Skip page header and navigation

Fflur Davies yw enillydd Gwobr Stuart Burrows yn seremoni raddio Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant am ei chyfraniad i’r Celfyddydau Perfformio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Fflur Davies yn gwenu yn ei gŵn a’i chap academaidd.

Penderfynodd Fflur astudio BA Perfformio yn Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru yn y Drindod Dewi Sant gan yr oedd hi’n awyddus i aros yng Nghymru i astudio a pherfformio trwy gyfrwng y Gymraeg. Meddai:

“Gan fod y cwrs ond yn ddwy flynedd o hyd roedd hyn yn atyniad mawr i fi, gan fy mod wedi cymryd blwyddyn allan o addysg oherwydd covid.”

Un o hoff bethau Fflur am y cwrs oedd yr hwyl yr oeddent yn ei gael fel criw yn ddyddiol, ac ei bod hi wedi bod yn ffodus iawn o gyfarfod a gwneud ffrindiau oes yno. Teimla Fflur fod y cwrs wedi llwyddo i’w siapio fel perfformwraig a’i bod wedi derbyn sylfaen gadarn iawn gan y tiwtoriaid ar y cwrs.

Yn ystod ei chyfnod yn y Brifysgol, llwyddodd Fflur i ddysgu amrywiaeth o sgiliau gwahanol yn ymwneud â pherfformio gan gynnwys sgiliau actio a chanu, yn ogystal â sgiliau cyfathrebu a magu hyder ar lwyfan. Dywedodd:

“Rwy’n defnyddio’r sgiliau’n ddyddiol, ac mae wedi dysgu amdanynt wedi bod yn fuddiol i mi fel perfformwraig, ac yn sicr rwy’n teimlo llawer fwy hyderus ar ôl derbyn dwy flynedd o hyfforddiant yn y Drindod Dewi Sant.”

Dywedodd Fflur fod darlithwyr y cwrs wedi bod yn hynod o gefnogol:

“Mae wedi bod yn bleser cael cydweithio gyda nhw yn ystod fy nghyfnod yn y Brifysgol. Mae fy nyled yn fawr iawn iddynt ac rwy’n hynod werthfawrogol o’r gefnogaeth gefais ganddynt.”

Tra’n y Brifysgol, bu Fflur yn cystadlu yn Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel, ac fe wnaeth gydnabod fod y cwrs wedi ei chynorthwyo i baratoi ar gyfer y gystadleuaeth. Bu hefyd yn ffodus o gael y cyfle i deithio i Ohio gyda’i chwrs nôl yn mis Chwefror – profiad a fydd yn aros yn y cof am byth. Ychwanegodd:

“Fel perfformiwr, roedd y cwrs yn hybu ni i ddarganfod sgiliau gwerthfawr sydd wedi bod yn fuddiol iawn i mi wrth symud ymlaen yn y byd perfformio.”

Mae Eilir Owen Griffiths, Cyfarwyddwr Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru yn hynod o falch o lwyddiant Fflur. Dywedodd:

“Dros ei chyfnod yn astudio mi daflodd Fflur ei hun yn llwyr i mewn I’r radd. Gweithiodd yn gyson a datblygodd yn sylweddol yn ystod ei chyfnod. Roedd ei pherfformiad o Salieri yn ‘Amadeus’ yn ysgubol. Mae hi’n llwyr haeddu y wobr eleni. A dwi’n dymuno pob llwyddiant iddi yn y dyfodol.”

Mae Fflur yn cydnabod fod ennill Gwobr Stuart Burrows yn fraint iddi’n bersonol, ac yn falch fod yr holl waith caled  dros y ddwy flynedd ddiwethaf wedi talu ffordd. Mi fydd yn defnyddio’r arian Gwobr Stuart Burrows i’w helpu i ddatblygu ei sgiliau perfformio wrth iddynt dalu am wersi preifat ychwanegol iddi. I’r rhai sy’n dymuno dilyn ôl- troed Fflur, dyweda:

“Daliwch ati! Rwyf wedi bod yn cystadlu yn yr Eisteddfodau Genedlaethol ac yn perfformio ers pan dwi’n blwyddyn 3, ac mi fedrai gyfri ar un llaw faint o weithiau dwi wedi dod i’r brig. Mae ‘cael cam’ fel fyddai mam yn ddeud wedi dysgu llawer mwy na ennill i mi yn bersonol, ac mae wedi gwneud fi’n berfformiwr cryf sydd ddim yn poeni am adborth negyddol. Credwch yn eich hunan a daliwch ati!”


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau