Skip page header and navigation

Cefndir

Mae gan Jayne 40 mlynedd o brofiad proffesiynol ac addysgu mewn amrywiaeth o rolau uwch reolwyr a lletygarwch, gyda rhwydwaith helaeth sydd ag arweinwyr ym maes Lletygarwch a Gastronomeg.  

Enillodd Dr Jayne Griffith-Parry ei BSc o Brifysgol Dundee, ac MSc o Brifysgol Manceinion. Gan newid ffocws proffesiynol, gweithiodd mewn swyddi uwch reolwyr yn gyntaf ym maes iechyd, gan gynnwys HM QARANC, ac wedyn yn berchennog busnes lletygarwch gan ymgymryd â PhD ym Mhrifysgol Manceinion a pharhau mewn lletygarwch ac addysg am 25 mlynedd ar ôl hyn.  

Mae Jayne yn un o Ymddiriedolwyr Sefydliad Addysgol Cogydd Ifanc, Gweinydd Ifanc y Byd, yn feirniad ar lefel genedlaethol a rhyngwladol ac yn ymgynghori’n broffesiynol ar draws y sector, mae Jayne hefyd yn llysgennad ar gyfer y Burnt Chef Project.  

Mae profiad helaeth Jayne yn sail i’w harweinyddiaeth o Reolaeth Lletygarwch a Thwristiaeth yn PCYDDS yn ei rôl yn Gyfarwyddwr Academaidd, lle mae’r addysgu ar flaen y gad o ran arloesedd yn y diwydiant. 

Pynciau Arbenigol

  • Gastronomeg Ryngwladol
  • Profiad Gwesteion
  • Gwasanaeth gwinoedd a gwin
  • Marchnata
  • Rheoli Gweithredol
  • Arweinyddiaeth

Profiad Proffesiynol a/neu Ymchwil

Mae gan Dr Jayne Griffith-Parry dros bedwar degawd o brofiad ym maes rheoli a lletygarwch, gan gyfuno ymgysylltiad helaeth â'r diwydiant ag arweinyddiaeth academaidd. Cyn ymuno â'r byd academaidd, treuliodd 34 mlynedd mewn rolau uwch mewn amrywiaeth o sectorau, yn y DU a Ffrainc.



Yn PCYDDS, mae Jayne yn arwain tîm o Ddarlithwyr sy'n canolbwyntio ar bartneriaethau gweithredol chysylltiad cadarnhaol dysgwyr â'r cyfleoedd gorau. Ar hyn o bryd mae'n gweithio gydag Academi Frenhinol y Celfyddydau Coginio, yn eu Rhaglen Gymunedol ar gyfer Colegau, i helpu PCYDDS i fod yn ganolbwynt i golegau Cymru sy'n cynnig cyrsiau Lletygarwch a Choginio. Mae hyn hefyd yn cyd-fynd â'i gwaith yn Sefydliad Addysgol Cogydd Ifanc, Gweinydd Ifanc y Byd, ei rôl yn Disciples Escoffier ac yn llywio polisi'r sector a'r arfer gorau yn UKHospitality a'r Sefydliad Lletygarwch.

At UWTSD, Jayne leads a team of Lecturers who focus on active partnerships and positive exposure of learners to the best opportunities. She is currently working with the Royal Academy of Culinary Arts, within their College Community Programme, to facilitate UWTSD as a hub for Welsh colleges who offer Hospitality and Culinary courses. This also aligns with her work within the World Young Chef Young Waiter Educational Foundation, her role as a Disciple of Escoffier and informs sector policy and best practice within UK Hospitality and the Institute of Hospitality.

Cymwysterau

  • PhD
  • MSc
  • BSc
  • TAR
  • SFHEA
  • TESOL

Ieithoedd a Siaradwyd

Saesneg

Ffrangeg

Aelodaeth Broffesiynol neu Rôl

Aelod - Sefydliad Lletygarwch
Llysgennad – Burnt Chef Project
Aelod - Sefydliad Marchnata Siartredig
Ymddiriedolwr - Sefydliad Addysgol Cogydd Ifanc
Gweinydd Ifanc y Byd Aelod - Disciples Escoffier

Cydnabyddiaeth neu Wobrau Allanol

SFHEA

Gwobr Cydweithiwr Ysbrydoledig NEXUS PCYDDS 2023

Aelod sefydledig o Disciples Escoffier UK 2024

Ar Gael i Oruchwylio Myfyrwyr Doethurol

Ydw