Skip page header and navigation

Jonathan Pugh BA, PGCHE, MA

Llun a Chyflwyniad

Silwét pen ac ysgwyddau dyn

Uwch Ddarlithydd

Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf Cymru (WISA)

Ffôn: 01792 482077 
E-bost: j.pugh@pcydds.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

Mae Jonathan yn Rheolwr Rhaglen ar gyfer Drama Gymhwysol: Addysg, Lles, Cymuned (BA).

Cefndir

Mae Jonathan wedi bod yn unigolyn pwysig ym maes y celfyddydau perfformio yn Y Drindod Dewi Sant ers sawl blwyddyn – mae ganddo radd gyntaf mewn Theatr, Ffilm a Theledu o Brifysgol Aberystwyth a hoffter o ddulliau dysgu dilys, ac mae’n rhoi dehongliad naratif ar waith, wedi’i ysgogi gan ei MA mewn Astudiaethau Clasurol.

Mae Jonathan wedi cynnwys fformatau digidol a chyfryngau cyfoes mewn cynyrchiadau theatr ymarferol traddodiadol a chyfoes erioed er mwyn creu paradeimau perfformio arloesol. Yn ystod ei amser yn Rheolwr Rhaglen ar gyfer rhaglenni diwydiannau creadigol yn Y Drindod Dewi Sant, mae wedi goruchwylio rhaglenni mewn Perfformio Cyfoes, Theatr Dechnegol, Drama Gymhwysol (Abertawe), Perfformio, Cyfryngau Creadigol, Cerddoriaeth, a Drama Gymhwysol (Caerfyrddin).

Cyn ymuno â’r Drindod Dewi Sant, roedd Jonathan wedi gweithio ag ymarferwyr a chwmnïau allweddol yn y byd celfyddydol Cymreig, gan gynnwys Eddie Ladd, Cliff McLucas, Sera Moore Williams (Cwmni’r Gymraes), Sian Summers (Cwmni Rhiniog) a Spectacle Theatre, ac wedi cefnogi prosiectau myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae Jonathan yn parhau i hyfforddi ag ymarferwyr theatr gorfforol a dawns i gyfuno ymarfer ag archwiliad personol. Mae’r arfer ymchwil hwn yn hwyluso sgwrs rhwng hunaniaeth a lleoliad, corff a gofod, ac yn ysgogi ymatebion creadigol i ddoethineb cyffredin ar ein tirwedd gyfoes.

Aelod O

  • Cymrawd LEAP 2023-2024
  • AU Ymlaen (Uwch Gymrawd)
  • Coleg Cymraeg Cenedlaethol (Aelod)
  • Theatr Genedlaethol Cymru (Cyn-Aelod Bwrdd)

Diddordebau Academaidd

  • Perfformiadau sy’n benodol i safle ac sy’n ymateb i safle;
  • Ymarfer yn ymchwil, cyd-destun, a’r weithred greadigol – ble mae hyn yn dechrau?
  • Theatr fynegiadol gyda diddordeb arbennig yn Buchner, a theatr Brecht;
  • Hyfforddiant theatr gorfforol gyfoes (yn deillio o Lecoq, Grotowski), Butoh;
  • Mytholeg a natur: Mytholeg Groeg yr Henfyd a chreu mytholeg fodern;
  • Perfformio’r hunan: hunaniaeth ar-lein a pherfformio er mwyn cofio mewn amgylchedd cynyddol ddigidol;
  • Addysg gorfforol awyr agored ac ymarfer mewn natur ar gyfer gwydnwch ac iechyd meddwl cadarn.

Meysydd Ymchwil

  • Perfformio hunaniaeth ymysg Cymry alltud
  • ‘Y straeon rydyn ni’n dweud wrthym ni ein hunain’
  • Seicoddaearyddiaeth
  • Llythrennedd corfforol
  • Llythrennedd digidol

Arbenigedd

  • Dyfeisio, perfformiadau sy’n ymateb i safle, gwaith perfformio aml-lwyfan
  • Cynllunio’r cwricwlwm, cydweithio rhyngddisgyblaethol, dylunio asesiadau annhraddodiadol
  • Golygu, recordio sain a fideo, rheoli perfformiadau byw
  • Perfformiadau cyfranogol
  • Sicrhau ansawdd a gweithredu swyddogaethol

Gwybodaeth bellach

Gwaith diweddar / blaenorol a hyfforddiant gyda:

  • Kathryn Campbell Dodd
  • Jess Lerner
  • Marc Rees + Osian Meilir
  • Simon Whitehead
  • Henry McGrath
  • Phillip Zarrilli (perfformio seicogorfforol)
  • Cwmni theatr Pants on Fire (Lecoq: Gareth Taylor + Peter Bramley)
  • Cai Tomos
  • Eeva-Maria Mutka

Hefyd wedi hyfforddi gyda/mynychu gweithdai gyda: 

  • Told by an Idiot
  • Andy Paget
  • Bronwen Preece
  • Tetsuro Fukuhara
  • Jo Fong
  • Ailsa Richardson
  • YANC
  • Mantel of the Expert Network; Abertawe