Myfyrwyr Pensaernïaeth yn ennill cystadleuaeth ddylunio Gweithredu Hinsawdd ryngwladol
Rydym wrth ein boddau gyda’r newyddion bod myfyrwyr blwyddyn gyntaf Pensaernïaeth PCYDDS wedi ennill y wobr gyntaf mewn cystadleuaeth ddylunio ryngwladol a gynigiwyd gan Student Climate Action Network (StuCAN) - cangen o Architects Climate Action Network (ACAN) sydd o dan arweiniad myfyrwyr.

Yn rhan o daith maes amlddisgyblaethol i Barc Gwledig Craig y Nos, cafodd myfyrwyr Pensaernïaeth PCYDDS y dasg o ddylunio pencadlys gweithredu hinsawdd symudol mewn ymateb i friff cystadleuaeth fyw a gyhoeddwyd gan StuCAN. Gyda 137 o geisiadau trawiadol wedi’u cyflwyno ar draws 11 gwlad, roedd y cynnig buddugol - ‘Tangled Roots’ - yn sefyll allan i’r rheithgor uchel ei barch am ei geinder, ei allu i addasu a’i neges bwerus.
Canmolodd y panel beirniadu, a oedd yn cynnwys arweinwyr maes dylunio cynaliadwy - gan gynnwys Brigitte Clements (Loki Architecture), Nick Newman (Studio Bark ac U-Build), Aude Azzi (Stiff+Trevillion, Athar Collective), Jonathan Irawan (Hassell Studio), Kelly Harrison (Whitby Wood), ac Anzir Boodoo (Gweithredu ar Newid Hinsawdd Leeds) - y dyluniad am ei ymateb meddylgar i’r briff a’i aliniad â gwerthoedd gweithredu ar newid hinsawdd.
“Mae ‘Tangled Roots’ yn ymateb hyfryd o feddylgar sy’n ymgorffori ysbryd yr hyn y mae’r gystadleuaeth hon yn gobeithio ei ysbrydoli,” meddai’r beirniaid. “Nid yn unig y mae’n creu strwythur, ond hefyd platfform - ar gyfer cysylltu, deialog, gweithredaeth, a chymuned.”
Adfyfyriodd y tîm buddugol, dan arweiniad y myfyriwr Luc Harris, ar y profiad:
“Mae hon yn anrhydedd anhygoel. Roedd y gystadleuaeth yn heriol ac yn hwyl, gan ein galluogi i archwilio pensaernïaeth o safbwynt newydd - cynaliadwyedd a hygludedd – a’n grymuso i lunio dyfodol yn well. Diolch i bawb yn StuCAN am friff mor ddiddorol ac i PCYDDS am y cyfle i ymweld â Pharc Gwledig Craig y Nos a fu’n sail i’n dyluniad.”

Dathlodd Rhian Jenkins, Cyfarwyddwr Academaidd, y llwyddiant fel carreg filltir ar gyfer addysg gydweithredol:
“Roedd y daith amlddisgyblaethol i Graig y Nos gyda myfyrwyr Pensaernïaeth, yr Amgylchedd a Ffotograffiaeth yn enghraifft wych o sut y ceir egni a mewnwelediad newydd drwy weithio ar draws rhaglenni. Y newyddion bod ein myfyrwyr wedi ennill y gystadleuaeth ryngwladol StuCAN oedd yr eisin ar y gacen. Rydyn ni’n hynod falch o’u cyflawniad.”
Mae’r tîm buddugol wedi derbyn plac, gwobr ariannol o £200, a chopi o Materials: An Environmental Primer, a roddwyd yn hael gan Hattie Hartman, Golygydd Cynaliadwyedd The Architects’ Journal.
Mae posibiliadau cyffrous ar y gorwel. Ar hyn o bryd mae Architects Climate Action Network (ACAN) yn archwilio dichonoldeb gwireddu dyluniad ‘Tangled Roots’ fel prosiect adeiledig, gan ddod â’r pencadlys gweithredu ar newid hinsawdd symudol yn fyw yng Nghraig y Nos - yn amodol ar sicrhau cyllid.
Dywedodd Ian Standen, Cyfarwyddwr Rhaglen Pensaernïaeth:
“Edrychwn ymlaen at weithio gyda StuCAN i wireddu’r dyluniad ar ffurf adeiledig, yn ddelfrydol yng Nghraig y Nos - lleoliad addas i gyfathrebu effeithiau cyhoeddus newid yn yr hinsawdd. Mae’r prosiect hwn yn enghraifft wych o sut rydym yn paratoi ein myfyrwyr i wynebu heriau’r dyfodol gyda chreadigrwydd a hyder. Llongyfarchiadau i Luc Harris a Tom Williams ar y gamp eithriadol hon!”
Gwybodaeth Bellach
Mared Anthony
Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk
Ffôn: +447482256996