Skip page header and navigation

Pensaernïaeth (Llawn amser) (BSc Anrh)

Abertawe
3 Blynedd Llawn amser
120-136 o Bwyntiau UCAS, Portffolio a Chyfweliad.

Mae Pensaernïaeth BSc (Anrh) ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn radd tair blynedd, amser llawn ar gampws Abertawe. Mae’r rhaglen wedi ei dilysu gan Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA) yn Rhan 1 ac wedi’i mapio i feini prawf y Bwrdd Cofrestru Penseiri (ARB), gan ddarparu’r cam cyntaf tuag at ddod yn bensaer cymwysedig. 120–136 pwynt UCAS yw’r gofyniad mynediad. Mae’r cwrs yn cyfuno prosiectau dylunio stiwdio â modylau mewn technoleg, hanes ac ymarfer proffesiynol, ac mae graddedigion, fel arfer, yn dechrau ymarfer yn gynorthwywyr pensaernïol, gyda’r opsiwn i symud ymlaen i’r MArch a pharhau tuag at gymhwyster proffesiynol yn PCYDDS.

Mae Pensaernïaeth yn llunio’r byd o’n cwmpas ni, gan ddylanwadu ar y mannau lle rydyn ni’n byw, yn gweithio ac yn cysylltu. Mae penseiri yn cyfuno creadigrwydd, gwybodaeth dechnegol a dealltwriaeth o bobl a chymunedau i ddylunio adeiladau ac amgylcheddau sy’n ymarferol, cynaliadwy ac ystyrlon. 

Mae ein BSc Pensaernïaeth (Anrh) yn cynnig dull unigryw o addysg bensaernïol, gan gyfuno cyd-destunau lleol â phersbectif byd-eang ehangach. Byddwch chi’n archwilio sut y gall pensaernïaeth ymateb i anghenion pobl a chymunedau wrth ystyried diwylliant, cynaliadwyedd, cyfrifoldeb amgylcheddol a datblygiadau mewn technoleg adeiladu.

Drwy gydol y cwrs hwn, rydyn ni’n cydbwyso theori pensaernïaeth â sgiliau ymarferol. Trwy ddysgu yn y stiwdio, byddwch chi’n gweithio ar brosiectau dylunio sy’n annog arbrofi a meddwl beirniadol, gan ddatblygu eich ymagwedd eich hun at bensaernïaeth. Byddwch chi’n adeiladu ystod eang o sgiliau, gan gynnwys darlunio â  llaw, tirfesur, CAD (Dylunio â Chymorth Cyfrifiadur), cyfathrebu graffig a gwneud modelau, gan weithio’n unigol ac yn gydweithredol. Mae prosiectau byw ac ymgysylltu â chymunedau a phartneriaid diwydiant yn cysylltu eich dysgu chi â heriau’r byd go iawn ac anghenion newidiol yr amgylchedd adeiledig.

PCYDDS sydd 1af yn y DU ar gyfer Pensaernïaeth yng Ngwobrau Prifysgol Unifresher 2027.

Rydym yn cynnig llwybrau israddedig ac ôl-raddedig mewn Pensaernïaeth, sy’n caniatáu i chi symud ymlaen tuag at gymhwyster pensaer proffesiynol, a hynny oll o fewn un sefydliad. Gallwch ddewis astudio’n llawn amser neu’n rhan-amser yn dibynnu ar eich anghenion.

Mae’r Radd BSc (Anrh) Pensaernïaeth wedi’i rhagnodi ar hyn o bryd gan yr ARB (y Bwrdd Cofrestru Penseiri) ar lefel Rhan 1 at ddibenion cofrestru fel Pensaer yn y DU.  Mae’r ARB yn adolygu ei ofynion cofrestru, gan ddileu’r angen am gymhwyster israddedig mewn pensaernïaeth.   O ganlyniad, bydd rhagnodi’r ARB o gymwysterau Rhan 1 yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2027. Bydd myfyrwyr sy’n dechrau’r cwrs gradd Pensaernïaeth BSc (Anrh) Fedi 2025 yn graddio oFehefin 2028, ar ôl i ragnodi’r ARB ar Ran 1 ddod i ben. Felly, ni fydd eu gradd yn ddyfarniad a ragnodir gan yr ARB.  Serch hynny, bydd y rhaglen yn parhau i fapio i feini prawf yr ARB.  Yn ogystal, bydd y radd BSc (Anrh) Pensaernïaeth yn parhau i gael ei dilysu gan RIBA (Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain) yn Rhan 1. Bydd RIBA yn parhau i ddilysu cymwysterau pensaernïaeth yn Rhannau 1, 2, a 3, sef y llwybr arferol i Aelodaeth Siartredig RIBA.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
K100
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
120-136 o Bwyntiau UCAS, Portffolio a Chyfweliad.
Achrededig:
RIBA
arb logo

