
Cyfleusterau Cymdeithaseg
Ein cyfleusterau
Ein cyfleusterau
Dewch i ddarganfod amrywiaeth ddynamig o raglenni Cymdeithaseg galwedigaethol, seiliedig ar arfer, ar ein campws yng Nghaerfyrddin.
Mae ein cyrsiau wedi’u llunio ar gyfer myfyrwyr sy’n angerddol am ddeall strwythurau cymdeithasol, dynameg ddiwylliannol, a newidiadau cymdeithasol.
Rydym yn cynnig cyfleusterau addysgu arloesol, ystafelloedd dosbarth eang a chysylltiadau ardderchog â diwydiant i ddod â’ch astudiaethau’n fyw.
Cluster Facilities
Ein cyfleusterau
Cymdeithaseg
Mae ein cyfleusterau’n cynnwys addysgu cydamserol, gyda darlithoedd ar gael wyneb yn wyneb ac ar-lein drwy Teams, gan wella hygyrchedd.
Mae pob darlith yn cael ei recordio a’i rhannu gyda’r myfyrwyr, gan ganiatáu dysgu hyblyg. Bydd adnoddau llyfrgell helaeth ar gael i chi ar y campws ac ar-lein.
Mae sesiynau tiwtorial personol rheolaidd yn darparu cefnogaeth fugeiliol, tra bod cyfleoedd lleoliad gwaith yn cynnig profiad ymarferol mewn sectorau perthnasol.
Mae ein dulliau asesu yn amrywiol ac yn ymwneud ag arfer yn y maes.

Ystafell Drochi
Mae ein campws yng Nghaerfyrddin yn elwa o ystafell drochi, un o’r mannau dysgu newydd cyntaf o’i bath yng Nghymru. Mae profiad defnyddiwr realiti rhithwir ac estynedig llawn yn cael ei greu gan ddefnyddio’r sgriniau Samsung LED diweddaraf ar draws tair wal.

Bywyd ar gampws Caerfyrddin
Archwiliwch yr ystod ardderchog o gyfleusterau sydd ar gampws Caerfyrddin, ac yn cynnig profiad buddiol cyffredinol i fyfyrwyr. Mae’r campws yn cynnwys adnoddau dysgu o’r radd flaenaf, mannau ar gyfer celfyddydau creadigol, stiwdios ac ystafelloedd ymarfer, a mannau addysgu arloesol. Mae’r llyfrgell yn llawn dop o gasgliadau digidol a chorfforol. Gall myfyrwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol yn y ganolfan chwaraeon, sy’n cynnwys campfa, dosbarthiadau ffitrwydd a chaeau chwaraeon. Yn ogystal, mae gan y campws ddigonedd o fannau cymdeithasol, caffis a hwb undeb y myfyrwyr, gan greu awyrgylch cymuned bywiog sy’n berffaith ar gyfer twf academaidd a phersonol.