Susan Ainsworth
Uwch Ddarlithydd
Cefndir
Fel cyn-gyfarwyddwr disgyblaeth academaidd Cyfiawnder Cymdeithasol a Chynhwysiant (2015–2018) a Pholisi Cymdeithasol, Ieuenctid a Chymuned (2018–Gorffennaf 2020), mae Sue wedi cael profiad sylweddol ar draws ystod o raglenni. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn cynhwysiant, tegwch a hyrwyddo a chefnogi iechyd meddwl a llesiant cadarnhaol. Mae Sue yn mwynhau gweithio ar y cyd â myfyrwyr, lle gall rhannu profiadau a dealltwriaeth unigol annog amgylchedd dysgu deinamig a chreadigol.
Mae Sue yn athrawes gymwysedig ac roedd yn Bennaeth y Cyfnod Sylfaen a CADY mewn ysgol gynradd fawr a oedd yn cynnwys lleoliad Dechrau’n Deg a chanolfan adnoddau dysgu i blant ag awtistiaeth.
Pynciau Arbenigol
- Addysg (Blynyddoedd Cynnar; Cynradd; Anghenion Ychwanegol)
- Cynhwysiant a Chyfiawnder
- Cymdeithasol Iechyd meddwl a llesiant
Profiad Proffesiynol a/neu Ymchwil
Mae ymchwil Sue yn canolbwyntio'n gryf ar degwch ac arfer addysgol. Mae ei gwaith yn cynnwys archwilio hawliau plant, yn enwedig codi lleisiau dysgwyr ag anghenion ychwanegol. Mae hi wedi cynnal ymchwil i Arfer Adferol a'i botensial i feithrin newid ymddygiadol cadarnhaol mewn lleoliadau addysgol. Yn ogystal, mae Sue wedi ymchwilio i fethodolegau asesu, gan gymharu'r defnydd o farciau gradd â systemau marcio sy'n seiliedig ar ganran i werthuso eu heffaith ar ddeilliannau a chanfyddiadau myfyrwyr.
Cymwysterau
- BA Hanes a Saesneg (Cyd-anrhydedd)
- TAR
- MA Plant a Phobl Ifanc
Ieithoedd a Siaradwyd
Saesneg, Cymraeg (Dysgwr)
Aelodaeth Broffesiynol neu Rôl
Mae Sue yn Uwch Gymrawd o’r Academi Addysg Uwch
Ar Gael i Oruchwylio Myfyrwyr Doethurol
Nac ydw