Skip page header and navigation

Yn ddiweddar, cymerodd myfyrwyr ar raglenni Plentyndod, Ieuenctid ac Astudiaethau Addysg Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ran mewn digwyddiad ysbrydoledig Straeon ein Graddedigion fel rhan o’u Wythnos Cyflogadwyedd flynyddol (20-24 Ionawr). Daeth y digwyddiad â chwe cyn-fyfyriwr at ei gilydd i rannu eu profiadau ers iddyn nhw raddio. O rolau recriwtio ac AD i waith ieuenctid ac entrepreneuriaeth, roedd y digwyddiad yn arddangosfa o yrfaoedd amrywiol, ac roedd yn llawn cyngor, mewnwelediadau ac ysbrydoliaeth.

Students graduating throwing their caps into the air

Amlygodd y straeon a rannwyd sut y gall gradd yn nisgyblaethau Plentyndod, Ieuenctid ac Astudiaethau Addysg arwain at yrfaoedd effeithiol sy’n helpu i lunio cymdeithas. Mae’r graddedigion hyn yn creu newid diriaethol yn eu cymunedau, gan arddangos hyblygrwydd eu graddau. 

Yr hyn a safodd allan fwyaf yw’r ymdeimlad o bwrpas ymhlith y siaradwyr. P’un a yw’n sicrhau bod ysgolion yn cael eu staffio gydag addysgwyr angerddol, ailadeiladu perthnasoedd teuluol, neu’n hyrwyddo dysgu yn yr awyr agored, mae’r graddedigion hyn yn dangos sut mae addysg yn galluogi pobl i greu effaith barhaol. 

Man in suit and tie smiling at camera

Sam Jones

Astudiodd: BA Astudiaethau Addysg

Rôl bresennol: Ymgynghorydd Recriwtio yn Prospero Teaching

Dechreuodd y digwyddiad gyda Sam Jones, a drawsnewidiodd ei yrfa ar ôl cwblhau gradd Astudiaethau Addysg o addysgu i weithio fel ymgynghorydd recriwtio yn Prospero Teaching. Disgrifiodd sut mae ei brofiad addysgu yn ei alluogi i baru ysgolion â staff o ansawdd uchel sy’n gallu gwneud gwahaniaeth ystyrlon. “Roedd bod yn athro yn dangos yr effaith y gall y bobl iawn ei chael mewn ystafell ddosbarth,” esboniodd Sam. “Nawr, wrth recriwtio, rwy’n defnyddio’r wybodaeth honno i helpu ysgolion i ddod o hyd i staff sy’n gallu creu deilliannau cadarnhaol i ddisgyblion.”

Woman smiling at camera

Lauren Thomas

Astudiodd: BA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar, Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (AHO)  ac ar hyn o bryd yn astudio MA Gwasanaethau Plant, Pobl Ifanc a Chymuned.

Rôl bresennol: Rheolwr Achos Trais a Chamdriniaeth Pobl Ifanc i Rieni yn Media Academy Cymru

Astudiodd Lauren Thomas Blynyddoedd Cynnar cyn dod yn ddarlithydd ar yr un cwrs. Bellach yn Rheolwr Achos Trais a Chamdriniaeth Pobl Ifanc i Rieni yn Media Academy Cymru, mae’n cefnogi teuluoedd mewn amgylchiadau heriol, gan eu helpu i ailadeiladu perthnasoedd. “Mae’n waith anodd,” meddai Lauren, “ond mae clywed teulu yn rhannu sut mae pethau wedi gwella yn gwneud y cyfan yn werth chweil.” Pwysleisiodd bwysigrwydd gwydnwch a hunanofal yn ei rôl, yn enwedig wrth iddi gydbwyso ei gwaith â chwblhau ei MA Gwasanaethau Plant, Pobl Ifanc a Chymuned yn y brifysgol. 

Man in bow tie smiling at camera

Tom Braddock

Astudiodd: BA Astudiaethau Addysg

Rôl bresennol: Rheolwr Caffael Talent yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion

Siaradodd Tom Braddock, sydd bellach yn Rheolwr Caffael Talent yng Ngholeg Sir Gâr, am ei lwybr gyrfa annisgwyl o Astudiaethau Addysg i Adnoddau Dynol. “Pe bai rhywun wedi dweud wrthyf yn ystod fy ngradd y byddwn i’n gweithio ym maes recriwtio ac AD, fyddwn i ddim wedi eu credu,” meddai. Pwysleisiodd werth sgiliau trosglwyddadwy o’i radd - fel deall sut mae pobl yn dysgu ac yn cyfathrebu - ac amlygodd bwysigrwydd bod yn agored i lwybrau gyrfa amrywiol, gan ychwanegu, “Mae gradd yn werth y byd, hyd yn oed os nad ydych yn dilyn y llwybr y gwnaethoch chi ei ddychmygu’n gyntaf.”

