Myfyrwyr a graddedigion yn cysylltu â chyflogwyr yn nigwyddiad rhwydweithio Caerfyrddin
Yn ddiweddar, fe wnaeth myfyrwyr ar gampws Caerfyrddin Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) fwynhau noson o sgwrsio a chysylltu yng nghwmni graddedigion a chyflogwyr.
Wedi’i gynnal yn Undeb y Myfyrwyr ac wedi’i drefnu gan Dîm Llwybrau Gyrfaoedd y Brifysgol, cynigiodd y Digwyddiad Rhwydweithio Myfyrwyr a Chyflogwyr gyfle i fynychwyr i fagu hyder yn eu sgiliau rhwydweithio, i gael mewnwelediadau i wahanol ddiwydiannau, a chreu perthnasoedd â’r posibiliad o ddatblygu gyrfa.
Mae’r digwyddiad yn rhan o ymrwymiad parhaus PCYDDS i gyflogadwyedd ac ymgysylltu â chyn-fyfyrwyr, gan adlewyrchu ymroddiad y brifysgol i gefnogi myfyrwyr y tu hwnt i raddio a meithrin cysylltiadau cryf rhwng addysg a diwydiant.
Dechreuodd y noson gyda sgwrs ysbrydoledig gan y siaradwr gwadd James Owen, a raddiodd mewn BA Gwneud Ffilmiau o PCYDDS yn 2021. James yw sylfaenydd Stori Cymru, cwmni cynhyrchu fideos ffyniannus yn Llanelli, a sefydlodd yn 2019 ac yntau’n dal i astudio.
Ar ôl gweithio’n flaenorol yn y maes gwerthu, daeth James i PCYDDS fel myfyriwr aeddfed ar ôl darganfod angerdd am ffilm a ffotograffiaeth, a dod o hyd i’r brifysgol ar garreg ei ddrws. Rhannodd ei daith o gampws Caerfyrddin, lle bu profiad ymarferol gyda phrosiectau diwydiant byw yn gymorth i adeiladu’r hyder a’r sgiliau yr oedd eu hangen arno i lansio ei fusnes ei hun.
Pwysleisiodd James sut mae rhwydweithio wedi chwarae rôl hanfodol wrth adeiladu ei gwmni dros y blynyddoedd - o gysylltu ag eraill yn y diwydiant i rannu mewnwelediadau ac arfer gorau, i gwrdd â darpar gleientiaid a sicrhau gwaith trwy ddigwyddiadau a pherthnasoedd proffesiynol.
Roedd ei gyfraniad, yn ogystal â phresenoldeb graddedigion eraill, yn tynnu sylw at rym cyfraniad cyn-fyfyrwyr a chryfder y cysylltiadau sydd rhwng cyn-fyfyrwyr a myfyrwyr cyfredol yng nghymuned PCYDDS.
Yn dilyn sgwrs James, cymerodd y mynychwyr ran mewn gêm fywiog o Network Bingo, a gynlluniwyd i dorri’r garw ac i annog sgwrsio mewn ffordd gyfeillgar a hamddenol. Profodd y gweithgaredd i fod yn llwyddiant mawr, gan sbarduno sgyrsiau diddorol a rhyngweithiadau ystyrlon. Gadawodd llawer o fynychwyr gyda chysylltiadau newydd, ysbrydoliaeth ffres, a synnwyr cyfeiriad o’r newydd ar gyfer eu llwybrau gyrfa.
Arweiniwyd y gwaith o drefnu’r digwyddiad gan Emma Evans, Cydlynydd Prosiect Cyflogadwyedd, Tîm Llwybrau Gyrfaoedd PCYDDS. Dywedodd hi:
“Fel Tîm Gyrfaoedd, rydym yn deall pa mor bwysig yw adeiladu cyfalaf cymdeithasol - a pha mor anodd y gall hynny deimlo pan fyddwch chi’n bell o’r farchnad cyflogwyr a ddim yn gwybod ble i ddechrau. Ni ddylai rhwydweithio ond fod ar gael i’r rhai sydd gan fynediad ato eisoes.
“Trwy ein rhaglen Cymorth Cyflogadwyedd wedi’i Dargedu a ariennir gan Medr (y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil) rydym yn helpu myfyrwyr sydd bellaf o’r farchnad lafur i feithrin hyder, sgiliau a pherthnasoedd go iawn - ac mae ein cyn-fyfyrwyr yn rhan hanfodol o wneud hynny’n bosibl, a dyna pam ei bod yn fendigedig i glywed am lwybr gyrfa James Owen.
“Roedd yn fendigedig i weld y myfyrwyr a’r cyflogwyr yn gwneud cysylltiadau ac yn bwrw ati, ac edrychwn ymlaen at gynnal digwyddiadau pellach yn y dyfodol.”
Oes gennych chi ddiddordeb mewn digwyddiadau yn y dyfodol?
Os ydych chi’n fyfyriwr, yn gyn-fyfyriwr, neu’n gyflogwr a fyddai’n hoffi cymryd rhan mewn cyfleoedd rhwydweithio tebyg, cysylltwch â’r Tîm Llwybrau Gyrfaoedd i fynegi eich diddordeb a chael gwybodaeth am ddigwyddiadau sydd i ddod. Cysyllwtch â llwybrgyrfa@pcydds.ac.uk
Gwybodaeth Bellach
Mared Anthony
Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk
Ffôn: +447482256996