Skip page header and navigation

Mae’n bleser gan y prosiect Cyfranogiad Plant mewn Ysgolion , menter gydweithredol a gyllidir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), hysbysu ei fod yn cyhoeddi’i ddogfen friffio gyntaf ar bolisi.  

Children's Participation in Schools Project logo

Mae’r garreg filltir hon yn nodi cwblhau cyfnod cychwynnol y prosiect, a oedd yn cynnwys dadansoddiad cynhwysfawr o ddeddfwriaeth addysgol Cymru a dogfennau polisi gan ymestyn o 1999 i 2023.

Mae’r prosiect yn dod ag arbenigedd o Brifysgol Gorllewin Lloegr (UWE), Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd ynghyd.  Ei brif ffocws yw archwilio a hyrwyddo hawliau cyfranogi plant ifanc o fewn lleoliadau addysg gynradd is yng Nghymru.  Drwy archwilio polisïau ac arferion presennol, nod yr ymchwil yw dynodi a sefydlu methodolegau addysgu sy’n ymgorffori hawliau cyfranogi plant yn effeithiol mewn ystafelloedd dosbarth ac ysgolion. 

Pwysleisiodd Dr Alison Murphy, Cyd-ymchwilydd i’r prosiect Cyfranogiad Plant mewn Ysgolion a Darlithydd yn yr Athrofa Addysg yn PCYDDS, arwyddocâd y gwaith hwn:  “Mae ein dadansoddiad yn datgelu ymrwymiad cryf o ran polisi i hawliau cyfranogi plant yng Nghymru. Fodd bynnag, mae bwlch yn parhau rhwng bwriadau polisïau ac arferion mewn ystafelloedd dosbarth.  Nod y ddogfen friffio hon yw pontio’r bwlch hwnnw drwy ddarparu mewnwelediadau ar gyfer addysgwyr a llunwyr polisi y gellir eu gweithredu.”

Mae’r ddogfen friffio ar bolisi yn cynnig canfyddiadau allweddol o’r dadansoddiad o ddeddfwriaeth a pholisi, gan dynnu sylw at feysydd lle mae cefnogaeth dda i hawliau cyfranogi a dynodi cyfleoedd am welliannau pellach.  Mae’n adnodd gwerthfawr i addysgwyr, arweinwyr ysgol, a llunwyr polisi sy’n ymrwymedig i feithrin amgylcheddau dysgu cynhwysol a chyfranogol i blant ifanc.

Darllenwch y briff polisi yn Gymraeg: https://childrens-participation.org/uploads/Policy%20Briefing%20Welsh.pdf

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect Cyfranogiad Plant mewn Ysgolion, ewch i https://childrens-participation.org/publications.

Six logos for all partners involved in Children's Participation in Schools project

Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon