Un o’n graddedigion yn gwehyddu angerdd am wlân yn yrfa ym maes curadu
Mae Deborah Mercer, a raddiodd o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn 2023 gyda gradd BA yn y Celfyddydau Breiniol (gyda Blwyddyn Sylfaen), wedi sicrhau rôl na allai fod yn fwy addas.
A hithau bellach yn Uwch Guradur yn Amgueddfa Wlân Cymru yn Nrefach Felindre, un o saith safle Amgueddfa Cymru, mae Deborah yn cyfuno ei mewnwelediadau academaidd a’i sgiliau ymarferol mewn rôl sy’n dathlu’r union bwnc y bu’n ei archwilio drwy gydol ei gradd - arwyddocâd diwylliannol a hanesyddol gwlân.
Dod o hyd i’w lle yn y Drindod Dewi Sant
Yn wreiddiol o Southampton, symudodd Deborah i Geredigion yn 2015 ar ôl treulio deng mlynedd yn byw oddi ar y grid. Ar ôl bwrw gwreiddiau o’r diwedd, gwyddai ei bod hi’n bryd ymgymryd ag addysg uwch a daeth o hyd i’r Drindod Dewi Sant ar ei throthwy.
Ond nid yr ardal yn unig a’i denodd i PCYDDS, ond y bobl.
“O’m diwrnod agored cyntaf, teimlwn fy mod i’n cael fy nghroesawu a’m hannog,” meddai Deborah. “Atebodd y darlithwyr fy holl gwestiynau gyda gwên, gan gefnogi fy chwilfrydedd. Ar ôl i mi ddarganfod bod gan un o’r darlithwyr gefndir mewn ymchwil tecstilau, gwyddwn fy mod wedi dod o hyd i’m pobl.”
Rhyddid i ddilyn ei diddordebau
Dechreuodd diddordeb Deborah mewn tecstilau yn ei hugeiniau cynnar pan ddysgodd ei hun i wau. Tyfodd yr hobi hwnnw’n gyflym i fod yn ddiddordeb dwfn ac esblygol mewn gwlân - o waith crosio a ffeltio gyda nodwydd i nyddu.
Er iddi ystyried gradd gelf i ddechrau, gan gael ei denu at ei bosibiliadau creadigol, darganfu wedyn y Celfyddydau Breiniol, cwrs a oedd yn caniatáu iddi archwilio ei diddordebau mewn tecstilau, hanes ac adrodd straeon trwy lens eang, rhyngddisgyblaethol.
“Er nad oes gradd mewn hanes defaid a gwlân,” meddai, “caniataodd y Celfyddydau Breiniol i mi astudio yr union bethau hynny - o dystiolaeth archaeolegol o esblygiad defaid i gyfeiriadau llenyddol yn Lladin a Groeg, a hyd yn oed rôl dilysrwydd mewn amgueddfeydd.”
Roedd hyblygrwydd y cwrs Celfyddydau Breiniol yn allweddol i brofiad Deborah. Gyda’r rhyddid i ddewis modiwlau ar draws disgyblaethau, roedd hi’n gallu archwilio ei diddordeb mewn gwlân o sawl ongl - hanesyddol, llenyddol, archaeolegol ac ymarferol.
“Y peth gorau oedd rhyddid dewis yn hawdd,” meddai. “Mae Celfyddydau Breiniol yn rhoi cyfle i chi archwilio pwnc angerdd penodol o sawl persbectif nad ydych efallai wedi’i ystyried o’r blaen.”
Ymhlith ei hoff fodylau roedd Astudiaethau Amgueddfeydd, lle bu’n archwilio sut mae amgueddfeydd yn cyfathrebu straeon ac yn ymgysylltu â’r cyhoedd. Rhoddodd un aseiniad creadigol penodol, a oedd yn gofyn i fyfyrwyr ddylunio arddangosfa ffuglennol, gyfle iddi gymhwyso ei diddordebau mewn ffordd newydd a sbarduno syniadau a fyddai’n siapio ei dull curadurol yn ddiweddarach.
“Roedd yn drobwynt i mi,” meddai. “Roedd yn berthnasol i bopeth roeddwn i wedi bod yn meddwl amdano - sut i gyfathrebu gwerth gwlân i’r cyhoedd. Cefais hyd yn oed gyflwyno fy ngwaith yn Posters in Parliament!”
Rôl sy’n dod â phopeth at ei gilydd
Bellach yn Uwch Guradur yn Amgueddfa Wlân Cymru, rôl sy’n teimlo wedi’i theilwra i’w diddordebau a’i harbenigedd, mae Deborah yn gofalu am gasgliad tecstilau ac archif bapur yr amgueddfa, tra hefyd yn helpu i warchod treftadaeth anghyffyrddadwy ei melin weithiol - safle byw lle mae peiriannau ac arferion crefft traddodiadol yn parhau i ffynnu.
“Rwy’n cael twrio trwy’r amgueddfa gan ddod o hyd i bethau anhygoel yn y casgliad,” meddai. “Yn ddiweddar des i o hyd i declyn i brofi twist gwlân o ddechrau’r 1900au!”
Mae hi hefyd yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr i ddylunio arddangosfeydd a chefnogi digwyddiadau cyhoeddus, gan ymgysylltu â gwahanol gynulleidfaoedd a rhannu ei gwybodaeth mewn ffyrdd creadigol, hygyrch, gan sicrhau bod y sgiliau a’r straeon yn cael eu cadw a’u trosglwyddo.
O ddysgu ei hun i wau i guradu casgliad cenedlaethol, mae stori Deborah yn dangos sut y gall dilyn angerdd personol, pan gaiff ei feithrin trwy’r amgylchedd academaidd cywir, arwain at yrfa freuddwydiol.
Gwybodaeth Bellach
Mared Anthony
Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk
Ffôn: +447482256996