Skip page header and navigation

Mae academyddion, ysgrifenwyr ac arweinwyr diwylliannol o bob cwr o’r byd yn ymgynnull yn Aberystwyth yn ddiweddarach y mis hwn ar gyfer Gorwelion: Cynhadledd Ryngwladol (17-19 Medi 2025), i ddathlu 40 mlynedd o Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru (CAWCS).

Logo of CAWCS 40 years

Bydd y digwyddiad a gynhelir dros dri diwrnod yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn adfyfyrio ar bedwar degawd o ymchwil arloesol wrth edrych ymlaen at ddyfodol ysgolheictod Cymreig a Cheltaidd.  Un o’r uchafbwyntiau fydd presenoldeb y Gwir Anrhydeddus, Mark Drakeford, AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, a fydd yn ymuno â’r gynhadledd ddydd Mercher 17 Medi, gan danlinellu pwysigrwydd diwylliannol a gwleidyddol gwaith y Ganolfan. 

Dywedodd Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Iaith Gymraeg;

“Mae’n hyfryd ymuno â’r Ganolfan i ddathlu ei gwaith nodedig dros y 40 mlynedd diwethaf a’i chyfraniad hanfodol at ddyfodol ein hiaith. Mae ymchwil flaenllaw’r Ganolfan yn helpu i ddiogelu ein treftadaeth ddiwylliannol ac yn dyfnhau ein dealltwriaeth o’n hiaith. Rydym wrth ein bodd yn cefnogi’r Ganolfan ac rydym yn hynod falch o bopeth y mae’n parhau i’w gyflawni dros Gymru a’r iaith Gymraeg.”

Ers ei sefydlu yn 1985, mae CAWCS wedi dod yn arweinydd byd mewn astudiaethau Cymreig a Cheltaidd.  Wedi’i leoli yn Aberystwyth, mae wedi arwain ar ymchwil arloesol ar iaith, llenyddiaeth, hanes, geiriaduraeth a diwylliant gweledol, tra hefyd yn gwneud cyfraniadau sylweddol i gyfieithu, dyniaethau digidol a rhwydweithiau rhyngwladol.  Dros y pedwar degawd, mae’r Ganolfan, nid yn unig wedi cadw treftadaeth ddiwylliannol Cymru a’i dadansoddi, ond mae wedi ei chyflwyno i drafodaethau ysgolheictod byd-eang.   Graddiwyd effaith ei hymchwil yn flaenllaw gan Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021.

Gan adfyfyrio ar y cyflawniad hwn, meddai’r Athro Elwen Evans, Is-Ganghellor Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant: 

“Dros y pedwar deg mlynedd ddiwethaf, mae CAWCS wedi sefydlu ei hun yn ganolfan fyd-eang ar gyfer ysgolheictod Cymreig a Cheltaidd, gan ddod â thalent, angerdd ac arloesedd at ei gilydd.  Mae Cynhadledd Gorwelion, nid yn unig yn dathlu ein gorffennol, ond mae hefyd yn borth i ddyfodol astudiaethau Celtaidd, gan bontio traddodiad gydag ymchwil arloesol.”

Yn ôl yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr CAWCS, mae’r digwyddiad yn gyfle i nodi cryfder partneriaethau rhyngwladol y Ganolfan a’i rôl wrth lunio’r genhedlaeth nesaf o ysgolheictod:

“Mae wedi bod yn fraint arwain y Ganolfan i’w phumed degawd.  Mae Gorwelion yn arddangos gwaith rhyfeddol ein hymchwilwyr a chryfder ein partneriaethau ar draws disgyblaethau a ffiniau.  Rydym yn edrych ymlaen at drafodaethau ysgogol a bywiog yn ogystal â gosod y sylfeini ar gyfer cyfnod nesaf ysgolheictod Cymreig, Celtaidd a rhyngwladol.”

Bydd y Gynhadledd Gorwelion yn croesawu ystod eang o siaradwyr rhyngwladol, trafodaethau panel a chyfleoedd i adfyfyrio ar gyfoeth y diwylliant Celtaidd ddoe a heddiw. 

Am y rhaglen lawn, manylion pellach a gwybodaeth am gofrestru, ewch i:  Cynhadledd Gorwelion CAWCS. 


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon