Taith Theodora i gyflawni breuddwyd gydol oes yn Y Drindod Dewi Sant
Mae Theodora Brown, cyn-nyrs deintyddol o Norfolk, yn dathlu carreg filltir bwysig yr haf hwn wrth iddi raddio o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (UWTSD) gyda BA mewn Gwareiddiadau Hynafol - gan gyflawni breuddwyd plentyndod a gosod ei bryd ar uchelgeisiau academaidd pellach.

Ar ôl bron i saith mlynedd yn gweithio mewn nyrsio deintyddol, gwnaeth y fyfyrwraig aeddfed benderfyniad beiddgar a newidiodd ei bywyd i ddilyn ei hangerdd dros hanes ac archaeoleg. “Rydw i wedi ymddiddori mewn diwylliannau hynafol ers cyhyd ag y gallaf gofio,” meddai. “Pan ddes i ar draws y cwrs Gwareiddiadau Hynafol ar gampws Llambed, roeddwn i’n gwybod mai dyna’n union yr oeddwn i’n chwilio amdano. Yn bersonol, mae’r cwrs hwn wedi fy helpu i wireddu breuddwyd gydol oes o gael gradd hanes ac wedi rhoi’r ysgogiad i mi nawr gael gradd meistr.”
Daeth dewis Llambed yn naturiol. “Syrthiais mewn cariad â’r lleoliad tawel, heddychlon a harddwch cefn gwlad Cymru. Roedd yn lle perffaith i ganolbwyntio ar rywbeth rydw i wedi’i garu erioed.”
Roedd ei nod yn glir o’r cychwyn cyntaf: archwilio diwylliannau ac arteffactau amrywiol y byd hynafol trwy ddadansoddi arteffactau. “Yr hyn a’m denodd at y radd hon yn benodol oedd ei amrwyiaeth,” eglurodd. “Yn wahanol i raddau hanes eraill sy’n canolbwyntio’n gul ar un faes neu gyfnod, caniataodd y cwrs hwn i mi ddysgu am lawer o wareiddiadau ar draws y byd hynafol.”
Ymhlith uchafbwyntiau ei hamser yn Y Drindod Dewi Sant roedd yr arddulliau addysgu amrywiol a’r ystod o asesiadau. “Daeth y darlithwyr â mewnwelediadau mor unigryw i bob pwnc, ac roeddwn i wir yn gwerthfawrogi elfennau creadigol ac ymarferol y cwrs. Nid traethawd ar ôl traethawd yn unig oedd hi gan ein bod ni’n cael ein hannog i feddwl yn wahanol a chymhwyso ein gwybodaeth mewn amrywiol ffyrdd.”
Daeth profiad arbennig o gyfoethog yn ystod ei hail flwyddyn, pan dreuliodd semester yn astudio ym Mhrifysgol Bologna yn yr Eidal. “Roedd y profiad hwnnw’n anhygoel,” meddai. “Cymerais fodiwlau a oedd yn canolbwyntio ar hanes y Dwyrain Agos - rhywbeth na fyddwn i wedi cael mynediad iddo fel arall. Byddwn i’n annog unrhyw fyfyriwr i fanteisio ar y cyfle i astudio dramor; mae wir yn ehangu eich persbectif.”
Er gwaethaf ei llwyddiannau, nid oedd y daith heb ei heriau. Roedd byw gyda dyspracsia yn gwneud rheoli amser a hunan-barch yn anodd ar adegau. “Ond cefais gefnogaeth wych,” meddai. “Roedd fy nhiwtor cymorth dysgu, Nigel Watkins, yn wych. Roedd yn deall fy anghenion yn iawn ac yn fy helpu i ddatblygu’r offer i lwyddo a theimlo’n falch o fy ngwaith.”
Nawr, gyda’i gradd yn ei llaw a’i hyder academaidd ar ei uchaf erioed, mae hi’n paratoi i ddychwelyd i nyrsio deintyddol wrth wneud cartref parhaol yng Nghymru - lle y mae hi wedi dod i’w garu. Ond nid yw ei thaith academaidd drosodd eto. “Rwy’n gobeithio dechrau gradd meistr rhan-amser mewn Gwareiddiadau Hynafol, gan arbenigo mewn eiconograffeg grefyddol yn ystod yr Oes Efydd Hwyr ar draws Môr y Canoldir ehangach. Mae’r cwrs hwn wedi rhoi’r cymhelliant i mi barhau.”
I unrhyw un sy’n ystyried astudio Gwareiddiadau Hynafol, mae ei chyngor yn glir: “Os ydych chi’n angerddol am archaeoleg a hanes hynafol ac eisiau archwilio amrywiaeth o ddiwylliannau yn fanwl, dyma’r cwrs i chi yn bendant.”
Gwybodaeth Bellach
Arwel Lloyd
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467076