Cyhoeddi Cyrsiau Hyfforddiant Uwch Newydd ar Wella Adeiladwaith Ôl-osod (ERFIT)
Mae’n bleser gan Ganolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru (CWIC) Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) gyhoeddi rhaglen hyfforddiant ymarferol newydd i gefnogi’r wybodaeth dechnegol a’r sgiliau arbenigol mawr eu hangen ar gyfer gosod, cynghori a datrys problemau prosiectau ôl-osod presennol a newydd.

Yn cael ei adnabod fel ERFIT (Hyfforddiant Uwch ar Wella Adeiladwaith Ôl-osod) mae’r hyfforddiant hwn a ariennir yn llawn yn ategu prosiect Effeithlonrwydd Heb Gyfaddawd presennol CWIC sydd eisoes yn darparu dysgu i ddylunwyr a masnachwyr yn egwyddorion a thechnegau safon Passivhaus.
CWIC yw’r sefydliad cyntaf y tu allan i Loegr sy’n cynnig y cwrs hwn, a gefnogir yn llawn gan Ymddiriedolaeth Passivhaus.
Yn gyntaf bydd dau ddiwrnod o gyflwyno ar-lein ar y cwrs ERFIT. Bydd amrywiaeth o bynciau yn cael eu trafod o egwyddorion adeiladu gwneuthuriad yn gyntaf, y berthynas rhwng allyriadau carbon a thai, i’r dirwedd ôl-osod. Ar y trydydd diwrnod, bydd gweithdy wyneb yn wyneb lle bydd cynrychiolwyr yn dysgu drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau gwahanol a’u cwblhau. Bydd y trydydd diwrnod, sef diwrnod olaf yr hyfforddiant yn cael ei gynnal yng nghyfleusterau CWIC sydd ag adnoddau da yn Adeilad IQ ar Gampws Glannau Abertawe.
Yn ogystal, mae CWIC yn cynnig sesiynau ôl-osod Passivhaus ymarferol byrrach 2.5 awr o hyd ar y pynciau canlynol:
- Aerglosrwydd ac awyru
- Inswleiddio a phontio thermol
- Ffenestri, drysau ac aerglosrwydd
Bydd y rhaglen sydd wedi’i hanelu’n benodol at y rhai sy’n dylunio ac adeiladu adeiladau ynni-effeithlon yn cynnwys darlithoedd, gweminarau ac arddangosiad o astudiaethau achos strwythurol Cymreig presennol.
Cyflwynir yr hyfforddiant gan ddarlithwyr PCYDDS sydd wedi hyfforddi gyda’r Athro Steve Bertasso o New Model Institute for Tech & Engineering (NMITE) yn Henffordd. Bydd y darlithydd PCYDDS Alun Watkins sy’n Ymgynghorydd Ardystiedig Passivhaus a chontractwr adeiladu cynaliadwy yn dysgu ar ddiwrnodau damcaniaethol y cwrs ERFIT. Bydd yr Uwch Ddarlithydd Ian Brown PCYDDS sy’n arbenigwr adeiladu cynaliadwy yn cyflwyno’r sesiwn ymarferol a’r sesiynau 2.5awr byrrach.
Dywedodd Gareth Evans, Pennaeth CWIC
“Mae’n fraint bod Ymddiriedolaeth Passivhous wedi ymddiried yn CWIC i arwain y ffordd o ran darparu hyfforddiant ôl-osod hanfodol yng Nghymru. Mae’r rhaglen hon yn hanfodol ar gyfer darparu masnachwyr, dylunwyr a gweithwyr proffesiynol gyda’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i greu cartrefi ac adeiladau mwy ynni-effeithlon ar gyfer ein cymunedau. Yn ogystal, bydd yr hyfforddiant hwn yn cael ei ymgorffori yn ein rhaglenni academaidd yn yr Ysgol Pensaernïaeth, Adeiladu a’r Amgylchedd yn PCYDDS, gan sicrhau effaith ac arloesi hirdymor mewn arferion adeiladu cynaliadwy.”
Gan fod Cyngor Sir Gâr wedi buddsoddi eisoes mewn adeiladu ysgolion newydd i safon Passivhous, mae’r hyfforddiant sydd wedi’i ariannu’n llawn yn cael ei dargedi at y rhai sy’n byw neu’n gweithio yn Sir Gâr, a allai fod yn aelod o’r grwpiau canlynol:
- Penseiri a pheirianwyr
- Crefftwyr a Chontractwyr,
- Staff Rheoli Cyfleusterau
- Arolygwyr Adeiladu
- Myfyrwyr / Staff Addysg Bellach ac Addysg Uwch
- Grwpiau Cymunedol.
Mae ERFIT yn cael ei gefnogi gan dri gwneuthurwr sy’n darparu samplau i ddysgwyr eu defnyddio yn ystod y diwrnodau hyfforddiant ymarferol.
- Mae Ecological Building Systems wedi mabwysiadu dull ‘Ffabrig yn Gyntaf’ ar gyfer dylunio, gan ddefnyddio mwy o ddeunyddiau naturiol i wneud y gorau o berfformiad a gwytnwch adeiladau. Maent wedi darparu tapiau a philenni ar gyfer y gweithdai.
- Mae’r cwmni Cymreig GRM Windows sydd wedi bod yn dylunio, datblygu a darparu ffenestri a drysau o’r safon uchaf ers dros 40 o flynyddoedd wedi rhoi adrannau o ffenestri PVC/Alu sydd wedi’u gwneud yng Nghymru i safonau dylunio Passivhaus. Mae’r Rheolwr Gyfarwyddwr Richard Gambling yn awyddus i ddysgwyr ddeall pa mor hanfodol yw ansawdd wrth ddylunio ac adeiladu a/neu osod manylebau ffenestri.
- Mae’r pennwr technegol Partel yn datblygu systemau arloesol sy’n annog ac yn hyrwyddo’r diwydiant adeiladu gwyrdd. Mae’r cwmni’n rhoi tapiau a philenni ar gyfer y sesiynau gweithdy. Yn 2013 daeth Partel yn gyflenwr unigryw systemau awyru diganoli LUNOS yn Iwerddon a’r DU; ac mae Partel wedi rhoi model demo o LUNOS i’w ddefnyddio gan ein dysgwyr.
Ariennir yr hyfforddiant yn llawn gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (SPF), a bydd angen cadw lleoedd trwy gysylltu â Julie Evans yn CWIC: julie.evans@uwtsd.ac.uk neu gellir ei archebu ar-lein yn CWIC.Cymru.
Mae’r dyddiadau ar gyfer yr hyfforddiant 3 diwrnod ERLIT fel y ganlyn:
- Carfan 1 – hyfforddiant ar-lein: 4.5 Tachwedd 2024 a 11-12 Tachwedd 2024
- Hyfforddiant ymarferol ar 14 Tachwedd 2024
- Carfan 2 – Hyfforddiant ar-lein: 2-3 Rhagfyr a 9-10 Rhagfyr 2024
- Hyfforddiant ymarferol ar gyfer carfanau 3 a 4: 12 Rhagfyr 2024
Bydd sesiynau ymarferol 2.5awr Ôl-osod Passivhaus yn dechrau ar 31 Hydref rhwng 10.00am a 12.30pm a rhwng 1.30pm a 4pm bob dydd Iau.
Gwybodaeth Bellach
Arwel Lloyd
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467076