Skip page header and navigation

Cefndir

Ymunodd Andrea â’r Ganolfan Seicoleg a Chwnsela ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Abertawe yn 2014. 

Mae ganddi fwy nag 20 mlynedd o brofiad yn addysgwr a hwylusydd, gan addysgu cwnsela, seicoleg, iechyd a gofal cymdeithasol a datblygiad personol mewn ystod eang o leoliadau, gan gynnwys ysgolion, colegau, sefydliadau addysg uwch a lleoliadau iechyd a chymunedol. 

Pynciau Arbenigol

  • Cwnsela a Seicotherapi Integreiddiol sy’n Canolbwyntio ar Unigolion: Theori ac Arfer
  • Arfer Adfyfyriol
  • Datblygiad Personol
  • Moeseg a Safonau Proffesiynol mewn Cwnsela a Seicotherapi
  • Datblygu Sgiliau Cwnsela
  • Iechyd Meddwl a Llesiant
  • Iechyd Meddwl mewn Plant a Phobl Ifanc
  • Meini Prawf Asesu Ymwybyddiaeth Ofalgar, Hunanofal a Gwydnwch
  • Therapi Eco-Natur

Profiad Proffesiynol a/neu Ymchwil

Cymhwysodd Andrea yn gwnselydd a seicotherapydd Integreiddiol yn 2012 ac mae hi’n aelod cofrestredig o Gymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (MBACP) ac yn aelod o’r grŵp cynghori ar gyfer Meincnodau Pwnc yr ASA ar gyfer Cwnsela a Seicotherapi 2022. Mae ganddi bractis preifat yn Abertawe ac mae ganddi sawl blwyddyn o brofiad yn cefnogi oedolion, plant a phobl ifanc mewn amryw leoliadau, gan gynnwys ysgolion, colegau, gofal iechyd sylfaenol a’r sector gwirfoddol.

Cymwysterau

  • MA mewn Arfer Cwnsela – Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
  • Diploma mewn Arfer Cwnsela Integreiddiol – Prifysgol Morgannwg (Prifysgol De Cymru)
  • Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) – Prifysgol Cymru – Casnewydd (Prifysgol De Cymru)
  • Tystysgrif Uwch mewn Cwnsela
  • BSc (Anrh) Seicoleg – Prifysgol Abertawe

Ieithoedd a Siaradwyd

Saesneg

Aelodaeth Broffesiynol neu Rôl

BCAP – Aelod Cofrestredig o Gymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (MBACP).
Awdurdod Safonau Proffesiynol (Cofrestr Achrededig PSA)
QAA Subject Benchmark Statement for Counselling and Psychotherapy. 2022.  Subject Advisor and member of writing team.
Datganiad Meincnodi Pwnc yr ASA ar gyfer Cwnsela a Seicotherapi. 2022. Cynghorydd Pwnc ac aelod o’r tîm ysgrifennu.

Addysgu Academaidd