Ben Duxbury
Darlithydd
Cefndir
Astudiodd Dr Duxbury Ffrangeg ym Mhrifysgol Lerpwl cyn cymhwyso fel athro ysgol uwchradd ym Mhrifysgol Caerlŷr i ddysgu Ffrangeg a Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill.
Ar ôl addysgu yn Ffrainc a’r Iseldiroedd am nifer o flynyddoedd, dychwelodd i’r Deyrnas Unedig i astudio nyrsio, gan gymhwyso fel nyrs oedolion ym Mhrifysgol Abertawe. Yna, dechreuodd PhD mewn Ymchwil Iechyd a ariannwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Gofal Cymdeithasol ac Ymchwil Iechyd (NISCHR).
Ers cwblhau’r PhD yn 2015, mae Ben wedi gweithio fel nyrs oedolion, fel cynorthwyydd ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe ac fel darlithydd iechyd/gofal cymdeithasol/nyrsio ym Mhrifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS).
Pynciau Arbenigol
- Integrated working in health and social care.
- Care of people living with long term/chronic conditions.
- Social policy.
- Health economics.
- Health and social care research methodology.
Profiad Proffesiynol a/neu Ymchwil
Mae Dr Duxbury yn nyrs gofrestredig, gyda’i brif brofiad yn y maes ôl-driniaethol. Mae ganddo PhD mewn Gwyddor Iechyd o Brifysgol Abertawe, a oedd yn astudiaeth achos o greu tîm iechyd a gofal cymdeithasol integredig yn ne-orllewin Cymru. Cynhaliodd gyfweliadau casglu data, grwpiau ffocws, arsylwi anghyfranogwr a dadansoddiad dogfennol.
Mae wedi gweithio fel cynorthwyydd ymchwil ar y prosiect Gweithrediad Gwybyddol a Heneiddio ym Mhrifysgol Abertawe, gan gynnal cyfweliadau meintiol. Mae wedi addysgu amrywiaeth o fodylau iechyd a gofal cymdeithasol/nyrsio ym Mhrifysgol Abertawe a PCYDDS, ac mae'n ymwneud â goruchwylio myfyrwyr meistr a doethuriaeth PCYDDS.
Mae wedi gweithio fel cynorthwyydd ymchwil ar y prosiect Gweithrediad Gwybyddol a Heneiddio ym Mhrifysgol Abertawe, gan gynnal cyfweliadau meintiol. Mae wedi addysgu amrywiaeth o fodylau iechyd a gofal cymdeithasol/nyrsio ym Mhrifysgol Abertawe a PCYDDS, ac mae'n ymwneud â goruchwylio myfyrwyr meistr a doethuriaeth PCYDDS.
Cymwysterau
- BA (Anrh) Ffrangeg (2.1), Prifysgol Lerpwl
- MA Ffrangeg, Prifysgol Lerpwl
- TAR Ffrangeg ac Addysgu Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill, Prifysgol Caerlŷr
- Baglor mewn Nyrsio (Anrhydedd Dosbarth 1af), Prifysgol Abertawe
- PhD Gwyddor Iechyd, Prifysgol Abertawe
Ieithoedd a Siaradwyd
Saesneg, Ffrangeg, Iseldireg (rhugl), Cymraeg sylfaenol