Casgliadau Arbennig y Drindod Dewi Sant yn dathlu trysorau Jane Austen
Mae’r 16 Rhagfyr yn ddiwrnod arbennig iawn i selogion Jane Austen gan ei fod yn nodi pen-blwydd yr awdur annwyl ac eiconig.
Mae eleni yn nodi 250 mlynedd ers ei geni ac i ddathlu’r achlysur, bydd Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn agor ei drysau i’r cyhoedd i arddangos trysorau Jane Austen a gedwir yn ei Chasgliadau Arbennig.
Mae’r arddangosfa yn cynnwys cyfrol sy’n cario llofnod Jane Austen, gyda dwy arall wedi’u llofnodi gan ei chwaer Cassandra.
Meddai Ruth Gooding, Llyfrgellydd Casgliadau Arbennig: “Mae gennym dair cyfrol fach o straeon i blant yn Ffrangeg, L’ami de l’adolescence, gan Arnaud Berquin. Ysgrifennodd Berquin straeon moesol a fwriadwyd i’w darllen gan deuluoedd cyfan gyda’i gilydd am blant a disgrifiodd ddigwyddiadau cymharol fach bob dydd, gan adael allan chwedlau a straeon tylwyth teg. Llofnodwyd un o’n cyfrolau gan Jane Austen ei hun a’r ddwy arall gan ei chwaer hŷn Cassandra. Maent yn dyddio o 1784 a 1785 a daeth atom trwy gasgliad David Salmon, pennaeth Coleg Hyfforddi Abertawe rhwng 1892 a 1932”.
“Byddwn yn cynnal arddangosfa galw heibio rhwng 10am a 12 hanner dydd o ddeunydd sy’n gysylltiedig â Jane Austen ar fore 16 Rhagfyr, gyda digwyddiad mwy ffurfiol rhwng 2pm a 4pm i gynnwys sgwrs fer am y cyfrolau sydd wedi’u llofnodi gan Austen, ac yna gyfle i edrych ar yr eitemau. Rydym hefyd yn arddangos detholiad o lyfrau a grybwyllir yn ei hysgrifau. Bydd y llyfrgell ar agor yn ystod y dyddiau canlynol fel bydd pobl yn cael y cyfle i alw heibio i weld yr arddangosfa”.
Mae’r digwyddiad agored yn rhan o gyfres fisol a drefnir gan dîm Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen.
Mae archebu ymlaen llaw yn hanfodol. E-bostiwch Ruth Gooding (r.gooding@uwtsd.ac.uk) i gadw lle.
Gwybodaeth Bellach
Eleri Beynon
Pennaeth
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: e.beynon@pcydds.ac.uk
Ffôn: 01267 676790