Yr Athro Ann Parry Owen i gyflwyno Darlith O’Donnell 2025
Eleni bydd y Ddarlith O’Donnell yn cael ei thraddodi gan yr Athro Ann Parry Owen.

Trefnir y ddarlith flynyddol gan Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Celtaidd Prifysgol Cymru. Sefydlwyd Darlithoedd O’Donnell mewn Astudiaethau Celtaidd ym 1954 ac fe’u cyflwynir yn flynyddol ym Mhrifysgolion Caeredin, Rhydychen a Chymru. Testun y ddarlith eleni fydd ‘Geiriadur i gadw’r iaith yn dragywydd: Thomas Wiliems (1545/6͏–c.1622) a geiriadur hanesyddol cyntaf y Gymraeg.’
Yn enedigol o Fangor, derbyniodd yr Athro Ann Parry Owen ei haddysg gynradd yng Nghaergybi a Llanllechid, a’i haddysg uwchradd yn Llangollen, cyn mynd ymlaen i astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, lle derbyniodd radd PhD am astudiaeth o awdlau Cynddelw Brydydd Mawr (fl. c. 1150–1195). Ymunodd â thîm Prosiect Beirdd y Tywysogion y Ganolfan yn 1985, ac yn ddiweddarach arweiniodd brosiectau Beirdd yr Uchelwyr a Guto’r Glyn, yn ogystal â chyfrannu at sawl prosiect arall. Yn 2018 ymunodd â staff Geiriadur Prifysgol Cymru fel Golygydd Hŷn, ac yn sgil hynny magodd ddiddordeb newydd ym maes geiriadura hanesyddol yn y Gymraeg.
Meddai’r Athro Ann Parry Owen, “Disgrifiodd Thomas Wiliems ei eiriadur fel ‘casglfa ddirfawr o eiriau Cymraeg henion a newyddion’, ac ar ôl treulio dros 30 mlynedd yn casglu deunydd ar ei gyfer (yn eiriau ac yn ddyfyniadau enghreifftiol o destunau llenyddol), treuliodd dros dair mlynedd, rhwng 1604 ac 1607, yn cofnodi’r cyfan. Mae’n eiriadur anferth – bron i 40,000 o gofnodion wedi eu hysgrifennu ar oddeutu 1,500 o dudalennau. Yn anffodus ni chyhoeddwyd y geiriadur, ac unwaith y cyhoeddwyd Dictionarium Duplex y Dr John Davies o Fallwyd yn 1632, at hwnnw y trôi pawb, gan fod ei gopïau print niferus yn llawer mwy hygyrch na chopi unigryw geiriadur Thomas Wiliems. Mae ei eiriadur ef yn parhau i fod heb ei argraffu hyd heddiw, ar gadw yng nghasgliad Peniarth Llyfrgell Genedlaethol Cymru (LlGC Peniarth 228).”
Meddai’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, “Rydym yn hynod falch fod yr Athro Ann Parry Owen yn traddodi Darlith O’Donnell eleni, wrth i ni ddathlu 40 mlwyddiant sefydlu’r Ganolfan fel Canolfan Ymchwil gan Brifysgol Cymru. Mae’r Athro Parry Owen yn un o ymchwilwyr mwyaf blaenllaw’r Ganolfan ac wedi arwain sawl prosiect allweddol. Edrychwn ymlaen yn arw at ei darlith.”
Traddodir y ddarlith yn fyw yn y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac ar lein trwy Zoom ddydd Iau, 5 Mehefin am 17:00. Cynigir cyfieithu ar y pryd i’r Saesneg.
E-bostiwch canolfan@cymru.ac.uk i gofrestru i ddod i’r Llyfrgell neu i dderbyn y ddolen Zoom.
Digwyddiad rhad ac am ddim. Bydd paned am 16:30.
Croeso cynnes i bawb!

Nodiadau i Olygyddion
Cyswllt: Dr Angharad Elias (Swyddog Gweinyddol) a.elias@cymru.ac.uk
1. Sefydlwyd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd gan Brifysgol Cymru yn 1985 fel canolfan ymchwil arbenigol yn cynnal prosiectau cydweithredol ar ieithoedd, llenyddiaethau, diwylliant a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill. Mae’r Ganolfan wedi ei lleoli mewn adeilad pwrpasol yn Aberystwyth, wrth ymyl Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llyfrgell hawlfraint o fri rhyngwladol gyda chyfleusterau ymchwil rhagorol. Mae’r Ganolfan yn dathlu ei deugain oed eleni a chynhelir cynhadledd ryngwladol i nodi hynny yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar 17–19 Medi 2025.
2. Mae’r Ganolfan yn cynnig cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr ôl-raddedig i weithio gydag arbenigwyr mewn amgylchedd deinamig a chefnogol. Croesawn ymholiadau am bynciau MPhil/PhD mewn unrhyw un o’n meysydd ymchwil. Am ragor o wybodaeth, neu i gael sgwrs anffurfiol am bynciau posibl, cysylltwch â’n Pennaeth Astudiaethau Ôl-raddedig, Dr Elizabeth Edwards: e.edwards@cymru.ac.uk
3. Y Ganolfan yw cartref Geiriadur Prifysgol Cymru ddathlodd ei ganmlwyddiant yn 2021: https://www.geiriadur.ac.uk/
Gwybodaeth Bellach
Arwel Lloyd
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467076