Skip page header and navigation

Bydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) mewn partneriaeth â Threftadaeth Jazz Cymru, yn cynnal y bedwaredd Gynhadledd Documenating Jazz flynyddol yng Nghanolfan Dylan Thomas yn Abertawe, rhwng 9 a 12 Tachwedd 2022.

Piano du wedi’i addurno â darluniau llinell wen o gychod pysgota ar y môr, pobl yn edrych trwy ffenestri Fictoraidd crand, a phatrymau haniaethol.

Er mwyn ennyn ymgysylltiad ehangach y cyhoedd â’r gynhadledd, mae staff a myfyrwyr Coleg Celf Abertawe (PCYDDS) wedi cychwyn prosiect Pianos Stryd. Mae meysydd pwnc gan gynnwys Celf a Dylunio Sylfaen, Patrymau Arwyneb a Thecstilau, Darlunio a Chelfyddyd Gain wedi ymgymryd â’r her i bob un ohonynt ddylunio piano stryd a fydd wedi’i leoli mewn lleoliad unigryw yng nghanol y ddinas. Y pum safle yw: Elysium, HQ Urban Kitchen, Canolfan Dinefwr ar gyfer Celf a Dylunio, Marchnad Dan Do Abertawe a Chanolfan Dylan Thomas.

Dywedodd yr academydd arweiniol ar y prosiect, Dr Dave Bird: “Cafodd y pianos a ddefnyddiwyd yn y prosiect eu rhoi yn garedig gan Coach House Pianos. Cyn i’r broses ddylunio ddechrau, yn fuan ar ôl i’r pianos gael eu danfon i gampws Coleg Celf Abertawe, dechreuodd staff a myfyrwyr chwarae’r offerynnau ac roedd cerddoriaeth i’w chlywed ym mhob rhan o’n hadeiladau. Nid oes gan bawb fynediad i offerynnau cerdd, yn enwedig offeryn drud fel piano, a chredwn yn gryf y dylai cerddoriaeth fod yn hygyrch i bawb. Rwy’n gobeithio y bydd y prosiect hwn yn rhoi cyfle unigryw i chwarae, archwilio a byrfyfyrio mewn rhyw ffordd.”

Dywedodd yr Athro Ian Walsh, Profost Abertawe/Caerdydd, “Fel Prifysgol, ag adeiladau yng nghanol dinas Abertawe, rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o ymgysylltu pobl leol â’n mentrau staff a myfyrwyr. Mae’r gynhadledd ei hun yn cynnig cyfle cyffrous i ddysgu am y thema amrywiaeth o fewn jazz. Ar y cyd â hyn, mae’r prosiect pianos stryd wedi gweld nifer o bianos yn cael eu trawsnewid gan ein staff a’n myfyrwyr gwych, yn weithiau celf unigryw. Hoffem wahodd y cyhoedd i ymgysylltu â phianos y stryd a gobeithio y bydd profiadau a pherfformiadau cerddorol yn digwydd ym mhob un o’r pum lleoliad.”

Cynhelir Documenting Jazz 2022 dros gyfnod o bedwar diwrnod, gyda phrif areithiau gan Dr Joan Cartwright a Francesco Martinelli. 


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau