Skip page header and navigation

Pan fydd y darlithydd o’r Drindod Dewi Sant, Ken Dicks, yn croesi’r llwyfan yn y seremoni raddio heddiw i dderbyn ei radd Meistr mewn Tegwch ac Amrywiaeth mewn Cymdeithas, bydd yn gam pwysig arall yn ei daith ddysgu bersonol. 

Gan wisgo gwisg academaidd, mae Ken Dicks yn gwenu tuag at y camera.

Ymunodd Ken â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant fel darlithydd oedd yn cael ei dalu fesul awr ym mis Medi 2016 i addysgu Addysg Gynhwysol, Astudiaethau Cymdeithasol ac Eiriolaeth. Yn sgil ei gefndir yn cefnogi pobl ifanc, teuluoedd ac ysgolion i fynd i’r afael ag effaith amddifadedd, roedd ganddo gyfoeth o brofiad i’w gyflwyno i’w waith addysgu.

Ychydig a wyddai y byddai hyn hefyd yn ysbrydoli ei lwybr gyrfa ei hun wrth iddo ddychwelyd i ddysgu.

Meddai: “Er bod symud i addysgu yn Addysg Uwch yn peri ofn ar y dechrau, yn sgil cefnogaeth fy nghydweithwyr a’r adborth gan fyfyrwyr, fe wnes i fagu hyder yn fy rôl.”

Anogwyd Ken i ddatblygu ei ddealltwriaeth ymhellach o’r materion a wynebir gan unigolion yn y gymdeithas ac, felly, i gyfoethogi ei waith addysgu. Wrth sgwrsio gyda’i gydweithiwr, yr Athro Cysylltiol Caroline Lohmann-Hancock, cafodd ei annog i ddechrau’r MA mewn Tegwch ac Amrywiaeth mewn Cymdeithas, fel myfyriwr rhan-amser gan barhau i addysgu’n llawn amser.  

Meddai: “Mae astudio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol a myfyrwyr eraill sydd wedi ymroi i hyrwyddo tegwch yn y gymdeithas wedi tanio fy mrwdfrydedd ymhellach a, gobeithio, wedi gwella fy ngwaith addysgu drwy ddarparu mewnwelediadau i gynifer o agweddau ar ein cymdeithas gymhleth. Ar ôl pasio’r elfen a addysgir o’r radd Meistr, symudais ymlaen i ymchwilio i’r rôl y gall ymyriadau dan arweiniad cymheiriaid ei chwarae wrth gefnogi myfyrwyr o wahanol gefndiroedd ar eu taith drwy addysg uwch. Rwy’n bwriadu defnyddio’r ymchwil hwn wrth gefnogi rhaglenni o’r fath yn y dyfodol.

Mae Ken wedi gallu defnyddio’r wybodaeth mae wedi’i hennill yn ei waith addysgu ar y graddau BA Eiriolaeth a BA Cymdeithaseg ac mae bellach hefyd yn addysgu ar y rhaglen MA Tegwch ac Amrywiaeth.  Mae hefyd yn Rheolwr Rhaglen ar gyfer y rhaglenni BA Eiriolaeth a Chymdeithaseg.

Ychwanegodd, “cafodd fy nghynnydd tuag at y radd meistr ei arafu gan nifer o ffactorau ond fe wnes i elwa o gefnogaeth fy nghydweithwyr yn y tîm a’r uned Gwasanaethu Myfyrwyr ac rwy’n falch i fod wedi cyflawni fy ngradd. Rwy’n edrych ymlaen at ddefnyddio’r hyn rwyf wedi’i ddysgu a’r rhwydwaith o gyd-fyfyrwyr rwy wedi’i ffurfio, yn fy ngwaith addysgu yn y dyfodol”.

Meddai’r Athro Cysylltiol Caroline Lohmann-Hancock:  “Llongyfarchiadau i Ken ar ennill Rhagoriaeth haeddiannol iawn yn ei radd MA Tegwch ac Amrywiaeth mewn Cymdeithas. Bu Ken yn astudio tra’r oedd yn gweithio fel Rheolwr Rhaglen ar gyfer y rhaglenni BA Eiriolaeth a BA Cymdeithaseg yn y Drindod Dewi Sant.

“Mae bellach yn rhoi’i wybodaeth a’i ddealltwriaeth o’r dyfarniad hwn ar waith i gefnogi myfyrwyr eraill i ddatblygu eu cyfleoedd gyrfa, ac mae hefyd wedi dod yn aelod o’r tîm darlithio ar gyfer y radd MA Tegwch ac Amrywiaeth mewn Cymdeithas.” 


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau