Myfyriwr aeddfed yn rhannu "nid yw hi byth yn rhy hwyr i gyflawni eich nodau"
Ar ôl seibiant o 16 mlynedd o astudio, teimlodd Joanne Wozencroft dynfa gref yn ôl at addysg. Fe wnaeth ei phrofiadau proffesiynol a phersonol sbarduno angerdd am arfer cynhwysol a chynaliadwyedd - gwerthoedd yr oedd hi eisiau mynd yn ddyfnach iddynt trwy astudio. Nawr mae’n graddio gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar (BA Anrh) o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), gan brofi “nid yw hi byth yn rhy hwyr i gyflawni eich nodau”.
“Rwyf bob amser wedi credu mewn creu amgylcheddau galluogol i blant,” meddai Joanne. “Roedd dychwelyd i addysg yn ymwneud â herio fy hun ac ennill y wybodaeth i wneud gwahaniaeth go iawn.”
Cwblhaodd Joanne, sy’n 44 oed ac o Ystradgynlais, ei chwrs gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar - wedi’i gynllunio ar gyfer y rhai sydd eisoes yn gweithio yn y blynyddoedd cynnar ac sydd eisiau ennill gradd lawn wrth barhau â’u rôl broffesiynol. Gyda’i phrofiad helaeth o gefnogi plant a theuluoedd, roedd Joanne yn gweddu i’r dim i’r llwybr hwn.
Dylanwadwyd ar ei phenderfyniad i astudio yn y Drindod Dewi Sant gan ei rheolwr blaenorol a argymhellodd y cwrs a’i hannog i wneud cais. “ A hwythau’n gweithio ym maes addysg, roedd cydweithwyr yn canmol enw da Y Drindod Dewi Sant am gefnogi myfyrwyr i gyrraedd eu potensial llawn, i ffynnu ac i lwyddo - yn enwedig y rhai sy’n dychwelyd ar ôl seibiant,” eglura Joanne. “Roedd yn teimlo fel y lle iawn i ailgysylltu â’r byd academaidd. Roedd y ffocws ar gynhwysiant, cynaliadwyedd, a dysgu sy’n canolbwyntio ar y plentyn yn taro tant gyda mi.”
Nid oedd ymuno ar Lefel 6 fel myfyriwr aeddfed yn beth hawdd i’w wneud, yn enwedig wrth lywio blwyddyn heriol yn ei bywyd personol. Fe wnaeth cydbwyso astudio â chyfrifoldebau teuluol ac amgylchiadau iechyd newydd ei merch brofi ei gwytnwch.
“Daeth dychwelyd i’r byd academaidd ar ôl seibiant hir â mwy o heriau nag yr oeddwn erioed wedi’i ddisgwyl,” cyfaddefa Joanne. “Ond fe wnaeth y rhwydweithiau cymorth yn y Drindod Dewi Sant wahaniaeth enfawr. Trwy ddyfalbarhau, rwy’n gobeithio fy mod wedi dod yn fodel rôl i fy merch, gan ddangos hyd yn oed trwy adfyd, ei bod yn bosibl i ffynnu pan fydd gennych y gefnogaeth iawn o’ch cwmpas.”
Mae Joanne yn rhoi clod i anogaeth ei darlithwyr a’i chyfoedion am ei helpu i oresgyn y rhwystrau hynny. “Rhoddodd eu cefnogaeth yr hyder i mi i ddyfalbarhau, ac mae cyflawni Anrhydedd Dosbarth Cyntaf wedi rhagori ar fy nisgwyliadau ac wedi ailddatgan fy nghred mewn dysgu gydol oes.”
Cafodd hefyd fynediad at ystod o wasanaethau cymorth yn ystod ei hastudiaethau. “Roedd y grŵp mentora Dysgu gyda Chymorth Cymheiriaid yn amhrisiadwy wrth fy helpu i setlo’n ôl i fywyd academaidd, a rhoddodd y tiwtorialau llyfrgell i fyfyrwyr hyder i mi gydag ymchwil a chyfeirnodi. Fe wnes i hefyd ddefnyddio cymorth llesiant, a fu’n help i mi wrth gydbwyso heriau personol ochr yn ochr â’m hastudiaethau.”
I Joanne, roedd y cwrs yn cynnig llawer o uchafbwyntiau, yn enwedig prosiectau ymchwil a oedd yn ei galluogi i ddilyn ei diddordebau mewn cynaliadwyedd, dysgu yn yr awyr agored, ac addysg gynhwysol. Canolbwyntiodd ar wau egwyddorion cadwraeth, gan gynnwys y rhai a addysgir trwy Wobr John Muir - rhaglen dysgu yn yr awyr agored a chynaliadwyedd dystysgrifedig a gynigir fel rhan o’r cwrs – o fewn arfer yn y blynyddoedd cynnar.
“Roeddwn i eisiau dangos sut y gall dysgu yn yr awyr agored gyfoethogi addysg a llesiant,” meddai. Daeth ei gardd deuluol yn enghraifft fyw o’r athroniaeth hon - man lle mae natur a dysgu yn dod at ei gilydd.
Bellach, mae Joanne yn parhau ar ei thaith gydag Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PCET) yn y Drindod Dewi Sant, gyda’r nod o ddod yn ddarlithydd i ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol ac arwain prosiectau sy’n hyrwyddo cynaliadwyedd a chynhwysiant.
“Mae’r cwrs hwn wedi fy nhrawsnewid yn broffesiynol ac yn bersonol,” adfyfyriodd. “Mae wedi ailddechrau fy nghariad at ddysgu ac wedi dangos i mi nid yw hi byth yn rhy hwyr i gyflawni eich nodau.”
Ei chyngor i unrhyw un sy’n ystyried y cwrs yw: “Ewch amdani! Os ydych chi’n angerddol am addysg blynyddoedd cynnar a gwneud gwahaniaeth ym mywydau plant, mae’r Drindod Dewi Sant yn cynnig yr amgylchedd perffaith i chi i ffynnu.”
Gwybodaeth Bellach
Mared Anthony
Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk
Ffôn: +447482256996