Skip page header and navigation

Cefndir

Mae Stuart wedi bod yn addysgu ar raglenni Seicoleg a rhaglenni eraill yn PCYDDS ers 2010 ac mae wedi cyfrannu at gyflwyno a goruchwylio cyrsiau israddedig ac ôl-raddedig.  

Yn flaenorol, bu Stuart yn gweithio fel darlithydd ym Mhrifysgol Morgannwg, gan ddarlithio ar y rhaglen BSc Gwyddor Chwaraeon. Gweithiodd hefyd fel ymchwilydd Seicoleg Iechyd ar gyfer prosiect a gyllidwyd mewn cydweithrediad â Phrifysgol Caerfaddon a GIG Gogledd Wiltshire yn archwilio dichonoldeb mentora cymheiriaid o fewn menter ymarfer corff gymunedol ar gyfer cleifion sydd â diagnosis o COPD. Arweiniodd hyn at ddatblygu Llawlyfr ar gyfer Mentoriaid Cymheiriaid a gyhoeddwyd gan GIG Gogledd Wiltshire. 

Yn PCYDDS, mae Stuart wedi bod yn rheolwr rhaglen ar nifer o raglenni ac wedi dal swyddi ar nifer o bwyllgorau gan gynnwys y Pwyllgor Graddau Ymchwil a’r Pwyllgor Ymchwil. Roedd Stuart yn aelod o Bwyllgor Moeseg y Brifysgol (o 2016-2022) ac wedi cadeirio’r Pwyllgor rhwng 2019 a 2022. 

Pynciau Arbenigol

  • Chwaraeon, Ymarfer Corff a Seicoleg Iechyd.
  • Niwrowyddoniaeth Fiolegol a Gwybyddol.
  • Dulliau Ymchwil Meintiol ac Ansoddol.
  • Iechyd Meddwl mewn Cymunedau Gwledig.
  • Seicoleg Anafiadau

Profiad Proffesiynol a/neu Ymchwil

Mae gan Stuart 20 mlynedd o brofiad yn y byd academaidd ac mae ganddo bortffolio addysgu sy'n cwmpasu ystod eang o feysydd ar lefel israddedig ac ôl-raddedig, gan gynnwys Seicoleg Chwaraeon ac Iechyd, Seicoleg Pobl Ifanc, Niwrowyddoniaeth, Dulliau Ymchwil ac Iechyd Meddwl. Yn flaenorol, bu'n gweithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol i hyfforddi mentoriaid cymheiriaid oedd yn archwilio ymlyniad at ymarfer corff a COPD, gan arwain at greu Llawlyfr ar gyfer Mentoriaid Cymheiriaid a gyhoeddwyd gan GIG Gogledd Wiltshire.

Yn PCYDDS, mae Stuart wedi cynrychioli nifer o bwyllgorau, gan gynnwys fel Cadeirydd Pwyllgor Moeseg Ymchwil y Brifysgol. Fel rheolwr rhaglen, mae wedi bod yn ymwneud â datblygu a gweithredu rhaglenni israddedig ac ôl-raddedig ym maes Seicoleg.

Mae Stuart yn Aelod Siartredig o Gymdeithas Seicolegol Prydain, yn Llysgennad STEMNET STEM ac mae hefyd yn Gymrawd o'r Academi Addysg Uwch. Mae Stuart yn fentor cymrodoriaeth gyda’r HEA, gan arwain cymheiriaid ar yr HEA a’r rhai sy’n gwneud cais am gymrodoriaeth.

Cymwysterau

  • BSc (Anrh) Seicoleg Chwaraeon, Prifysgol Morgannwg
  • Diploma Ôl-raddedig mewn Seicoleg, Prifysgol Morgannwg
  • MSc mewn Gwyddor Ymarfer Corff (Llwybr Seicoleg), Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd (UWIC)
  • PhD mewn Seicoleg, Prifysgol De Cymru

Ieithoedd a Siaradwyd

Mae Stuart yn siaradwr rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Aelodaeth Broffesiynol neu Rôl

Aelodaeth Siartredig (CPsychol) o Gymdeithas Seicolegol Prydain
Cymrodoriaeth yr Academi Addysg Uwch (FHEA)
Llysgennad STEMNET STEM

Addysgu Academaidd

Cydnabyddiaeth neu Wobrau Allanol

Defnyddiwr Profion Cynorthwyol: Cymhwyster Galwedigaethol

Defnyddiwr Profion: Cymhwyster Galwedigaethol, Gallu

Defnyddiwr Profion: Cymhwyster Galwedigaethol, Personoliaeth

Cofrestr Cymwysterau mewn Defnyddio Profion (RQTU)

Cyhoeddiadau Proffesiynol

  • Evans, L., Mitchell, I.D., & Jones, S. (2006). Psychological Response to Sport Injury. In Hanton, S. and Mellalieu, S.D. (Eds.), Literature Reviews in Sport Psychology. Hauppauge, NY: Nova Science.
  • Noam, G., Welton, N., & Jones, S. (2018). Well-Being and Resilience in a secondary School in Wales: Pupils and Staff Perspectives. Paper presented at A Child’s world: New Shoes, New Direction, Aberystwyth, July 2018.
  • Goddard, M & Jones, S (2017). Does regular salsa dancing improve our mental well-being, self-esteem and help to reduce or prevent loneliness? Paper presented at The British Psychological Society Division of Sport and Exercise Psychology Conference, Glasgow, December 2017.
  • Bernal-Davies, B., & Jones, S. (2016.) An Interpretative Phenomenological Analysis Approach to Understanding Filipino Migrant Workers in Wales. Paper presented at The European Conference on Psychology and Behavioural Sciences, Brighton, 2016.
  • Jones, S., Roderique-Davies, G., & John, B. (2015.) Exploring the emotional responses in recreational rugby union players following severe injury: A longitudinal perspective. 4th Annual Conference of The Welsh Branch of The British Psychological Society, Glyndwr, 2015.

Ar Gael i Oruchwylio Myfyrwyr Doethurol

Ydw