Skip page header and navigation

Sioe Haf: Dylunio Modurol A Thrafnidiaeth

Dylunio Modurol A Thrafnidiaeth

Design of a blue sports car Automotive and Transport Design

Ein Gwaith

Elliott Barrow

Prosiect Zora: Oes Newydd ar gyfer Cerbydau Trydan Perfformiad Mae Rimac yn adnabyddus am wthio ffiniau symudedd trydan, gan gyfuno arloesedd â pherfformiad o’r radd flaenaf. Mae Project Zora yn cynnal yr etifeddiaeth honno yn gar perfformiad pedair sedd cyntaf Rimac - brêc saethu lluniaidd, trydan cyfan wedi’i gynllunio ar gyfer cyflymder ac ymarferoldeb. Gyda thechnoleg tyrbin gwynt integredig sy’n cynhyrchu trydan wrth yrru, mae Zora yn gwella effeithlonrwydd heb aberthu pŵer. Mae’n gam beiddgar tuag at ddyfodol craffach, mwy cynaliadwy - yn driw i weledigaeth Rimac o ailddiffinio’r car perfformiad ar gyfer yr oes drydan.

Design of a blue sports car Automotive and Transport Design

Christian John Engelbrecht

Rydyn ni yn y flwyddyn 2065, ac mae’r ddynoliaeth wedi cyrraedd diwedd gocheladwy - un a ddewisodd iddi ei hun. Mewn rhanbarthau cyfan mae wedi dod yn amhosib byw; ni all ein cyrff ymdopi â chyflyrau annioddefol. Gallwn chwysu faint a fynnom, mae ein creiddiau yn rhy boeth o lawer. Fodd bynnag, yn y tirweddau uffernol hyn, mae olion sy’n amddiffyn henebion sydd o bwysigrwydd aruthrol i ddynoliaeth. Er na oes modd gwella’r hinsawdd bellach, gallwn ni gadw’r hyn sydd ar ôl. Yn lledu ar draws anialwch helaeth Penrhyn Arabia mae rhwydwaith sy’n cysylltu’r ardaloedd byw â’r safleoedd diwylliannol trwy fannau poeth angheuol. Yn herio’r gwres mae’r Lexus LO, y Lexus Long-range Overlander. Saif hwn ar draws y rhwydwaith, gan gysgodi ei breswylwyr rhag ymbelydredd solar, gan ganiatáu iddyn nhw gyrraedd y safleoedd sy’n dod â hunaniaeth ac undod iddyn nhw fel pobl.

Design of a space ship looking car Automotive and Transport Design

Joshua Glaser

Wedi’i leoli mewn senario dychmygol Ffuglen Wyddonol yn 2060, mae PEUGEOT SHIRO yn beiriant ar gyfer Dal Carbon sy’n canolbwyntio ar adfywio, cynaliadwyedd a llesiant defnyddwyr. Yn ystod teithiau rhwng cyfleusterau, mae SHIRO yn trawsnewid carbon deuocsid yn yr atmosffer yn garbon solet, a ddefnyddir ar gyfer seilwaith argraffu 3D, cerbydau, mewnblaniadau seibernetig, a terraform. Mae’r newid yn yr hinsawdd a phrinder adnoddau wedi diraddio’r biosffer, gan achosi chwalfa amgylcheddol a gwneud y byd yn anaddas i bobl, y mae angen Therapi Geneuau arnynt i oroesi. Mae cymdeithas wedi clystyru mewn cyfleusterau crynodedig, diogel ymhell oddi wrth ei gilydd, ac mae wedi’i rhannu rhwng y rhai sy’n ymroi i welliannau gwybyddol a chorfforol, a’r rhai sy’n dewis eu cadw eu hunain a chyfrannu i adfywio’r blaned. Mae SHIRO yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd parhaus a’r materion cymdeithasol ynghylch ewgeneg.

Design of a space ship looking car Automotive and Transport Design

Phil Rawlins-Grundy

F.R.O.G, sef acronym Saesneg am gynhyrchu ocsigen rasio yn y dyfodol, yw fy ngweledigaeth ar gyfer digwyddiad rasio ecogyfeillgar sy’n cael ei gynnal yn y flwyddyn 2O5O. Gyda F.R.O.G, rwy’n cynnig digwyddiad chwaraeon moduro byd-eang sydd nid yn unig yn gynaliadwy ond hefyd yn adfywio’r amgylchedd trwy echdynnu carbon, ailgoedwigo cyflym, a biodanwydd sy’n deillio o ran o’r coed sy’n cael eu tyfu yn y lleoliadau. Bydd hyn felly yn chwarae rôl wrth fynd i’r afael â chynhesu byd-eang

Design of a green f.r.o.g car Automotive and Transport Design

Lewis Haines

Porsche Finden (Almaeneg am ddarganfod) yw enw fy mhrosiect. Mae’r cerbyd hwn wedi’i gynllunio’n benodol at ddibenion teithio ar draws yr anialwch i safleoedd archeolegol. Y rheswm mae angen cerbyd arnom ar gyfer hyn; mae hanes yn dangos yr oedd Anialwch y Sahara yn arfer bod yn dirwedd fwy amrywiol o lawer a llaith. Roedd yn gartref i afonydd, llynnoedd, ac amrywiaeth o lystyfiant, yn cefnogi helwyr-gasglwyr ac yn y pen draw bugeiliol. O dan y tywod cuddia hanes anghofiedig mae’n rhaid i ni ei adfer. Rwyf wedi cerfio fy nyluniad allan o glai yn gam cyntaf tuag at yrfa mewn dylunio clai. Rwyf wrth fy modd â’r broses greadigol o droi braslun 2d yn ffurf 3d ffisegol gan ddefnyddio’r dull ymarferol traddodiadol hwn.

