Skip page header and navigation

Mae Tîm Pêl-droed Dynion Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi sicrhau Teitl Cynghrair Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS) Haen 6 y Gorllewin drwy fuddugoliaeth ysgubol o 9-0 i ffwrdd yn erbyn Prifysgol Caerloyw.

The UWTSD football team stand in their kit taking a team photo inside the goal

Dyma ddiweddglo i dymor lle mae’r tîm wedi ennill pob un gêm gynghrair, wedi sgorio 44 o goliau gan ildio 2 gôl yn unig drwy’r tymor cyfan er mwyn ennill y teitl yn gyfan gwbl mewn modd haeddiannol. Mae eu llwyddiant diweddar yn sicrhau eu dyrchafiad ar gyfer y tymor nesaf i Haen 5 ym mhyramid Pêl-droed Dynion BUCS. 

Mae’r chwaraewyr wedi dangos lefel o ymrwymiad i’r tîm wythnos ar ôl wythnos drwy gydol y tymor. Mae eu harddull chwarae wedi esblygu gydol y tymor, ac fe wnaeth y pum gêm olaf arddangos eu datblygiad fel tîm i gyflawni rhai perfformiadau gwych.

Roedd 13 gôl gynghrair Myles Perkins a 12 gôl gynghrair Nico Sofiu yn berfformiadau unigol nodedig, a wnaeth gyda’i gilydd gyfrannu at fwy na hanner cyfanswm y tîm ar gyfer y tymor. Yn dîm sydd wedi’i adeiladu ar ddisgyblaeth a chyfradd gwaith amddiffynnol, gellid priodoli’r chwe llechen lân a gyflawnwyd i’r golwyr Jake Stephens a Rhys Mansell i raddau helaeth, tra oedd yr amddiffynwyr canol, Matthew Francis, Owain Davies a Luke McDonalds, yn ddigynnwrf wrth amddiffyn ac yn arbennig o drawiadol â meddiant, gan gychwyn mwyafrif yr ymosodiadau llwyddiannus o’u hanner eu hunain yn aml.

Hoffai’r tîm a’r staff hyfforddi ddiolch i Bryn Jones a fu’n ddyfarnwr ym mhob un o’r gemau cartref, ac maen nhw’n teimlo’n ffodus iawn o’i gael yn rhan o’r trefniant pêl-droed yma yn y Brifysgol o ystyried ei CV llwyddiannus iawn fel dyfarnwr. 

Dywedodd Martyn Bowles, Pennaeth Pêl-droed yn PCYDDS: 

“Er mai ennill y gynghrair oedd ein nod yn y pen draw, y maes datblygiad mwyaf boddhaus oedd ein harddull chwarae. Mae’r chwaraewyr wedi esblygu er mwyn gallu ymateb i sawl senario gwahanol ac addasu i ddod o hyd i ffordd o ennill bob tro.

“Rwy’n rhoi pwyslais mawr ar ddatblygiad fel myfyrwyr athletwyr. Rydw i am annog y chwaraewyr i fuddsoddi yn y tîm a dysgu fel y byddent yn eu hastudiaethau academaidd. Nid yw ein safonau wedi gostwng erioed ac mae hynny wedi arwain atom yn ennill ein teitl cynghrair cyntaf gyda’n gilydd.

“Hoffwn ddiolch i Daniel Kivi, yr Hyfforddwr Cynorthwyol; James Dillion, yr Hyfforddwr Golwyr; y Therapyddion Chwaraeon, Richard, Naomi, a Ryan; ochr yn ochr ag Undeb y Myfyrwyr am eu holl gymorth y tymor hwn. Mae’r amgylchedd yr ydym wedi’i greu mor broffesiynol ag y gall fod, ac mae teitl y gynghrair yn fesur o’r llwyddiant hwnnw yr ydym wedi’i gael yn iawn ar y cae ac oddi arno. Rydym yn edrych ymlaen at y tymor nesaf yn y gynghrair newydd ac yn croesawu staff a myfyrwyr i ddod i gefnogi’r chwaraewyr yn ein gemau cartref yn CPD Tref Caerfyrddin, ni chewch eich siomi!” 

Ychwanegodd Lee Tregoning, Pennaeth Academi Chwaraeon PCYDDS:

“Llongyfarchiadau enfawr i’r tîm, pwyllgor y clwb, yr hyfforddwyr, y staff cymorth ac Undeb y Myfyrwyr. Mae’r berthynas waith rhwng y Clwb, Undeb y Myfyrwyr a’r Academi wedi bod yn ardderchog ac mae’r canlyniadau ar y cae ac oddi arno wedi bod yn hynod galonogol ar gyfer y dyfodol.”

Os oes gan unrhyw fyfyrwyr presennol neu gyn-fyfyrwyr ddiddordeb mewn ymuno â’r Clwb Pêl-droed yn y brifysgol, cysylltwch â Martyn Bowles (M.Bowles@uwtsd.ac.uk). Mae’r Clwb Pêl-droed yn cynnig darpariaeth Dynion a Menywod ar gyfer pob gallu. Byddai’n wych gweld y niferoedd yn tyfu’r tymor nesaf ac adeiladu ar lwyddiant y tîm y tymor hwn. 


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau