Addysg Iaith Saesneg a Llenyddiaeth Saesneg (Rhan amser) (ProfDoc)
Mae’r Rhaglen Doethuriaeth Broffesiynol yn cynnig cyfle i weithwyr proffesiynol Iaith Saesneg ennill cymhwyster ymchwil ar lefel doethuriaeth sy’n gysylltiedig â’u maes gwaith neu arbenigedd proffesiynol.
Mae doethuriaeth broffesiynol gyfwerth â PhD trwy ymchwil mwy traddodiadol o ran y cyfraniad gwreiddiol i wybodaeth y mae disgwyl i ymgeisydd ei wneud mewn maes penodol, ond mae’n cynnwys rhan a addysgir yn ogystal â’r ymchwil estynedig y bydd pob myfyriwr yn ei wneud.
Mae myfyrwyr y rhaglen hon yn cwblhau chwe modiwl sy’n cwmpasu meysydd addysg, llenyddiaeth ac ieithyddiaeth Saesneg, cyn cychwyn ar brosiect ymchwil sy’n ymwneud â’u diddordebau a’u profiad proffesiynol.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Saesneg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Yn ystod y rhan o’r rhaglen a addysgir (Rhan 1, Blwyddyn 1), mae myfyriwr yn astudio chwe modiwl sy’n cwmpasu addysg, llenyddiaeth ac ieithyddiaeth Saesneg.
Mae pob modiwl yn werth 30 credyd (cyfanswm o 180 credyd) ac yn cael ei asesu drwy aseiniadau gwaith cwrs.
Cyfnod o ymchwil uwch dan oruchwyliaeth (Blynyddoedd 2 a 3) yn arwain at gyflwyno portffolio ymchwil, gan gynnwys traethawd ymchwil hir o 60,000 o eiriau, ar ddiwedd Blwyddyn 3 yw Rhan 2 y rhaglen (gwerth 360 credyd).
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
(360 credydau)
tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Llety
Llety Llambed
Mae ein llety yn Llambed ar y Campws ei hun, sy’n golygu nad ydych chi byth yn bell o’r hyn sy’n digwydd ar y campws. Mae amrywiaeth o opsiynau gwahanol ar gael i’n myfyrwyr a fydd yn addas i bob cyllideb.
Gwybodaeth allweddol
-
Fel arfer mae gofyn bod gan ymgeiswyr o leiaf radd anrhydedd ail ddosbarth uwch neu radd Meistr sy’n berthnasol i’r rhaglen arfaethedig a ddyfernir gan Brifysgol neu sefydliad addysg uwch cydnabyddedig arall yn y DU, neu gan y Cyngor Dyfarniadau Academaidd Cenedlaethol (CNAA) er mwyn astudio ar gyfer gradd Doethuriaeth Broffesiynol.
Mae o leiaf tair blynedd o brofiad gwaith diweddar a pherthnasol yn ddymunol. Bydd pob cais yn cael ei asesu yn ôl ei rinweddau ei hun.
Gofynion Iaith Saesneg ar gyfer Myfyrwyr Rhyngwladol:
Sgôr IELTS cyffredinol cyfwerth â 6.0 neu’n uwch gyda sgôr o 5.5 neu’n uwch ym mhob rhan o’r prawf.
-
Caiff pob modiwl ei asesu drwy amrywiaeth o aseiniadau gwaith cwrs a all gynnwys traethodau, cyflwyniadau, dadansoddiad ac ymarferion testunol, adolygiadau o lyfrau, astudiaethau achos ac aseiniadau eraill.
-
Costau ychwanegol i’w talu gan y myfyriwr
Fel sefydliad, rydym yn ceisio gwella profiad y myfyriwr yn barhaus ac o ganlyniad, efallai y bydd costau ychwanegol i’r myfyriwr ar weithgareddau a fydd yn ychwanegu gwerth at eu haddysg. Lle bo modd, bydd y costau hyn yn cael eu cadw mor isel â phosibl a bydd y gweithgareddau ychwanegol yn ddewisol.Teithiau maes a chostau lleoliadau gwaith
Gall teithiau maes dewisol gael eu cynnig i fyfyrwyr. Bydd myfyrwyr yn cael gwybod am y costau ar gyfer y teithiau yn y DU ar ddechrau’r flwyddyn academaidd. Bydd myfyrwyr sy’n mynd ar leoliadau gwaith yn gorfod talu costau teithio, costau byw a chost llety o bosib.Costau ymchwil
Rhaid i’r myfyriwr ysgwyddo’r costau sy’n gysylltiedig â’r traethawd ymchwil yn Rhan 2 o’r rhaglen. Mae gan y Brifysgol sawl ysgoloriaeth a chynllun bwrsariaeth i helpu i dalu costau ymchwil. -
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae ystod eang o gyfleoedd gyrfa i raddedigion y rhaglen hon, gan gynnwys
- Dysgu mewn sefydliad Addysg Uwch
- Dysgu Saesneg fel ail iaith
- Saesneg at ddibenion academaidd
- Y cyfryngau a chyfathrebu, newyddiaduraeth
- Cyhoeddi
Mae Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol yn rhoi cymorth arbenigol i wella cyfleoedd gyrfa a chyflogaeth myfyrwyr yn ystod y cwrs ac ar ôl graddio.