Design of a brown car Automotive and Transport Design

William Hamilton

Mae’r Centris Z yn dathlu 100 mlynedd o Nissan gyda dychwelyd i yrru pur. Gan anrhydeddu etifeddiaeth Z o gysylltiad a pherfformiad cyllideb, mae’n cynnwys bonet hir, ffenestri cofleidiol gyda ffurfiau syml ond trawiadol. Gan nodio’i ben i draddodiad, mae’n gwisgo paent melyn treftadaeth ond yn ychwanegu tro modern gyda phwerwaith hybrid trydanedig. Mae Centis Z wedi’i adeiladu ar gyfer y trac a’i gerfio ar gyfer y strydoedd; mae’n gwrthod dyluniadau rhy gymhleth er mwyn ffafrio enaid o ysbrydoliaeth analog gyda chysuron modern. Mae’n esblygiad go iawn o’r Nissan Z sy’n deimlad yn fwy na dim ond cerbyd i’w yrru.

william hamilton design of a yellow car

Jan Mikko Mangaspar

Nod fy mhrosiect mawr olaf o’r enw “Honda Triton”, oedd ymgymryd â’r dasg o ddylunio datrysiad mwy diogel i fwynhau’r profiad cyffrous ac untro o reidio beic modur. Dechreuodd hyn trwy nodi meysydd allweddol o’r hyn sy’n gwneud reidio beic modur yn beryglus megis cysylltu’r beiciwr â gymoedd llym sy’n bresennol mewn achos o ddamwain/gwrthdrawiad. O hynny ymlaen, roeddwn i’n gallu canolbwyntio ar ddylunio ymgorffori amddiffyniad gwrthdrawiad yn uniongyrchol yn nyluniad y cerbyd yn ogystal â chadw’r teimlad o amlygiad i’r elfennau a’r gallu i bwyso i mewn i’r corneli, y naill a’r llall yn deimladau unigryw i brofiad gyrru beic modur. Rwy’n anelu at weithio yn y diwydiant dylunio modurol, er fy mod i’n angerddol am bob math o ddyluniad.

Jan Mikko Mangaspar desig of a 3 wheeled bike

Ben Mills

Beth sy’n gwneud MINI… yn MINI? Yn 1959, roedd yn golygu bod ar flaen y gad o ran gyriant olwyn flaen a thechnoleg pecynnu. Roedd gyrru MINI yn golygu gyrru’r car bach mwyaf datblygedig ar y ffordd. O neidio’n gyflym ymlaen i heddiw, fodd bynnag, ac mae’r brand yn ddim ond cyrff retro ar ben platfformau digalon o gonfensiynol. Does dim un agwedd lle mae MINI yn arwain y ffordd. Mae Y75 yn rhoi’r brand yn ôl ar y trywydd iawn trwy bweraith hydrogen arloesol a deunydd newydd sbon i’r corff: Galvorn sy’n gynaliadwy, hynod gryf a hynod ysgafn. Hwn yw’r union beth i droi pŵer hydrogen o newydd-deb dethol yn gyfleuster pob dydd. A’r enw? Mae’n sefyll am ‘Blwyddyn 75’ – mae 2034 yn nodi tri chwarter canrif ers dechrau chwyldro’r MINI. Mae’n bryd cynnal un arall.

Ben Mills design of a car

Henry Radburn

MAE CERBYD ERLID HEDDLU LLECHWRAIDD ARBENIGOL PERFFORMIAD UCHEL ALPINE WEDI’I GYNLLUNIO AR GYFER Y CYFLYMDER, YR YSTWYTHDER A’R MANYLDER UCHAF MEWN AMGYLCHEDDAU TREFOL. DARPARU RHEOLAETH EITHRIADOL AC YMATEB CYFLYM, GAN GYFUNO TECHNOLEG UWCH Â THREFTADAETH CHWARAEON MODURO ALPINE I DRIN GWEITHGAREDDAU CYFLYM A LLWYBRAU DINAS CYMHLETH YN RHWYDD. 

henry radburn design of car

Archie Ritchie

Teitl fy mhrosiect mawr yw Astreá, sef cwch hwylio moethus 100m a gynlluniwyd i ddiwallu anghenion cenhedlaeth newydd o unigolion gwerth net uchel iawn. Daw’r enw o Astraea, sef duwies Groeg cyfiawnder, purdeb, a’r sêr, mae’r cysyniad cwch hwn i fod i ymgorffori’r un statws a gweledigaeth. Mae’r cwsmeriaid newydd yn cynnwys entrepreneuriaid ifanc neu bersonoliaethau’r cyfryngau cymdeithasol yn bennaf, sy’n fwy egnïol ac sy’n gwerthfawrogi preifatrwydd, gallu a cheinder yn hytrach na rhwysg. Yn wahanol i gychod moethus traddodiadol a gynlluniwyd ar gyfer arddangosiad a difyrrwch, mae’r cwch cysyniad hwn i fod i fynegi perfformiad, gwytnwch a symlrwydd mireinio. Mae’r dyluniad lluniaidd a’r corff cul â blaen ymledol yn helpu i wella perfformiad hydrodeinamig. Mewn cyfuniad â’i adweithydd niwclear cryno, mae ASTREÁ yn galluogi archwilio byd-eang heb aberthu moethusrwydd nac effeithlonrwydd.

archie ritchie design of a boat

Galeri Arddangosfa