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae gan y cwrs hwn ymagwedd ffres at addysg bensaernïol sydd wedi’i wreiddio yn ei ardal ond â safbwynt fyd-eang cyffredinol.
02
Mae ein gweithdai mawr yn rhoi cyfle i fyfyrwyr wneud elfennau adeilad maint llawn o bob graddfa a maint.
03
Mae ein haddysgu wedi’i seilio ar ymchwil mewn pynciau sy’n ymestyn ar draws ein portffolio, wedi’i gefnogi gan arbenigwyr allanol o’r ddinas, ardal ac ar draws y byd.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae ein rhaglen bensaernïaeth wedi’i chynllunio ar gyfer darpar benseiri a’r rhai sydd â diddordeb mewn pensaernïaeth a dylunio. Rydym yn canolbwyntio ar ddull ymarferol o ddysgu trwy gyfres o brosiectau stiwdio dylunio a gefnogir gan fodiwlau cyd-destunol mewn technoleg, hanes a busnes.

Ym mlwyddyn 1, ceir cyflwyniad i fedrau craidd dylunio mewn tri modiwl stiwdio craidd sy’n ffocysu ar: strwythurau a defnyddiau; lle a ffurf a sgiliau dylunio. Mae’r modylau cyd-destun paralel yn gosod sylfaeni’r corff o wybodaeth allweddol sydd ei hangen ar gyfer y dechnoleg adeiladu pensaer, dylunio amgylcheddol, hanes a theori pensaernïol. Caiff y sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar gyfer rhaglenni AU eu cyflwyno yn y modwl Byd Modern.

Stiwdio Pensaernïaeth 1A (Sgiliau Dylunio)

(20 credydau)

Technoleg a'r Amgylchedd 1

(20 credydau)

Y Byd Modern

(20 credydau)

Hanes a Theori 1

(20 credydau)

Stiwdio Pensaernïaeth 1B (Gofod a Ffurf)

(20 credydau)

Stiwdio Pensaernïaeth 1C (Strwythur a Deunyddiau)

(20 credydau)

Ym mlwyddyn 2 caiff y sgiliau a’r sail wybodaeth a gyflwynir ym mlwyddyn 1 eu datblygu ymhellach. Mae stiwdio ddylunio yn ymwneud ag adeiladau mwy cymhleth, grwpiau o adeiladau a/neu addasiadau i adeiladau presennol. Mae’r modwl technoleg ac amgylchedd yn ymdrin ag adeiladu adeiladau mwy a mwy cymhleth. Mae’r modwl hanes a damcaniaeth yn cynnwys dulliau ymchwil yn ogystal ag ymdrin â materion damcaniaethol uwch ac mae ei waith cwrs yn cynnwys cynnig ar gyfer y traethawd hir a fydd yn cael ei gwblhau yn y drydedd flwyddyn.

Mae’r ail flwyddyn yn canolbwyntio ar syniadau cartref a chymuned, gyda phrosiectau dylunio yn canolbwyntio ar dai, fflatiau a chymdogaethau. Bydd myfyrwyr yn archwilio adeiladau cyhoeddus sy’n cefnogi bywyd cymdeithasol ac yn cael dealltwriaeth o hanes pensaernïol a chyfraith adeiladu sylfaenol

Technoleg a'r Amgylchedd 2

(20 credydau)

Hanes a Theori 2

(20 credydau)

Stiwdio Pensaernïaeth 2A

(20 credydau)

Stiwdio Pensaernïaeth 2B

(20 credydau)

Proffesiwn a Busnes 1

(20 credydau)

Stiwdio Pensaernïaeth 2C

(20 credydau)

Blwyddyn 3; mae’r modwl dylunio yn y flwyddyn olaf yn ymdrin ag adeiladau mwy a mwy cymhleth a daw i’w anterth mewn prosiect dylunio cynhwysfawr sy’n integreiddio holl agweddau ar y sgiliau a’r wybodaeth yr ymdrinnir â nhw ar y rhaglen. Bydd myfyrwyr yn cwblhau’r traethawd hir a bydd yr ail fodwl busnes a galwedigaeth yn paratoi myfyrwyr ar gyfer eu trosglwyddiad i fyd gwaith.  

