Gweithio yng nghanol cymuned Townhill
Mae Canolfan Phoenix yn Townhill wedi bod yn gonglfaen o fywyd cymunedol Abertawe ers 25 mlynedd. Wedi’i rhedeg gan yr Hill Community Development Trust, mae’n llawer mwy nag adeilad yn unig – mae’n ganolfan leol ddibynadwy sy’n cefnogi cyfleoedd, creadigrwydd a chysylltiadau. O ddarpariaeth ieuenctid a hyfforddiant i ofal plant a mannau cymdeithasol, mae’r Ganolfan wedi chwarae rôl hanfodol wrth gefnogi trigolion Townhill a Mayhill drwy weithgarwch a arweinir gan y gymuned.
Mae’r bartneriaeth hirsefydlog rhwng Canolfan Phoenix a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn adlewyrchu ymrwymiad cyffredin i ehangu mynediad i addysg a chryfhau cymunedau. Drwy brosiectau cydweithredol, gweithdai a digwyddiadau, mae staff a myfyrwyr PCYDDS wedi gweithio ochr yn ochr â’r Ganolfan mewn ffyrdd sydd o fudd i drigolion lleol wrth gyfoethogi dysgu myfyrwyr. Wrth i Ganolfan Phoenix ddathlu 25 mlynedd ers ei sefydlu, mae’r Brifysgol yn rhannu straeon sy’n cyfleu effaith y berthynas hon ar bobl a lleoedd.
Dechreuwn gyda Zoe Murphy, cyn-fyfyrwraig, y mae ei thaith bersonol a phroffesiynol wedi ei gwreiddio’n ddwfn yn Townhill. Yn y darn yma, mae Zoe’n rhannu ei hadfyfyrdodau ar sut mae addysg hygyrch a buddsoddiad cymunedol parhaus yn medru llunio teithiau unigol a theithiau ar y cyd, gan gynnwys ei thaith ei hun.
Wedi’i geni a’i magu yn Townhill, mae profiadau Zoe yno wedi llunio ei gyrfa a’i hymrwymiad parhaus i’r gymuned leol. Ar ôl dod yn fam yn 18 oed, ni chollodd olwg ar ei huchelgais i fynychu’r brifysgol – dim ond mater o ddod o hyd i’r cyfle iawn ydoedd. Daeth y cyfle hwnnw’n agos at adref, pan gofrestrodd yn yr hyn a oedd ar y pryd yn Athrofa Addysg Uwch Abertawe, sydd bellach yn Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
“Rydw i wastad wedi mwynhau astudio, felly roedd mynd i’r brifysgol bob amser yn rhan o’r cynllun - ond roedd angen dod o hyd i ffordd i wneud iddo weithio,” meddai. “Gyda champws wedi’i leoli yn Townhill ar y pryd, roedd cael mynediad at addysg o fewn fy nghymuned fy hun wedi gwneud gwahaniaeth mawr wrth i mi fagu fy merch.”
Graddiodd Zoe yn 2002 gyda BA mewn Astudiaethau Saesneg, Drama a’r Cyfryngau, cwrs a oedd yn adlewyrchu ei diddordeb mewn adrodd straeon, perfformio a mynegiant creadigol. Roedd hi eisoes yn rhedeg ysgol ddawns lwyddiannus yn lleol, felly roedd y radd yn teimlo fel estyniad naturiol o’i phrofiad ymarferol yn ogystal â sylfaen y gallai adeiladu arni ar gyfer y dyfodol.
Wrth edrych yn ôl, mae Zoe yn disgrifio ei chyfnod yn y brifysgol fel un ffurfiannol, gan gryfhau ei hyder, ei harfer creadigol a’i pherthnasoedd proffesiynol. Mae hi’n cofio am ei blynyddoedd yn fyfyrwraig fel “un o gyfnodau hapusaf” ei bywyd, ac mae’r profiad wedi darparu sylfaen ar gyfer gwaith llawrydd sy’n parhau i lunio ei harfer heddiw.
Ers iddi raddio, yn hytrach na dilyn un llwybr penodol, mae ei gyrfa wedi symud yn llyfn rhwng arfer creadigol a rolau sy’n canolbwyntio ar bobl. Dechreuodd ym maes dawns – gan addysgu, coreograffio a chreu theatr ddawns - cyn symud yn raddol tuag at gelfyddydau ac ymgysylltu cymunedol. “Dyna ble wnes i wir ddatblygu fy llais fel artist,” meddai.
Daeth Zoe i gysylltiad â’r Drindod Dewi Sant eto’n ddiweddarach, trwy brosiect dawns gymunedol ledled y ddinas. Arweiniodd hyn at chwe blynedd o waith ym maes ymgysylltu cymunedol yn y Brifysgol. Yn ystod y cyfnod hwn, a thu hwnt, mae hi wedi gweithio ar draws ystod eang o leoliadau, gan gynnwys ysgolion, gofal preswyl i blant, carchardai a rhaglenni dysgu seiliedig ar waith. Yn 2018, tra’n dal i weithio yn y Drindod Dewi Sant, cwblhaodd ei Thystysgrif Raddedig Broffesiynol ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (AHO). Disgrifiodd y cymhwyster hwn fel un sydd wedi agor cyfleoedd proffesiynol newydd a chryfhau ei dealltwriaeth o addysg sy’n canolbwyntio ar y gymuned.
