Skip page header and navigation

Ein Cyfleusterau

Yn fyfyriwr ffilm, cyfryngau a diwydiannau creadigol yng Nghaerfyrddin, cewch fynediad at amrywiaeth o fannau stiwdio, ystafelloedd golygu, gweithdai, a mannau theatr. 

Ein Cyfleusterau

Two students face each other, one backing away holding a film camera up by its mount; the other holds a camera and smiles; a third student lifts a light wand above her head.

Ymhlith ein cyfleusterau Ffilm a Chyfryngau arbenigol mae: 

Mae gan fyfyrwyr BA Gwneud Ffilmiau Antur fynediad at labiau Mac, stiwdio sgrin werdd, ac ystafell olygu ôl-gynhyrchu, yn ogystal â Chanolfan Addysg Awyr Agored Cynefin. Gall myfyrwyr ddefnyddio gweithfannau i fireinio eu gwaith golygu a thrafod gwaith gyda chymheiriaid. Mae’r ystafell olygu ôl-gynhyrchu yn defnyddio meddalwedd o safon diwydiant ar gyfrifiaduron Apple Mac gydag offer sain i raddio a thrin elfennau gweledol a sain eu ffilmiau, a’u sgrinio er mwyn cael adborth. Hefyd, mae gan fyfyrwyr fynediad at bensetiau Rhith-wirionedd ac Ystafell Drochi ar y campws lle gellir creu ac arddangos amgylcheddau digidol. Yn ein storfa offer clyweled gallwch gwrdd â’n harddangoswyr technegol i drafod syniadau, archebu, a chasglu offer. Rydym yn defnyddio ystod o frandiau offer camera gan gynnwys Canon, Lumix, OM Digital, Zoom, Benro, Insta360, GoPro, a Sennheiser. 

A young man films with a Lumix camera on a gimbal.

Ein Lleoliad 

Mae Caerfyrddin yn ganolfan gyfoethog a bywiog o greadigrwydd sy’n tynnu at ei gilydd gyfuniad unigryw o bynciau o’r celfyddydau creadigol a seiliedig ar berfformio gyda phrosesau ffilm a chyfryngau digidol uwch-dechnoleg, i greu cymuned ddysgu ddeinamig, arloesol a chyffrous. Mae’r campws yn bair creadigol ar gyfer ymarferwyr ac entrepreneuriaid wedi’i leoli o fewn adeiladau trawiadol ac eiconig. Mae ein lleoliad ger arfordir bendigedig, coetir dramatig, a chestyll hynafol. Mae pob un yn le gwych i greu gwaith gwreiddiol.  

Gwahanol fath o ystafell ddosbarth mewn profiad trochol ar y campws 

Rydym yn tanysgrifio i’r syniad bod pob man yn ystafell ddosbarth o fewn ein cymuned greadigol. Yn y cyfleoedd hynny i ddysgu mewn gweithdai, darlithfeydd, stiwdios ymarfer a lleoliadau y caiff syniadau eu llunio, trafod a’u gweithredu – mae’r rhain yn fannau ar gyfer adfyfyrio, trafod, ymholi a chael cyfleoedd. 

P’un a ydych yn wneuthurwr ffilmiau, yn ffotograffydd, neu’n ymchwilydd, byddwch yn gweithio ochr yn ochr ag ysgrifenwyr creadigol, actorion, cynhyrchwyr cyfryngau newydd, dylunwyr setiau, perfformwyr, cyfarwyddwyr, ac addysgwyr antur. 

A man crouches by a camera on a tripod as he films white breakers on a rocky shore.
Gwneud Ffilmiau Antur (BA Anrh)

Mae’r rhaglen Gwneud Ffilmiau Antur wedi’i lleoli mewn lleoliad unigryw sy’n elwa ar dirluniau arfordirol a mynyddig hardd. Mae alldeithiau rheolaidd a gweithdai lleoliad yn galluogi i fyfyrwyr ffilmio a thynnu llun natur a gweithgareddau anturus dan arweiniad ymarferwyr profiadol.

