Dathlu 60 Mlynedd o Ioga: BWY Cymru a'r Drindod Dewi Sant yn Cynnal Gŵyl Ioga Cymru 2025
Mae’r British Wheel of Yoga (BWY) Cymru, mewn cydweithrediad â Sefydliad Cytgord Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn falch iawn o gyhoeddi Gŵyl Ioga Cymru 2025.

Cynhelir y digwyddiad hybrid hwn ddydd Sadwrn 28 a dydd Sul 29 Mehefin 2025 ar gampws y Drindod Dewi Sant yn Llambed ac ar-lein. I nodi pen-blwydd y British Wheel of Yoga yn 60 oed, mae’r ŵyl yn canolbwyntio ar y thema “Natur, Cymuned a Llesiant,” wedi’i ysbrydoli gan Harmony: A New Way of Looking at Our World gan Dywysog Cymru ar y pryd. Bydd y sawl sy’n mynychu yn archwilio sut y gall ailgysylltu â natur, meithrin cymuned, ac ymgysylltu mewn ymarfer ymwybodol adfer cydbwysedd ynom ni ein hunain a’r byd.
Dywedodd Dr Nick Campion, Cyfarwyddwr Sefydliad Cytgord yn Y Drindod Dewi Sant:
“Rydym wrth ein bodd yn croesawu y BWY i Lanbedr Pont Steffan unwaith eto. Mae’r ŵyl hon yn cynnig cyfle unigryw i archwilio’r cysylltiadau dyfnach rhwng lles, natur, a’r cosmos. Mae’n ddathliad nid yn unig o ioga, ond o egwyddor cytgord wrth wraidd ein perthynas â’r byd.”
Ychwanegodd Diana O’Reilly, Cadeirydd y BWY:
“Rydym wrth ein bodd yn cydweithio unwaith eto â Sefydliad Cytgord i ddod â’r profiad hwn i Gymru. Wrth i ni ddathlu 60 mlynedd o’r British Wheel of Yoga, mae gŵyl eleni yn adlewyrchiad gwych o’n gwerthoedd craidd. Mae’n dwyn ynghyd gymuned, traddodiad ac arloesedd, gan gynnig rhywbeth gwirioneddol arbennig i bawb sy’n mynychu - boed yn bersonol neu ar-lein.”
Uchafbwyntiau’r Digwyddiad:
- Fformat Hybrid: Mae’r ŵyl yn cynnig 14 sesiwn i gyd. Gall mynychwyr ar-lein gael mynediad at wyth sesiwn, gan gynnwys anerchiadau agoriadol dyddiol. Bydd cyfranogwyr wyneb yn wyneb yn mwynhau chwe sesiwn ychwanegol, fel ioga boreol, drymio rhythmig, gwneud mandala, a bath gong dewisol nos Sadwrn.
- Sesiynau dan Arweiniad Arbenigwyr: Mae’r rhaglen yn cynnwys athrawon ac ysgolheigion ioga amlwg, gan gynnwys Marye Wyvill, Anne Thomas, Sian Wintle, Jane Etherington, Daniel Simpson, Nick Edge, Nickie Short, Lynne Jones, Dr Nick Campion, Michael Dooley, Richard Dunne, ac Audrey Blow.
- Gweithgareddau Lles: Bydd y sawl sy’n mynychu wyneb yn wyneb yn elwa o bryd bwyd fegan/llysieuol amser cinio a lluniaeth prynhawn ar y ddau ddiwrnod. Mae llety gwely a brecwast dros nos â chymhorthdal ar gael yn Y Drindod Dewi Sant. Bydd marchnad gydag amrywiaeth o stondinau hefyd yn bresennol.
Manylion Archebu:
Am ragor o wybodaeth ac i archebu eich lle, ewch i borth digwyddiadau BWY:
https://portal.bwy.org.uk/user/events/936
Ynglŷn â’r Sefydliad Cytgord
Sefydlwyd Sefydliad Cytgord Y Drindod Dewi Sant yn 2019 i archwilio a hyrwyddo’r cysyniadau a gyflwynwyd yn llyfr 2010 Harmony: A New Way of Looking at Our World gan Dywysog Cymru ar y pryd, mewn cydweithrediad â Tony Juniper ac Ian Skelly. Mae athroniaeth graidd y Sefydliad yn troi o gwmpas y syniad y gall bodau dynol fyw yn gytûn o fewn y cosmos, gan bwysleisio rhyng-gysylltiad pob peth—egwyddor sy’n ganolog i lawer o fydolygon hynafol a modern yn niwylliannau’r Dwyrain a’r Gorllewin. Mae agwedd sylweddol ar genhadaeth y Sefydliad yn canolbwyntio ar wella iechyd a lles.
Ynglŷn â BWY
Mae’r British Wheel of Yoga (BWY) wedi ymrwymo i rannu pŵer trawsnewidiol yoga a threftadaeth gyfoethog trwy ddigwyddiadau ac addysg. Dan arweiniad egwyddorion a thraddodiadau yoga, cenhadaeth BWY yw cyfoethogi bywydau trwy yoga, cynyddu hygyrchedd a chynwysoldeb. Wedi’i sefydlu fel elusen gofrestredig yn 1965 ac yn cael ei chydnabod fel y Corff Llywodraethu Cenedlaethol ar gyfer yoga gan Chwaraeon Lloegr a Chwaraeon Cymru, mae BWY yn gwasanaethu mwy na 5000 o aelodau ac yn cael ei gefnogi gan rwydwaith gwirfoddolwyr o 100 a thîm canolog bach.
Gwybodaeth Bellach
Arwel Lloyd
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467076