Skip page header and navigation

Adeiladu’r Sylfeini ar gyfer Chwaraeon (Cwrs Byr)

Dysgu Cyfunol
5 awr o ddysgu hyblyg ar-lein ynghyd â gweithdy ymarferol 1 diwrnod (7 awr)
Ar gyfer hyfforddwyr a gwirfoddolwyr sy'n gweithio gyda phlant 3-11 oed

Mae’r cyrsiau hyn ar gyfer hyfforddwyr a gwirfoddolwyr sy’n gweithio gyda phlant 3-11 oed i gefnogi datblygiad corfforol.

Nid oes gan 70% o blant y sgiliau echddygol hanfodol sydd eu hangen i lwyddo mewn chwaraeon a byw bywyd egnïol ac iach.  

Dewch i ddysgu gydag arbenigwyr byd-eang i fynd i’r afael â’r mater hwn. 

Image of training session

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Cyfunol (ar y campws)
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
5 awr o ddysgu hyblyg ar-lein ynghyd â gweithdy ymarferol 1 diwrnod (7 awr)
Gofynion mynediad:
Ar gyfer hyfforddwyr a gwirfoddolwyr sy'n gweithio gyda phlant 3-11 oed

£75 (neu am ddim i bobl 16-18 oed)

Pam dewis y cwrs hwn?

01
Mae’r cwrs hwn yn cyfuno hyblygrwydd dysgu ar-lein gyda manteision profiad ymarferol.
02
Offer ymarferol wedi’u cefnogi gan dros ddegawd o ymchwil.
03
Sgiliau sy’n cefnogi eich gyrfa mewn chwaraeon a’r tu hwnt.
04
Tystysgrif achrededig gan CIMSPA (10 credyd).
05
Cyd-fynd â Fframwaith Sylfeini Cymru.
06
Gwelliannau sylweddol i sgiliau echddygol plant.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

  • Deall sut mae sgiliau echddygol plant yn datblygu

  • Addasu gweithgareddau ac offer ar gyfer pob gallu 

  •  Adeiladu hyder a chymhelliant plant

  • Creu amgylcheddau hwyliog, cynhwysol a chadarnhaol 

  • Gweithio’n effeithiol gyda rhieni a theuluoedd

  • Cefnogi llythrennedd corfforol plant

Wedi’i gyflwyno dros 5 awr o ddysgu ar-lein hyblyg ynghyd â gweithdy ymarferol 1-diwrnod (7 awr).

Gwybodaeth bellach

  • Asesiad drwy gwis amlddewis.

  • Y gost fesul cyfranogwr yw £75 (rhad ac am ddim i bobl ifanc 16-18 oed).

  • CIMSPA
    Foundations Framework Wales