Skip page header and navigation

Cefndir

Mae gan Bianca fwy na degawd o brofiad addysgu ac arweinyddiaeth academaidd ym maes addysg uwch ar draws amryw athrofeydd yn Llundain. Mae ei meysydd arbenigedd yn cynnwys cynllunio cwricwlwm cynhwysol ac addysgegau cyfranogol, gyda ffocws cadarn ar ehangu cyfranogiad a chyfiawnder cymdeithasol mewn addysg.  

Mae gan Bianca BA mewn Addysg gyda gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf o Athrofa Addysg UCL ac MA mewn Arweinyddiaeth Addysgol gyda Rhagoriaeth o Brifysgol Greenwich. Mae ganddi hefyd TAR mewn Addysg Bellach o Greenwich a TystAU mewn Dysgu ac Addysgu mewn Addysg Uwch o Brifysgol Llundain. 

Mae Bianca yn Uwch Gymrawd AU Ymlaen, mae ganddi Statws Tiwtor Rhyngwladol, ac mae hi wrthi’n cwblhau PhD mewn Addysg Uwch ym Mhrifysgol Surrey. 

Ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (campws Llundain), mae Bianca yn Rheolwr Rhaglen ar gyfer y BSc mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol. 

Pynciau Arbenigol

  • Dulliau Ymchwil
  • Seicoleg mewn Arfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Gweithio gyda Phlant a Theuluoedd
  • Datblygiad Plant
  • Arweinyddiaeth, Creadigrwydd ac Arloesi

Profiad Proffesiynol a/neu Ymchwil

Mae gan Bianca ddiddordeb arbennig mewn datblygu cwricwla sy’n cefnogi llesiant myfyrwyr ac sy’n lleihau anghydraddoldebau. Mae ei ymchwil, sydd wedi’i seilio ar ddamcaniaeth Foucauld a dadansoddi disgwrs beirniadol, yn archwilio sut mae arferion addysgu a pholisïau addysgol yn dylanwadu ar ddadleuon cyfredol ar iechyd meddwl a phrofiad myfyrwyr, yn aml mewn ffyrdd sy’n atgynhyrchu anghydraddoldeb ac ymyleiddio. Yn ogystal, mae ganddi Ddiploma Rhyngwladol mewn Addysgeg Montessori, sy’n adlewyrchu ei hymrwymiad i arferion dan arweiniad myfyrwyr ac addysg gynhwysol sy’n canolbwyntio ar ddysgwyr. Mae ei diddordebau ymchwil a’i phrofiad proffesiynol yn llywio ei hagwedd at arloesi yn y cwricwlwm ac yn hyrwyddo addysgegau cydweithredol, cynhwysol a thrawsnewidiol.

Cymwysterau

  • BA (Anrh) Addysg, Athrofa Addysg UCL
  • MA Arweinyddiaeth Addysgol, Prifysgol Greenwich
  • TAR Addysg Bellach, Prifysgol Greenwich
  • TystAU Dysgu ac Addysgu mewn Addysg Uwch, Prifysgol Llundain
  • Ymgeisydd PhD mewn Addysg Uwch, Prifysgol Surrey
  • Uwch Gymrawd, AU Ymlaen

Ieithoedd a Siaradwyd

Saesneg
Eidaleg

Addysgu Academaidd