Stiwdio Pensaernïaeth 3B

(20 credydau)

Proffesiwn a Busnes 2

(20 credydau)

Stiwdio Pensaernïaeth 3A

(20 credydau)

Stiwdio Pensaernïaeth 3C

(20 credydau)

Traethawd Hir Pensaernïaeth

(40 credydau)

Course Page Disclaimer

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

{"@context":"https://schema.org","@type":"Course","name":"Architecture BSc (Hons)", "description":"Three-year full-time Architecture degree in Swansea, RIBA-validated at Part 1 and mapped to the ARB criteria.", "url":"https://www.uwtsd.ac.uk/programme-courses/undergraduate/architecture-construction-and-environment/architecture-full-time", "provider":{"@id":"https://www.uwtsd.ac.uk/"}, "educationalCredentialAwarded":"BSc (Hons) Architecture", "hasCourseInstance":{"@type":"CourseInstance","courseMode":"full-time","location":{"@type":"Place","name":"Swansea"},"courseWorkload":"P3Y"}}

tysteb

Students walking on carmarthen campus

Dewch i ymweld â ni mewn Diwrnod Agored neu Noson Agored

Darganfyddwch fwy am eich cwrs, cwrdd â myfyrwyr presennol, y tîm addysgu, ac archwilio ein campws a’n cyfleusterau proffesiynol. 

Staff

Ein Pobl

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Cyfleusterau ac Arddangosfeydd

Cyfleusterau

Yn fyfyriwr pensaernïaeth, fe welwch fod ein cyfleusterau’n fwy na dim ond mannau dysgu – maent yn hybiau deinamig a ddyluniwyd i ysbrydoli a meithrin eich angerdd am ddylunio.

A student concentrates on his sketchbook, which is supported by a large drawing board.

News

Newyddion 

Gwybodaeth allweddol

  • 120-136 o Bwyntiau Tariff UCAS, Portffolio a Chyfweliad. 

    Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu cyfrifiannell tariff er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS. 

    TGAU 

    Mae angen TGAU Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth gradd C (neu 4) neu gyfwerth 

    Llwybrau mynediad amgen   

    Os ydy’r cwrs hwn o ddiddordeb i chi, ond nid yw’r gofynion mynediad gennych i ymuno â’n gradd baglor, gallech ystyried:    

    • ‘gyda Blwyddyn Sylfaen’. Mae’r llwybr hwn wedi’i gynllunio i roi cymorth ychwanegol i chi am ei fod yn rhoi blwyddyn ychwanegol (llawn amser) i chi o astudio wedi’i gefnogi.     

    Unwaith y byddwch chi wedi cwblhau eich astudiaethau Blwyddyn Sylfaen, byddwch yn symud ymlaen yn awtomatig i’r brif radd.    

    • Tystysgrif Addysg Uwch (TystAU). Cwrs un flwyddyn yw hwn ac mae’n gyfwerth â blwyddyn gyntaf y radd baglor tair blynedd, llawn amser.    

    Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich astudiaethau TystAU, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i’r ddwy flynedd sy’n weddill o’r radd baglor.    

    Mae’r rhain yn llwybrau delfrydol os ydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, neu os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch chi gyflawni’r graddau sydd eu hangen i gael lle ar y radd hon.    

    Cyngor a Chymorth Derbyn    

    Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’.I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadaui gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.   
      
    Gofynion Iaith Saesneg    

    Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg eraill.    

    Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.   

    Gofynion fisa ac ariannu   

    Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa.    

    Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi.    

    Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.     

    I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau.    

  • Mae’r Drindod Dewi Sant yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn Brifysgol ddwyieithog ac er nad oes unrhyw fodiwlau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg ar y cwrs hwn ar hyn o bryd, ym mhob achos gall myfyrwyr gyflwyno asesiadau ysgrifenedig drwy gyfrwng y Gymraeg.

    Cyfleoedd Cymraeg a Chymreig

    A ninnau’n brifysgol flaenllaw yng Nghymru, rydym yn falch o gynnig gwasanaethau cymorth a neuaddau preswyl arbennig i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith, gan annog ymdeimlad o gymuned a chartref oddi cartref, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau i siaradwyr Cymraeg a dod yn aelod o’n cangen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

    Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg

    Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu a datblygu eich sgiliau Cymraeg.

  • Caiff gwaith prosiect dylunio ei asesu ar sail portffolio o waith sy’n cynnwys cyfres o aseiniadau a gwblhawyd yn ystod y flwyddyn.

