Llun a Chyflwyniad

Swyddog Gweinyddol a Chymrawd Ymchwil
Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
Ffôn: 01970 636543
E-bost: a.elias@cymru.ac.uk
Rôl yn y Brifysgol
Cydlynydd i’r Ganolfan a Chymrawd Ymchwil
Cefndir
Astudiodd Angharad ar gyfer MPhil ym Mhrifysgol Aberystwyth a Doethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor yn arbenigo ar gyfraith Cymru’r Oesoedd Canol cyn ymuno â’r Ganolfan fel Swyddog Gweinyddol yn 2007.
Mae Angharad wedi trefnu nifer o seminarau, darlithoedd coffa, fforymau undydd a chynadleddau rhyngwladol.
Hi yw Golygydd Cyfraith Studia Celtica ers 2023: Studia Celtica | UWP
Meysydd Ymchwil
Llawysgrifau Cyfraith Hywel.
Enillodd ei chyhoeddiad Yr Ail Lyfr Du o’r Waun: Golygiad Beirniadol ac Eglurhaol o Lawysgrif Peniarth 164 (H) (2 gyf., Caergrawnt, 2018), Wobr Hywel Dda Prifysgol Cymru yn 2018.
Arbenigedd
Arbenigwraig ar Gyfraith Hywel.
Cyhoeddiadau
- Llyfr Cynyr ap Cadwgan: Pamffledi Cyfraith Hywel (Aberystwyth: Seminar Cyfraith, 2006);
- ‘Llyfr Cynog of Cyfraith Hywel and St Cynog of Brycheiniog’, Cylchgrawn Hanes Cymru, 23, rhif 1 (2006), 27–47;
- ‘Llawysgrif LlGC Peniarth 164 a pharhad Cyfraith Hywel yn yr Oesoedd Canol diweddar’, Llên Cymru, 33 (2010), 33–50;
- gyda Morfydd E. Owen, ‘Lawmen and lawbooks’, yn N. Cox a T. G. Watkin (goln),Canmlwyddiant, Cyfraith a Chymreictod: A Celebration of the Life and Work of Dafydd Jenkins 1911–2012 (Bangor: Cymdeithas Hanes Cyfraith Cymru, 2013), tt. 106–50;
- ‘Cam o’r tywyllwch: nodyn ar lawysgrif cyfraith LlGC Peniarth 166’, Studia Celtica, L (2016), 107–17;
- Yr Ail Lyfr Du o’r Waun: Golygiad Beirniadol ac Eglurhaol o Lawysgrif Peniarth 164 (H) (2 gyf., Caergrawnt, 2018);
- ‘Dr Morfydd E. Owen a thraddodiadau Brycheiniog’, yn Sara Elin Roberts, Simon Rodway a Alexander Falileyev (goln) Cyfarwydd Mewn Cyfraith (Cymdeithas Hanes Cyfraith Cymru XVII: Bangor, 2022); tt. 46–56: Dr Morfydd E. Owen a thraddodiadau Brycheiniog (uwtsd.ac.uk)
- ‘“Ail i neb yn ei ddysg Gymraeg”: Dr Siôn Dafydd Rhys a Chyfraith Hywel’, arfaethedig yn Studia Celtica, LVIII (2024).
Gwybodaeth Bellach
Aelod o Seminar Cyfraith Hywel