Jeremy Smith
Deon Athrofa Addysg a’r Dyniaethau
Cefndir
Cyn dod i’r Drindod Dewi Sant, roedd Dr Jeremy Smith yn Ddarlithydd mewn Hanes ym Mhrifysgol Caerwysg, yn Uwch Ddarlithydd mewn Hanes Modern ym Mhrifysgol Caer, gan symud I PCYDDS / Llanbedr Pont Steffan yn 2008 fel Pennaeth yr Ysgol Archaeoleg, Hanes ac Anthropoleg.
Pynciau Arbenigol
- Hanes Modern Prydain ac Ewrop ers diwedd y ddeunawfed ganrif; hanes Rheolaeth Gartref yn Iwerddon ers y 1880au, yr Helyntion yng Ngogledd Iwerddon, a gwleidyddiaeth y Dde ers y 1880au.
Profiad Proffesiynol a/neu Ymchwil
Mae Dr Smith wedi ysgrifennu pedwar llyfr yn ogystal â nifer o erthyglau a phenodau. Mae ei lyfrau yn cynnwys Taming Democracy: A History of the Conservative Party, 1880-1924, ar gyfer gwasg UoW; Britain and Ireland: From Home Rule to Independence, 1867-1921 ar gyfer cyfres Longman Seminar Studies, a The Tories and Ireland: Conservative Party Politics and the Home Rule Crisis, 1910-1914, ar gyfer yr Irish Academic Press. Ei lyfr diwethaf, ar gyfer Pearson, oedd ar Making the Peace in Ireland: A History of the Peace Process, ymgais i osod deinameg adeiladu heddwch yng Ngogledd Iwerddon mewn cyd-destun hanesyddol hirach.
Cymwysterau
- BA Hanes o Brifysgol Caerwysg
- MSc o Ysgol Economeg Llundain
- PhD o Ysgol Economeg Llundain
Ieithoedd a Siaradwyd
Saesneg