Woman standing in forest with boat behind her

Maria D'Angelo

Astudiodd: BA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar ac ar hyn o bryd yn astudio TAR Cynradd

Rôl bresennol: Perchennog ysgol goedwig

Rhannodd Maria D’Angelo ei brwdfrydedd dros ddysgu yn yr awyr agored a sut y sefydlodd ei hysgol goedwig ei hun, Ffrindiau’r Goedwig, yn ystod blwyddyn olaf ei gradd Blynyddoedd Cynnar. “Mae plant yn ffynnu ym myd natur,” meddai. “Maen nhw’n rhydd i archwilio a dysgu mewn ffyrdd na ellir eu hefelychu yn yr ystafell ddosbarth.” Wedi’i hysgogi gan ei chwrs, agorodd ei busnes sydd bellach yn ffynnu gyda chefnogaeth gan ei chymuned leol, ac mae ganddi gynlluniau i ehangu i bartneriaethau ysgol a sesiynau ar gyfer plant sy’n derbyn eu haddysg yn y cartref. Wrth iddi agosáu at ddiwedd ei chwrs TAR, mae Maria yn edrych ymlaen at redeg yr ysgol goedwig yn llawn-amser ac yn gwahodd myfyrwyr PCYDDS i ymweld a phrofi ei gwaith yn uniongyrchol.

Woman in gown and mortarboard smiling at camera

Nakita Sweetland

Astudiodd: BA Astudiaethau Cymdeithasol ac MA Gwaith Ieuenctid

Rôl bresennol: Gweithiwr Cymorth Ieuenctid yng Ngwasanaeth Ieuenctid Caerdydd

Ysbrydolodd Nakita Sweetland, a raddiodd o’r cyrsiau Blynyddoedd Cynnar ac MA Gwaith Ieuenctid, y gwrandawyr wrth iddi siarad am ei newid i waith ieuenctid ar ôl dechrau ym maes gofal plant. Wedi’i hysgogi gan ei hawydd i gefnogi pobl ifanc yn ystod un o gyfnodau mwyaf ffurfiannol eu bywydau, mae hi bellach yn eu helpu yn ei rôl fel Gweithiwr Cymorth Ieuenctid yng Ngwasanaeth Ieuenctid Caerdydd, i lywio heriau wrth fagu hyder a gwydnwch. “Mae gweithio gyda phobl ifanc ar adeg mor ddylanwadol o’u bywydau mor bwysig,” meddai. “Mae bod yn wyneb cyfeillgar i bobl ifanc yn bopeth roeddwn i ei eisiau pan oeddwn i’n eu hoedran nhw.” Mae’n dweud bod ei rôl a’r bobl ifanc y mae’n gweithio gyda nhw wedi ei helpu i dyfu a magu ei hyder ei hun. 

Woman smiling at camera

Rachel King-Thomas

Astudiodd: BA Astudiaethau Cymdeithasol, Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (AHO) ac MA Tegwch ac Amrywiaeth

Rôl bresennol: Swyddog Ansawdd a Gwella gyda Chyngor Abertawe 

Wrth gloi’r noson, rhannodd Rachel King-Thomas sut y dychwelodd i’r brifysgol fel myfyriwr aeddfed i gwblhau gradd Astudiaethau Cymdeithasol ac yna MA Tegwch ac Amrywiaeth. Mae’r cymwysterau hyn wedi ei pharatoi ar gyfer ei rôl bresennol fel Swyddog Ansawdd a Gwella gyda Chyngor Abertawe lle mae hi’n cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddeddfwriaeth, yn cynnal ymchwil, ac yn cynghori ymarferwyr. Siaradodd am oresgyn syndrom y ffugiwr ac anogodd fyfyrwyr i gymryd risgiau, gan ddweud, “Os nad ydych chi’n ceisio, dydych chi byth yn mynd i gael y swydd honno,” ac “Os oes gennych angerdd am rywbeth, ewch amdani.”

I fyfyrwyr presennol, mae’r digwyddiad hwn yn eu hatgoffa nad yw eu taith yn ymwneud â sicrhau swydd yn unig ond am ddefnyddio eu haddysg i wneud gwahaniaeth parhaol. Trwy glywed adroddiadau uniongyrchol gan raddedigion sydd wedi defnyddio eu graddau mewn Plentyndod, Ieuenctid ac Astudiaethau Addysg i greu newid ystyrlon, mae myfyrwyr nid yn unig yn cael eu hysbrydoli ond hefyd yn cael eu cymell i ddilyn eu llwybrau eu hunain tuag at wneud gwahaniaeth. Rydym mor falch o’r effaith y mae’r graddedigion hyn yn ei chael ac edrychwn ymlaen at weld y gwahaniaeth parhaus y byddant yn ei wneud i’w cymunedau.

Archwiliwch gyrsiau Gwaith Ieuenctid ac Astudiaethau Blynyddoedd Cynnar Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a datgloi’r sgiliau a’r wybodaeth i gael effaith go iawn yn y meysydd hyn: Gwaith Ieuenctid ac Astudiaethau Blynyddoedd Cynnar | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant


Gwybodaeth Bellach

Mared Anthony

Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk     
Ffôn: +447482256996

Rhannwch yr eitem newyddion hon