Skip page header and navigation

Cefndir

Bu Neil yn gweithio am 15 mlynedd yn y Sector Addysg Uwch mewn rolau marchnata a rheoli, gan arwain at ei rôl fel Prif Swyddog Gweithredol Undeb Myfyrwyr Met Abertawe, cyn dechrau ei gwmni ei hun fel Ymgynghorydd Rheoli. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae Neil wedi canolbwyntio ar dyfu ei fusnesau ei hun yn ogystal ag addysgu ac ysbrydoli eraill i wneud yr un peth trwy astudiaethau a gweithdai Entrepreneuriaeth creadigol a diddorol yn PCYDDS.  

Mae Neil wedi ehangu ar ei gymhwyster BA Anrh mewn Marchnata, trwy gwblhau ei MBA a PG Cert Addysgu mewn Addysg Uwch (AAU) yn PCYDDS. Mae Neil yn darlithio’n bennaf  ar y meysydd Busnes, Marchnata ac Entrepreneuriaeth i fyfyrwyr Lefel 4 - 7. 

Pynciau Arbenigol

  • Entrepreneuriaeth a Mente
  • Marchnata
  • Rheoli Busnes

Profiad Proffesiynol a/neu Ymchwil

Mae busnes ymgynghori Neil wedi cynorthwyo dros 100 o fusnesau newydd yn ardal De Cymru yn ogystal â darparu cefnogaeth rheoli a marchnata ar gyfer amrywiaeth eang o fusnesau presennol sy'n dymuno tyfu. Mae gan Neil ddiddordeb arbennig mewn sefydliadau nid-er-elw sy'n cefnogi amrywiaeth o fentrau lleol, gan weithredu fel aelod bwrdd anweithredol, ac yn ogystal mae wedi cefnogi gyda chreu nifer o Gwmnïau Buddiant Cymunedol (CIC's).



Gydag angerdd mewn Entrepreneuriaeth, ac awydd cryf i annog ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o Entrepreneuriaid, mae Neil yn ymwneud â menter Llywodraeth Cymru, Syniadau Mawr Cymru, ac mae wedi cefnogi PCYDDS yn y gorffennol drwy gynnal gweithdai ar-lein ac wyneb yn wyneb ar Ddechrau Busnes i fyfyrwyr a'r cyhoedd yn gyffredinol.

Cymwysterau

  • BA (Anrh) Marchnata, Prifysgol Gorllewin Lloegr
  • MBA, PCYDDS
  • PG Cert HE, PCYDDS

Ieithoedd a Siaradwyd

Saesneg