Skip page header and navigation

Cefndir

Mae gan Dr Seena Joseph fwy nag 20 mlynedd o brofiad academaidd a phroffesiynol mewn Technoleg Gwybodaeth a Chyfrifiadureg. Ar ôl darlithio mewn prifysgolion yn Ne Affrica a bellach yn y Deyrnas Unedig, mae hi’n dod â phersbectif byd-eang i gyfrifiadura, ymchwil ac ymgysylltu â myfyrwyr. 

Mae ganddi MTech a PhD mewn Technoleg Gwybodaeth o Brifysgol Technoleg Durban, De Affrica. 

Mae ei hymchwil yn rhychwantu Deallusrwydd Artiffisial (AI), gan gynnwys dysgu peirianyddol a dysgu dwfn, gyda chymwysiadau mewn prosesu iaith naturiol, prosesu delweddau, a gweledigaeth gyfrifiadurol. Yn ogystal, mae’n archwilio AI mewn seiberddiogelwch. Ar yr un pryd, mae ei hymchwil roboteg yn canolbwyntio ar systemau sgerbydau allanol meddal gyda diddordeb arbennig mewn atebion clinigol ar gyfer technolegau cynorthwyol. 

Mae ei haddysgu dan arweiniad ymchwil yn llywio ei chyfraniadau ar draws rhaglenni israddedig ac ôl-raddedig. Mae’n integreiddio arferion wedi’u gwella gan dechnoleg a safonau academaidd a phroffesiynol cyfredol i’r rhaglenni er mwyn cefnogi dysgu ac ymgysylltu myfyrwyr.  

Pynciau Arbenigol

  • Deallusrwydd Artiffisial a Dysgu Peirianyddol
  • Gweledigaeth Gyfrifiadurol a Phrosesu Delweddau
  • Gwyddor Data a
  • Rhaglennu a Datblygu Meddalwedd
  • Dulliau Ymchwil

Profiad Proffesiynol a/neu Ymchwil

Mae gan Dr Seena Joseph dros ddau ddegawd o brofiad mewn Technoleg Gwybodaeth a Chyfrifiadureg, gan gyfuno addysgu academaidd ag arbenigedd ymchwil gymhwysol. Mae wedi gweithio mewn rolau darlithio yn Ne Affrica a'r DU, gan gyfrannu at ddatblygu'r cwricwlwm, goruchwyliaeth ôl-raddedig, ac ymchwil ryngddisgyblaethol.



Mae ei hymchwil yn cwmpasu deallusrwydd artiffisial, gan gynnwys dysgu peirianyddol, dysgu dwfn, prosesu iaith naturiol, gweledigaeth gyfrifiadurol, a phrosesu delweddau, yn ogystal â roboteg sgerbydau allanol meddal ar gyfer adsefydlu clinigol a thechnolegau cynorthwyol. Yn PCYDDS, mae'n arwain prosiectau ymchwil gyda phartneriaid cenedlaethol a rhyngwladol ac yn gwasanaethu ar y Pwyllgor Doethurol a Moeseg. Mae'n mentora myfyrwyr ôl-raddedig mewn ymchwil, yn cymryd rhan mewn cynadleddau, ac yn cyhoeddi, gan sicrhau bod ymchwil yn cael ei throsi'n effaith ymarferol a chymdeithasol.

Cymwysterau

  • Meistr mewn Technoleg (MTech) mewn Technoleg Gwybodaeth, Prifysgol Technoleg Durban, De Affrica
  • PhD mewn Technoleg Gwybodaeth, Prifysgol Technoleg Durban, De Affrica

Ieithoedd a Siaradwyd

Saesneg

Aelodaeth Broffesiynol neu Rôl

Cymdeithas Gyfrifiadurol De Affrica
Cyngor Addysgwyr De Affrica
IEEE (Sefydliad Peirianwyr Trydanol ac Electroneg)

Cydnabyddiaeth neu Wobrau Allanol

Gwobr Canlyniadau Matrics Uchaf Cenedlaethol a Thaleithiol (Addysgu) – Eastern Cape, De Affrica, 2010.

Dyfarniad Canlyniadau Matrics Uchaf ar lefel Rhanbarthol (Addysgu) – Eastern Cape, De Affrica, 2013 a 2014.

Gwobr Teilyngdod y Deon am Ragoriaeth Academaidd –

MTech: Technoleg Gwybodaeth.

Gwobr Traethawd Ymchwil Gorau –

MTech: Technoleg Gwybodaeth.

Dolen i Broffil Orcid

Cyhoeddiadau Proffesiynol

  • FHBDSR-Net: Automated Measurement of Diseased Spikelet Rate of Fusarium Head Blight on Wheat Spikes
  • Hyperparameter Tuning and Its Application in Sentiment Analysis with Convolutional Neural Network
  • A Prediction of South African Public Twitter Opinion Using a Hybrid Sentiment Analysis Approach
  • Developing a Data Lakehouse for a South African Government-Sector Training Authority

Ar Gael i Oruchwylio Myfyrwyr Doethurol

Ydw