Eight students sit around a table as a lecturer at the head of the room points to a large screen showing a video editing program.
Cynhyrchu 

Bydd hyfforddiant cynhyrchu’n cael ei gynnal ar leoliad ac yn ein stiwdios a labordai cyfrifiadurol. Bydd gan fyfyrwyr fynediad i’n hystafell sgrinio trochi Samsung arloesol, yn ogystal ag ystafell Apple Mac sydd â monitorau 4K mawr a meddalwedd Adobe Creative Cloud. Hefyd, mae mannau creadigol yno fel Y Llwyfan, Ystafell Sgrin Werdd, Ystafell Olygu Ôl-gynhyrchu, a chyfleusterau sgrinio.

Aerial view Cynefin bike track
Canolfan Addysg Awyr Agored Cynefin 

Mae Canolfan Addysg Awyr Agored Cynefin y Brifysgol yn cynnwys hwb werdd, trac pwmp, wal ddringo, storfeydd offer antur, a mynediad i gaeau, cynefinoedd a thirluniau naturiol.  

Outside on Carmarthen Campus, a young man looks down at the preview screen on a large, professional camera.
Cydweithio

Rydym yn cydweithio ar nifer o ddigwyddiadau a chyfleoedd i fynd ar leoliadau gwaith gyda darlledwr cenedlaethol Cymru, S4C, yn ei gartref yng nghanolfan Yr Egin. Mae digwyddiadau fel yr Ŵyl Ffilmiau Antur, arddangosfa graddedigion, a gweithdai gyda brandiau camera enwog yn caniatáu i fyfyrwyr gysylltu gyda’r diwydiant. Hefyd, mae tenantiaid cynhyrchu cyfryngau yno sy’n cynnig cyfoeth o wybodaeth a phrofiadau o’r diwydiant. 

Penset VR  

Mae myfyriwr yn sefyll o flaen dosbarth yn gwisgo penset Oculus Quest ac yn gafael dau reolydd.

Sgrin Werdd 

Mae dyn ifanc yn dal clepiwr ac edrych i’r chwith, yn aros; sgrin werdd yw’r cefndir.

Ystafelloedd Mac  

Myfyrwyr yn eistedd o amgylch bwrdd cynhadledd gyda darlithydd.

Ystafell Drochi 

Mae myfyriwr yn pwyntio at dirwedd fynyddig sydd wedi’i dangos ar sgrin ddigidol y tu mewn i ystafell ymdrochol Caerfyrddin.

Ystafell Drochi

Mae ein hystafell sgrinio trochi Samsung o’r radd flaenaf yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr arddangos eu prosiectau. 

Myfyrwyr yn sefyll yn ystafell ymdrochol Caerfyrddin; mae un wal yn arddangos lluniau o hwyaden bren gwrywaidd a phryfyn ar betal blodyn.
Myfyrwyr yn gwylio golygfeydd o'r awyr agored sy’n cael eu harddangos y tu mewn i Ystafell Ymdrochol Caerfyrddin.
Ystafell Ymdrochol Caerfyrddin; mae un wal yn dangos ymyl llyn yn yr heulwen; mae un arall yn dangos menyw yn dawnsio mewn maes parcio yng nghanol mwg wedi’i liwio.
Mae'r myfyrwyr yn canmol yn yr Ystafell Ymdrochol; mae un wal yn arddangos testun o dan y pennawd - Daniel James Photography - ger llun du-a-gwyn.
Darlithydd yn defnyddio rhyngwyneb sgrin gyffwrdd rheoli Ystafell Ymdrochol Caerfyrddin; o'i flaen, mae'r myfyrwyr yn edrych ar y waliau digidol.

Oriel gyfleusterau

Bywyd ar y Campws

students at Carmarthen Campus

Bywyd ar gampws Caerfyrddin

Archwiliwch yr ystod ardderchog o gyfleusterau sydd ar gampws Caerfyrddin, ac yn cynnig profiad buddiol cyffredinol i fyfyrwyr. Mae’r campws yn cynnwys adnoddau dysgu o’r radd flaenaf, mannau ar gyfer celfyddydau creadigol, stiwdios ac ystafelloedd ymarfer, a mannau addysgu arloesol. Mae’r llyfrgell yn llawn dop o gasgliadau digidol a chorfforol. Gall myfyrwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol yn y ganolfan chwaraeon, sy’n cynnwys campfa, dosbarthiadau ffitrwydd a chaeau chwaraeon. Yn ogystal, mae gan y campws ddigonedd o fannau cymdeithasol, caffis a hwb undeb y myfyrwyr, gan greu awyrgylch cymuned bywiog sy’n berffaith ar gyfer twf academaidd a phersonol.