar i dderbyn y wobr hon.  Hoffwn i ddiolch i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am yr anrhydedd ac anogaeth enfawr.

“Dw i’n gobeithio y bydd ein cymuned o fyfyrwyr a chydweithwyr yn elwa o’m gwobr ac y byddwn yn parhau i ddatblygu’r profiadau Cymreig a chyfleoedd academaidd i’n myfyrwyr.

“I’r dyfodol, dw i’n edrych ymlaen i chwarae fy rhan yn datblygu addysg cyfrwng Cymraeg, a sicrhau fod yr iaith yn ffynnu, yn y Brifysgol.”

Ychwanegodd Yr Athro Elwen Evans, Is Ganghellor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant:

“Mae Mirjam wedi dod â’r iaith Gymraeg i frig blaenoriaethau cynllunio’r Brifysgol mewn gweithred yn ogystal ag ar air. Mae hi’n eiriolwr angerddol dros yr iaith ar sawl lefel, ac wedi sicrhau y gall gyfrannu at, llunio a deall prosesau gwneud penderfyniadau’r Brifysgol yn y Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg. Mae’r Wobr Cyfraniad Rhagorol hon yn haeddiannol iawn ac yn dystiolaeth wirioneddol o’i hymrwymiad i’r iaith Gymraeg.”


Gwybodaeth Bellach

Eleri Beynon

Pennaeth
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: e.beynon@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 01267 676790

Rhannwch yr eitem newyddion hon