Image and intro
Darlithydd
Yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau
Ffôn: +44 (0) 1792 482017
E-bost: kate.williams@uwtsd.ac.uk
Rôl yn y Brifysgol
- Rheolwr Rhaglen:
- BSc Seicoleg
- BSc Seicoleg a Chwnsela
- Darlithydd ac Arweinydd Modwl
- Tiwtor Cymorth Academaidd
- Goruchwyliwr Traethodau Hir Israddedig
- Goruchwyliwr Traethodau Hir Gradd Meistr
- Goruchwyliwr PhD
Cefndir
Rhwng 2005–2014 bûm yn astudio ar gyfer fy BSc mewn Seicoleg, MSc mewn Dulliau Ymchwil ac Ystadegau mewn Seicoleg, a PhD mewn Seicoleg Wybyddol ym Mhrifysgol Abertawe.
Cyn ymuno â’r adran Seicoleg a Chwnsela yn Y Drindod Dewi Sant (Abertawe) ym mis Medi 2015, bûm yn gweithio yng Ngholeg Meddygaeth Prifysgol Abertawe yn gynorthwyydd cronfa ddata.
Diddordebau Academaidd
Fy mhrif feysydd addysgu yw seicoleg wybyddol a biolegol, ar lefel arbrofol a chymhwysol. Ar y ddarpariaeth rhwng Lefel Pedwar a Lefel Chwech, mae hyn yn cynnwys addysgu’r ymchwil damcaniaethol ac empirig sy’n gysylltiedig â gweithredu gwybyddol a’r is-haenau biolegol sy’n cefnogi’r wybyddiaeth honno, a sut maen nhw’n berthnasol i ddeall ymddygiad yn y byd go iawn. Ar Lefel Saith ac Wyth, mae fy addysgu’n canolbwyntio ar ddulliau ymchwil, dylunio, a dadansoddi, a byddwn ar gael i dderbyn ymgeiswyr am raddau ymchwil.
Meysydd Ymchwil
Mae fy niddordebau ymchwil ym meysydd adnabod gwrthrychau a chof. Mae gen i ddiddordeb arbennig mewn cynrychioliadau damcaniaethol sy’n sail i gof adnabod gwrthrychau cyfnodol penodol hir-dymor. Mae gen i ddiddordeb hefyd yn effaith Anghofio trwy Adalw (RIF), ac mae’r rhan fwyaf o’m gwaith ymchwil yn canolbwyntio ar fersiwn addasedig o’r paradeim sy’n ymwneud ag adnabyddiaeth er mwyn archwilio a ellir ei ddefnyddio i ymchwilio i’r priodweddau sy’n seiliedig ar nodweddion a’n hysbysu o ficro-strwythur cynrychioliadau cof gwrthrychau.
Mae fy niddordebau ymchwil eraill yn canolbwyntio ar wybyddiaeth gymhwysol, yn benodol mewn perthynas â dysgu mewn cyd-destunau addysgu a gweithredu gwybyddol wrth yrru.
Arbenigedd
Mae fy maes arbenigedd proffesiynol yn canolbwyntio ar seicoleg wybyddol arbrofol, yn benodol, cof cyfnodol hir-dymor. Rwy’n siaradwr Cymraeg rhugl hefyd ac yn gweithio ar brosiect ar hyn o bryd i ddatblygu cwrs dysgu Cymraeg yn gysylltiedig â seicoleg, cwnsela, ac iechyd meddwl.