Mae ei pherthynas â Chanolfan Phoenix wedi rhychwantu llawer o’i bywyd fel oedolyn. Defnyddiodd y Ganolfan, pan agorodd am y tro cyntaf, fel man ar gyfer cynnal ei dosbarthiadau dawns, yn ogystal ag ar gyfer gweithgareddau cymdeithasol a digwyddiadau cymunedol. Roedd ymuno â’r sefydliad yn 2025 fel Cydlynydd Prosiect ar y Prosiect Pobl Leol yn teimlo fel parhad naturiol o berthynas hirsefydlog.
Yn ei rôl bresennol, mae Zoe yn rhedeg y clwb ieuenctid wythnosol, yn cydlynu grwpiau cymunedol ac yn helpu i ddatblygu digwyddiadau lleol. “Rwy’n credu’n gryf yn y pŵer sydd gan y Ganolfan,” meddai. “Mae yng nghanol Townhill, ac rwy’n gweld yr holl waith caled sydd angen ei wneud er mwyn ei chadw i fynd a’i phwysigrwydd absoliwt i’n cymuned.”
Nid dewis proffesiynol yw rhoi yn ôl i Townhill, i Zoe, ond cyfrifoldeb personol. Mae hi’n ymwybodol o’r argraffiadau negyddol sy’n aml yn gysylltiedig â’r ardal, ond mae’n bendant nad ydynt yn cyfleu’r darlun llawn.
“Yr hyn rydw i wedi’i brofi wrth dyfu i fyny a gweithio yma yw cryfder, tosturi, ac ymdeimlad go iawn o bobl sy’n gofalu am ei gilydd,” meddai. “Mae yna hunaniaeth gref yma, a balchder nad yw pobl bob amser yn ei weld o’r tu allan.” Mae cefnogi ei chymuned, i Zoe, yn golygu helpu pobl i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cydnabod am bwy ydyn nhw.
Wrth i Ganolfan Phoenix ddathlu 25 mlynedd ers ei sefydlu, mae Zoe yn gweld y garreg filltir hon fel eiliad bwysig ar gyfer adfyfyrio. Wedi’i sefydlu ar adeg o angen gwirioneddol yn Townhill a Mayhill, mae’r Ganolfan wedi dod yn hwb canolog ar gyfer cefnogaeth, cyfleoedd a chysylltiadau - gan ddarparu cyflogaeth, mannau diogel i bobl ifanc a chyfleusterau sydd wedi’u llunio gan y gymuned ei hun. Mae ei hirhoedledd yn adlewyrchu’r ymrwymiad sydd y tu ôl iddi. “Nid yw mannau fel hyn yn para 25 mlynedd heb ymrwymiad, a heb bobl sy’n credu yn yr hyn y mae’n ei chynnig.”
Wrth edrych ymlaen, mae Zoe yn gweld potensial cryf ar gyfer dyfodol Canolfan Phoenix, yn enwedig wrth gefnogi pobl ifanc a sicrhau bod lleisiau lleol yn parhau i lunio ei chyfeiriad. Mae hi’n bendant, fodd bynnag, bod y gwaith hwn yn dibynnu ar gefnogaeth barhaus.
“Mae llefydd fel Canolfan Phoenix yn dangos beth sy’n bosibl pan fo cymunedau yn cael adnoddau priodol,” meddai. “Ni ddylai fod yn eithriad.” Mae’r Ganolfan, i Zoe, yn “oleufa o sut beth yw gwaith cymunedol da, a beth all ddigwydd pan fydd pobl yn cael y lle a’r gefnogaeth i wneud i rywbeth weithio.”
The Hill Dwellers
gan Zoe Murphy
Rows of houses lean into the sky,
weathered like the women who walk beneath them,
strong-backed, sharp-tongued,
kind when it counts.
We live close here.
Close like window to window,
door to door,
life to life.
Somewhere, sprayed on the wall outside No. 14:
“Babe, you look so cool.”
A sentence left hanging,
like laundry, like meaning.
This place is not perfect.
It peels and shouts and forgets itself sometimes.
There’s history in these bricks.
And it’s ours.
A single mum with a house full of noise —
music upstairs, laundry on radiators,
takeaway wrappers and late-night advice
they pretend not to hear.
Graffiti blooms on the bus stop glass,
a whisper in scarlet: “Babe, you look so cool.”
A love letter in a place no one’s meant to look,
proof that someone once felt something
loud enough to scrawl it softly.
Someone needed to say it —
and someone else needed to hear it.
The Hill Dwellers,
holding routines, rain and tea.
From here we see it all —
the backs of buildings,
the weather rolling in.
We carry our lives up these slopes:
shopping bags, heartbreak, school shoes,
bits of gossip tucked in pockets,
a line someone once wrote
still tucked in my head some mornings
when the fog sits low.
We are above, not below.
We belong.
Babe, you look so cool.
Gwybodaeth Bellach
Mared Anthony
Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk
Ffôn: +447482256996