Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg (Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol) gyda Chymraeg (Ôl-raddedig)
Datblygwyd y rhaglen hon yn sgil ymgynghoriad sydd wedi nodi galw am raglen hyfforddi athrawon ôl-16 sy’n cefnogi camau i ddatblygu a gwella sgiliau iaith Gymraeg i’w defnyddio ar lawr dosbarth.
Bydd y rhaglen yn defnyddio’r modylau, y strategaeth addysgu ac asesu yn ogystal â’r gweithgarwch lleoliad er mwyn ymgorffori datblygiad sgiliau iaith Gymraeg a’u trwytho trwy’r rhaglen. Darparu amgylchedd cyson a chefnogol lle gall hyfforddeion adeiladu eu hyder gyda defnyddio’r Gymraeg wrth addysgu.
Sylwer nad yw’r rhaglen hon yn rhoi Statws Athro Cymwysedig.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Saesneg
- Cymraeg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Cynigia’r cwrs hwn gyfle unigryw i chi ddatblygu eich sgiliau a’ch hyder o ran defnyddio’r Gymraeg wrth addysgu yn rhan o’r rhaglen, sef sgil allweddol ar gyfer y sector ôl-orfodol yng Nghymru heddiw.
Mae astudio ar gyfer cymhwyster ôl-raddedig neu broffesiynol yn fuddsoddiad yn eich gyrfa. Rydyn ni’n anelu at roi’r dulliau i chi allu trawsnewid eich bywyd a rhoi i chi addysg sy’n eich gwneud chi’n hyderus a chymwys i gofleidio eich dewis lwybr gyrfa.
Lefel 5
(10 credyd)
(20 credyd)
(10 credyd)
(20 credyd)
Lefel 6
(20 credyd)
(20 credyd)
(20 credyd)
tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Llety
Llety Abertawe
Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.
Gwybodaeth allweddol
-
- Yn achos y Dystysgrif Raddedig Broffesiynol mewn Addysg (PCET) bydd angen bod ymgeiswyr radd israddedig ar radd 2.2 neu uwch.
- Yn achos Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg (PCET) bydd angen cymhwyster lefel tri perthnasol ynghyd ag addysgu a/neu brofiad hyfforddi.
- Nid yw’r Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg (PCET) yn ddyfarniad y dylid cofrestru arno a gall myfyrwyr drosglwyddo i hyn o’r Dystysgrif Raddedig Broffesiynol (PCET) mewn rhan dau os byddant yn bodloni’r meini prawf.
-
Mae asesiad y rhaglen wedi’i adeiladu ar egwyddorion ymarfer adfyfyriol ac yn cynnwys amrywiaeth o ddulliau megis portffolios, adfyfyrdodau ysgrifenedig, adroddiadau, blogiau, arsylwadau ffurfiol ymarfer proffesiynol a phosteri.
-
Mae gwiriadau manwl DBS yn orfodol yn rhan o ofynion mynediad y rhaglenni, a’r ymgeiswyr sy’n gyfrifol am gostau ychwanegol hyn.
Gall teithio i’r lleoliad profiad addysgu proffesiynol greu costau i’r myfyriwr a gallant amrywio yn dibynnu ar ble mae’r lleoliad. Pan drefnir lleoliadau ar ran y myfyriwr, gwneir pob ymdrech i fodloni gofynion unigol (gan gynnwys dewisiadau lleoliad) ond ni ellir gwarantu hyn.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae graddedigion o’r rhaglen yn gyflogadwy dros ben mewn amrywiaeth o sectorau addysgu a hyfforddi ar draws amrywiaeth fawr o broffesiynau.