Skip page header and navigation

Cefndir

Mae Dr. Brett Aggersberg yn Rheolwr Rhaglen o fewn Dylunio a Diwydiannau Perfformio, yn ymdrin â’r meysydd Gwneud Ffilmiau Antur a Chynhyrchu Cyfryngau Digidol ar gampws Caerfyrddin. 

Mae gan Brett 25 mlynedd o brofiad proffesiynol ac addysgu ym maes cynhyrchu a damcaniaeth ffilm a chyfryngau. Mae gan Brett, sy’n gweithio yn y diwydiant ar hyn o bryd yn ogystal â darlithio, rwydwaith helaeth ag arweinwyr yn y diwydiant gwneud ffilmiau a chreu cynnwys digidol. 

Dyfarnwyd PhD i Dr Brett Aggersberg mewn Celf Gain a Ffotograffiaeth. Mae ganddo hefyd BSc (Anrh) Amlgyfrwng, MA Cyfathrebu Gweledol a Tyst. Ôl-radd Dysgu ac Addysgu mewn Addysg Uwch. Bu Brett yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Florida yn astudio Dylunio Rhaglen Gyfnewid Rithwir. 

Mae profiad helaeth Brett yn y diwydiant a’i ddiddordebau ymchwil, mewn defnyddio technoleg wrth gynrychioli’r byd naturiol ac adrodd straeon, yn helpu i lywio ei addysgu ledled ein portffolio, lle mae addysgu ar flaen y gad o ran arloesi yn y diwydiant. 

Pynciau Arbenigol

  • Gwneud Ffilmiau Antur
  • Technolegau Creadigol Datblygol
  • Ffotograffiaeth
  • Cynaliadwyedd wrth Wneud Ffilmiau Dogfen
  • Cyfathrebu Gweledol
  • Virtual Exchange
  • Cyfnewid Rhithwir

Profiad Proffesiynol a/neu Ymchwil

Brett yw Cyfarwyddwr Gŵyl Cyfryngau Rhyngwladol Cymru, cadeirydd pwyllgor Clwb Ffilm Caerfyrddin, mae’n feirniad a hwylusydd y diwydiant yng Ngŵyl Ffilm Bae Caerfyrddin, ac yn aelod o’r Gymdeithas Ffotograffwyr Natur a Bywyd Gwyllt. Mae ei ddiddordebau ymchwil mewn defnyddio technoleg wrth gynrychioli’r byd naturiol ac adrodd straeon. Mae wrthi’n cyfrannu at ymchwil ar bwnc gwyliau ffilm Chwaraeon ac Antur. Mae Brett yn ymwneud yn weithredol â hyfforddiant cynaliadwyedd Albert BAFTA ar gyfer ffilmiau dogfen a heb sgript. Mae hefyd yn gydweithredwr gyda Phrifysgol Florida ar ddatblygu prosiectau cyfnewid rhithwir.

Cymwysterau

  • PhD mewn Celf Gain a Ffotograffiaeth
  • MA Cyfathrebu Gweledol
  • BSc (Anrh) Amlgyfrwng
  • PGC Teaching and Learning in Higher Education
  • Tyst. Ôl-radd Dysgu ac Addysgu mewn Addysg Uwch

Ieithoedd a Siaradwyd

Saesneg

Aelodaeth Broffesiynol neu Rôl

Cyfarwyddwr Gŵyl Cyfryngau Rhyngwladol Cymru
Cadeirydd pwyllgor Clwb Ffilm Caerfyrddin
Beirniad a hwylusydd y diwydiant yng Ngŵyl Ffilm Bae Caerfyrddin
Aelod o’r Gymdeithas Ffotograffwyr Natur a Bywyd Gwyllt

Addysgu Academaidd

Cydnabyddiaeth neu Wobrau Allanol

Cymrawd yr Academi Addysg Uwch

Cymorth Cyntaf yn yr Awyr Agored Lefel 3

Cymhwyster “Gweithdy Hinsawdd Ar y Sgrin: Teledu Heb Sgript” a roddir gan BAFTA Albert

Cymhwyster “Cynhyrchu Rhaglenni Dogfen” a roddir gan BAFTA Albert

Addysgwr Creadigol Adobe

Screen Skills – Cynaliadwyedd ar gyfer Diwydiannau’r Sgrin