    Bydd y portffolio yn cynnwys darluniau, ffotograffau o fodelau ac adroddiadau ysgrifenedig â darluniau. Rhoddir adborth ar gynnydd myfyrwyr trwy gydol y flwyddyn – fel arfer ar ffurf sylwadau llafar gan dîm o diwtoriaid wedi’i seilio ar gyflwyniadau myfyrwyr a’i asesu drwy adolygiad gan gyd-fyfyrwyr. Gwneir asesiad ffurfiannol ar ddiwedd pob prosiect – fel arfer ar ffurf marc dros dro, sy’n caniatáu i fyfyrwyr ymateb i adborth cyn cyflwyno’r portffolio pan gwneir yr asesiad terfynol (neu ‘grynodol’).

    Bydd asesiadau gwaith yn y modylau cyd-destunol ar ffurf ymarferion ymarferol yn ystod y flwyddyn, adroddiadau a thraethodau ac asesiadau dan gyfyngid amser ar ffurf profion ac arholiadau ffurfiol.

  • Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.

    Efallai y bydd myfyrwyr yn dymuno prynu deunydd ar gyfer modylau, fel y Prosiect Mawr, ond nid yw hyn yn ofynnol  ac ni chaiff unrhyw effaith ar y radd derfynol a gyflawnir.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio i gael ei rhagnodi/dilysu gan y Bwrdd Cofrestru Penseiri (ARB) a Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA) yn rhan o gymhwyster Rhan Un mewn pensaernïaeth felly’r cyrchfan cyntaf mwyaf tebygol i raddedigion yw gwaith fel cynorthwyydd pensaernïol* mewn practis pensaernïol.

    Mae yna lawer o gyfleoedd gwaith posibl eraill gan gynnwys rhannau eraill o’r diwydiant adeiladu (contractwyr adeiladu ac is-adeiladwyr), y diwydiannau creadigol (cymhwyso darlunio cyfrifiadurol a sgiliau delweddu) a chynllunio neu ddylunio trefol.  

    Sgiliau graddedig a ddatblygir gan y rhaglen (wedi’i seilio ar y ‘rhinweddau graddedigion’ a amlinellir yn meini prawf RIBA/ARB ar gyfer dilysu/rhagnodi cymwysterau mewn pensaernïaeth a datganiad meincnod QAA ar gyfer pensaernïaeth.)                

    1. Y gallu i gynhyrchu cynigion dylunio gan ddefnyddio dealltwriaeth o gorff o wybodaeth, peth ohono ar ffiniau presennol arfer proffesiynol a disgyblaeth academaidd pensaernïaeth;
    2. Y gallu i gymhwyso ystod o ddulliau cyfathrebu a chyfryngau i gyflwyno cynigion dylunio presennol yn glir ac yn effeithiol;
    3. Dealltwriaeth o’r defnyddiau, prosesau a thechnegau amgen sy’n berthnasol i ddylunio pensaernïol ac adeiladu adeiladau;
    4. Y gallu i werthuso tystiolaeth, dadleuon a thybiaethau er mwyn gwneud a chyflwyno dyfarniadau cadarn o fwn trafodaeth strwythuredig yn ymwneud â diwylliant, damcaniaeth a dyluniad pensaernïol;
    5. Gwybodaeth o gyd-destun y diwydiant pensaer ac adeiladu a’r rhinweddau proffesiynol sydd eu hangen i wneud penderfyniadau mewn amgylchiadau cymhleth ac annaroganadwy.
    6. Y gallu i adnabod anghenion dysgu unigol a deall y cyfrifoldeb personol sydd ei angen am addysg broffesiynol bellach.

    (* y term ‘cynorthwyydd pensaernïol’ yw teitl swydd y rheiny sydd ar y llwybr i gymhwyster proffesiynol fel pensaer nes cwblhau Rhan Tri. Efallai na fydd termau fel ‘pensaer cynorthwyol’, ‘pensaer dan hyfforddiant’ neu ‘bensaer rhan 1’ eu defnyddio gan fod y teitl ‘pensaer’ wedi’i amddiffyn gan statud a chaiff ond ei ddefnyddio gan y rheiny sydd ar y Gofrestr Penseiri (ar wahân i dri eithriad  a nodir yn y Ddeddf Penseiri: ‘pensaer llyngesol’, ‘pensaer tirlun’ a ‘phensaer meysydd golff’).

Mwy o gyrsiau Pensaernïaeth, Adeiladu ac Amgylchedd

Chwiliwch am gyrsiau