Yr hanes tu ôl i “Mummifying Alan”: Myfyrwyr y Drindod Dewi Sant yn cwrdd â’r arbenigwyr y tu ôl i’r wyddoniaeth
Cafodd myfyrwyr ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant gyfle prin ac ysbrydoledig i gysylltu eu hastudiaethau ag ymchwil arloesol drwy sesiwn ar-lein ryngweithiol gydag arbenigwyr blaenllaw mewn Eifftoleg a gwyddoniaeth archeolegol.
Ar 19 Mawrth 2026, cymerodd myfyrwyr o’r Athrofa Addysg a’r Dyniaethau ran mewn trafodaeth arbennig fel rhan o’u modwl Bywydau Hynafol mewn Marwolaeth, a astudiwyd gan y rhai ar y rhaglenni BA Archaeoleg, BA Gwareiddiadau Hynafol, a sawl rhaglen cydanrhydedd. Roedd y sesiwn yn cynnwys yr Athro Joann Fletche, Eifftolegydd enwog, a Dr Stephen Buckley, y cemegydd.
Roedd y digwyddiad yn canolbwyntio ar y rhaglen ddogfen glodwiw Mummifying Alan: Egypt’s Last Secret, cynhyrchiad arobryn Channel 4 a oedd yn archwilio ail-greu technegau mymïo Aifft yr henfyd. Derbyniodd y rhaglen ddogfen gydnabyddiaeth eang, gan gynnwys BAFTA, Gwobr y Gymdeithas Deledu Frenhinol, a gwobr y Gymdeithas Darlledu Rhyngwladol.
Yn ystod y sesiwn 90 munud, ymgysylltodd myfyrwyr yn uniongyrchol â’r ymchwilwyr y tu ôl i’r prosiect, gan gael mewnwelediad i darddiad, datblygiad ac effaith barhaus y gwaith. Yn enwog, dilynodd y prosiect Alan Billis, gyrrwr tacsis o Torquay a roddodd ei gorff, ar ôl cael diagnosis o ganser yr ysgyfaint terfynol, i wyddoniaeth i helpu i wella dealltwriaeth o arferion pêr-eneinio Aifft yr henfyd.
Wedi’i chymedroli gan yr Athro Cysylltiol Dr Katharina Zinn, caniataodd y drafodaeth i fyfyrwyr archwilio ystod eang o bynciau, gan gynnwys y gorgyffwrdd sydd rhwng gwyddoniaeth a’r Dyniaethau, ystyriaethau moesegol mewn cyd-destunau hynafol a modern, a pherthnasedd parhaus ymchwil archeolegol wrth fynd i’r afael â chwestiynau cyfoes.
Cyfrannodd myfyrwyr yn weithredol at y sesiwn, gan ofyn cwestiynau meddylgar am rôl archaeoleg arbrofol, dimensiynau emosiynol gweithio gyda gweddillion dynol, a sut mae systemau gwybodaeth hynafol yn llywio dulliau gwyddonol modern. Roedd y sgwrs hefyd yn cyffwrdd â themâu ehangach fel gofal, systemau credo, a natur esblygol arferion angladd.
Tynnodd Dr Katharina Zinn sylw at bwysigrwydd profiadau o’r fath wrth gyfoethogi’r hyn mae myfyrwyr yn ei ddysgu:
“Mae cyfleoedd fel hyn yn caniatáu i’n myfyrwyr ymgysylltu’n uniongyrchol ag ymchwilwyr blaenllaw a phrosiectau blaengar, gan ddod â’u hastudiaethau yn fyw mewn ffordd wirioneddol ystyrlon. Roedd yn wych gweld dyfnder eu cwestiynau a’u brwdfrydedd dros archwilio materion cymhleth sy’n eistedd ar groesffordd archaeoleg, gwyddoniaeth a’r Dyniaethau.”
Adfyfyriodd Caradoc Ewing, myfyriwr Archaeoleg yn y drydedd flwyddyn, ar y profiad:
“Roedd cwrdd â Steven Buckley a Jo Fletcher yn gyfle gwych i gael atebion i gwestiynau llosg a dysgu sut roedd eu priod feysydd, sef cemeg ac Eifftoleg, yn gorgyffwrdd yn yr ymchwil a arweiniodd at ‘Mummifying Alan’. Roedd deall eu proses ymchwil yn caniatáu i mi geisio olrhain rhai o’u camau yn fy astudiaeth fy hun; ac ar ben hynny, roedd yn caniatáu i mi ddeall yn well y cysylltiad emosiynol unigryw a deimlodd y pâr, y mae’n rhaid bod yr Eifftiaid hefyd wedi’i deimlo â’u meirw.”
Ychwanegodd yr Athro Joann Fletcher:
“Roedd y sesiwn yn gyfle gwych i drafod ein prosiect mymïo gyda myfyrwyr ac i esbonio pwyntiau allweddol, gan gynnwys sut mae’r darganfyddiadau gwyddonol yn helpu i esbonio agweddau ar ymarfer angladdol Aifft yr henfyd nad oeddem yn eu deall o’r blaen. Yn sicr, rydyn ni ein hunain wedi dysgu cymaint yn ystod y broses ac ers hynny, felly mae bob amser yn wych cael y cyfle i rannu hyn gyda myfyrwyr, yn ein modylau yma yn Efrog ac ymhellach i ffwrdd, yn enwedig pan fo’r lefelau diddordeb ac ymgysylltu mor uchel”
Daeth y sesiwn i ben gyda thrafodaeth fywiog ar p’un a ellid byth ystyried mymïo yn arfer angladdol modern, gan dynnu sylw at sut mae astudiaeth o’r gorffennol yn parhau i lywio dadleuon presennol ac yn y dyfodol.
Gwybodaeth Bellach
Arwel Lloyd
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467076