Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn falch o chwarae rhan flaenllaw mewn prosiect newydd ledled y DU sydd wedi sicrhau £3 miliwn mewn cyllid gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC).

Two images which include plans of the building and AHRC logo

Mae’r prosiect, Addasu ar gyfer y Dyfodol: Datrysiadau sy’n Seiliedig ar Natur ar gyfer Addasu i’r Hinsawdd, yn dwyn ynghyd gonsortiwm pwerus o bartneriaid academaidd a chymdeithasol i archwilio sut y gall dylunio bioffilig, gan weithio gyda natur yn hytrach nag yn ei herbyn, helpu ardaloedd trefol i addasu i effeithiau newid hinsawdd.

Bydd y prosiect trawsddisgyblaethol pedair blynedd, sy’n un o ddim ond tri a ddewiswyd ledled y DU trwy Wobrau Cenhadaeth (Mission Awards) newydd nodedig yr AHRC, yn ymchwilio i sut y gellir ailddychmygu adeiladau trefol hŷn a mannau cyhoeddus fel mannau cynaliadwy, bywiog sy’n hyrwyddo lles dynol ac ecolegol.

Astudiaeth achos flaenllaw’r prosiect yw trawsnewid hen adeilad Woolworths Abertawe, sydd bellach yn The Biome, yn “adeilad byw cyntaf y DU i gael ei addasu”, gan integreiddio mannau tai, masnachol, cymunedol ac addysg gyda natur yn ei chraidd.

Dywedodd Dr Jeremy Smith, Deon Sefydliad Addysg a’r Dyniaethau o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant:

“Mae’r wobr hon yn adlewyrchu’r meddwl beiddgar, cydweithredol sydd ei angen i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur. Rwy’n arbennig o falch o arweinyddiaeth Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn y gwaith hwn, sy’n dod â’r celfyddydau, y dyniaethau a’r gwyddorau ynghyd â phartneriaid dinesig a chymunedol i archwilio sut y gallwn wneud bywyd trefol yn iachach, yn fwy gwyrdd ac yn fwy gwydn. Nid yw hyn yn ymwneud ag adeiladau yn unig - mae’n ymwneud â phobl, lle, a’r dyfodol rydym yn ei adeiladu gyda’n gilydd.”

Bydd y tîm ymchwil yn Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn arwain llinynnau allweddol y prosiect gan ganolbwyntio ar ddimensiynau diwylliannol, cymdeithasol, ecolegol a pholisi ôl-osod bioffilig. Gan weithio mewn cydweithrediad agos â phartneriaid diwydiant, tai, iechyd, addysg a pholisi, bydd y tîm yn nodi ac yn goresgyn y rhwystrau technegol, rheoleiddiol ac ymddygiadol sy’n llesteirio mabwysiadu atebion sy’n seiliedig ar natur mewn dinasoedd.

Ychwanegodd Dr Luci Attala, Dirprwy Gyfarwyddwr Gweithredol clymblaid fyd-eang UNESCO-MOST BRIDGES ac Athro Cyswllt mewn Anthropoleg yn Y Drindod Dewi Sant:

“Mae’r prosiect Addasu ar gyfer y Dyfodol yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru a Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig. Mae angen inni ailfeddwl ar frys am y ffordd rydym yn byw mewn dinasoedd nid yn unig yn strwythurol, ond yn emosiynol ac yn ecolegol. Mae ein hymchwil wedi’i seilio ar gyd-greu a phrofiad byw, gan sicrhau bod lleisiau trigolion, pobl greadigol a chymunedau yn llunio dyfodol byw trefol. Mae’r prosiect hwn yn cynnig glasbrint ar gyfer sut y gallwn ôl-osod nid yn unig ein hadeiladau, ond ein perthnasoedd â natur, ein gilydd, a’r systemau sy’n ein llywodraethu.”

Gyda chonsortiwm sy’n cynnwys Coleg Prifysgol Llundain, Prifysgol Abertawe, Hacer Developments, Pobl Group, Cyfoeth Naturiol Cymru, a Chyngor Dinas a Sir Abertawe, ynghyd ag amrywiaeth o bartneriaid lleol a rhyngwladol, mae’r prosiect yn enghraifft o’r math o gydweithrediad dwfn, seiliedig ar dîm y mae Gwobrau Cenhadaeth AHRC wedi’u cynllunio i’w gefnogi.


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon