Ysgogwyr Newid: Adeiladu Eich Brand Personol ar gyfer Cyflogaeth Gynaliadwy
Bu myfyrwyr o’r cwrs BA Dylunio Graffig ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn cymryd rhan mewn digwyddiad cyflogadwyedd ysbrydoledig Ysgogwyr Newid y mis hwn, o’r enw “Adeiladu Eich Brand Personol ar gyfer Cyflogaeth Gynaliadwy.”
Roedd sesiwn y prynhawn, dan arweiniad Rachael Wheatley, perchennog a chyfarwyddwr creadigol Waters Creative, yn cyfuno mewnwelediad i’r diwydiant, straeon personol, a heriau creadigol a gynlluniwyd i adeiladu hyder a sgiliau proffesiynol myfyrwyr.
Roedd y digwyddiad yn rhan o fodwl Ysgogwyr Newid y myfyrwyr ac fe’i mynychwyd gan ddeuddeg myfyriwr ail flwyddyn o Goleg Celf Abertawe y Brifysgol. Agorodd Rachael y sesiwn gyda sgwrs ddifyr am ei thaith greadigol ei hun, o weithio mewn diwydiant i weithio ar ei liwt ei hun ac yn y pen draw sefydlu’r asiantaeth ddylunio lwyddiannus Waters Creative. Roedd ei chyflwyniad yn llawn cyngor ymarferol i fyfyrwyr sy’n awyddus i weithio mewn stiwdios creadigol neu ddilyn gyrfaoedd llawrydd, a’r cyfan yn cael ei ategu gan ei neges:
“Mae popeth yn dechrau gyda syniad, ond mae angen i chi gredu ynoch chi eich hun – mae ffydd a hyder yn magu llwyddiant.”
Yn dilyn y sgwrs, cymerodd myfyrwyr ran mewn cyfres o weithdai creadigol bywiog a gynlluniwyd i annog cydweithredu, meddwl yn gyflym, a datrys problemau yn ddyfeisgar. Gan weithio mewn grwpiau bach, aethant ati i greu delweddau o anifeiliaid gan ddefnyddio nodiadau post-it wedi’u rhwygo yn unig ac adeiladu tirnodau enwog gan ddefnyddio gwellt, tâp a phapur, deunyddiau syml a oedd yn eu herio i feddwl yn greadigol o dan bwysau.
Dywedodd y fyfyrwraig Martha Stephens: “Mae’n wych ein bod ni’n cael gweithwyr proffesiynol fel Rachael yn ymweld â ni yma yn PCYDDS. Dysgais lawer o’i chyflwyniad, ac roedd y tasgau creadigol yn heriol ac yn llawer o hwyl.”
Dywedodd y darlithydd entrepreneuriaeth, Ian Simmons: “Mae digwyddiadau fel hyn yn rhan greiddiol o ymrwymiad PCYDDS i gysylltu addysg â phrofiad yn y byd go iawn. Atgyfnerthodd sesiwn Rachael bwysigrwydd hunan-gred, y gallu i addasu, a chydweithredu’n greadigol, sgiliau sy’n hanfodol ar gyfer llwyddiant yn y byd dylunio a chyfathrebu sy’n newid mor gyflym.”
Dywedodd Rachael Wheatley: “Roeddwn yn falch iawn o weithio gyda grŵp mor frwd a thalentog o fyfyrwyr. Mae’r diwydiannau creadigol yn symud yn gyflym, ac mae sesiynau fel hyn yn helpu i baratoi myfyrwyr ar gyfer realiti’r byd hwnnw, gan eu hannog i ganfod eu llais ac adeiladu eu brand personol gyda dilysrwydd a hyder.”
Ychwanegodd Ian: “Mae cysylltiadau cryf â diwydiant yn nodwedd ddiffiniol o raglenni creadigol PCYDDS. Mae’r mewnwelediadau a’r cyfleoedd a geir o sesiynau fel hyn yn sicrhau bod graddedigion yn meddu ar y cymwyseddau sydd eu hangen i ffynnu mewn maes cyflogaeth sy’n esblygu’n gyflym.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071