Skip page header and navigation

Kyra Quarterly BSc, MSc.

Image and intro

Silwét pen ac ysgwyddau dynes.

Cynorthwyydd Ymchwil

Yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau

E-bost: k.quarterly@uwtsd.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

Cynorthwyydd Ymchwil ar gyfer yr Hwb Ymgynghoriaeth Gwerthuso ac Ymchwil Seicolegol (PERCH)

Mae’r cyfrifoldebau’n cynnwys:

  • Darparu cymorth ymchwil ar draws amrywiaeth o brosiectau ymchwil a gwerthuso seicolegol o fewn PERCH;
  • Ymgymryd â chasglu data ansoddol a meintiol a rheoli data o dan oruchwyliaeth yr arweinwyr ymchwil (Dr Ceri Phelps a Dr Paul Hutchings);
  • Cyfrannu at gyfarfodydd tîm y prosiect mewn ffordd broffesiynol gan ddangos cyfrinachedd priodol;
  • Cyfrannu at ddadansoddi data a chofnodi’r prosiect o dan oruchwyliaeth yr arweinydd prosiect perthnasol.

Cefndir

Ar ôl cwblhau fy arholiadau Safon Uwch yn 2017 astudiaeth BSc mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Abertawe. Gwnaeth cwblhau’r radd hon rhoi i mi fy mhrofiad cyntaf o seicoleg. Cefais ddealltwriaeth fanwl o rôl seicoleg mewn chwaraeon yn ogystal â’i effaith fwy cyffredinol ar y camau datblygu trwy gydol oes unigolyn. Arweiniodd fy niddordeb brwd mewn seicoleg trwy gydol fy BSc at ei droi’n ffocws ar gyfer fy nhraethawd hir yn y flwyddyn olaf.

Yn dilyn hyn, fe wnes i gwblhau MSc mewn Seicoleg Chwaraeon ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd. Gwnaeth cofrestru ar yr MSc fy ngalluogi i gymhwyso agweddau ar waith theori seicolegol i arfer proffesiynol, gan ddatblygu fy sgiliau ymchwil yn fwy cadarn, a chael profiad uniongyrchol o ddefnyddio meicro-sgiliau cwnsela i adeiladu perthynas therapiwtig.

Er mwyn dyfnhau fy ngwybodaeth seicolegol yn barhaus, ymgymerais â modwl ‘Ymchwilio i Seicoleg’ Lefel 5 ychwanegol gyda’r Brifysgol Agored ochr yn ochr â’m MSc. Caniataodd y modwl hwn i mi gryfhau unrhyw fylchau yn fy ngwybodaeth o feysydd craidd seicoleg cymdeithasol, gwybyddol, biolegol a datblygu. Hefyd, fe wellodd fy nealltwriaeth o ddilyniant ymchwil yn y meysydd penodol hyn.

Mesysydd Ymchwil

Mae fy mhrofiad a’m diddordeb ymchwil blaenorol wedi ymwneud â dealltwriaeth a gwella profiadau seico-gymdeithasol plant a phobl ifanc ym maes chwaraeon. Fodd bynnag, rwy’n ymddiddori’n fwy cyffredinol mewn ymgysylltu, dysgu a gweithio ym maes seicoleg ac ymchwil llesiant cymhwysol.

Ar hyn o bryd rwy’n cynorthwyo gydag ymchwil sy’n gysylltiedig â:

  • Gwerthusiad gwasanaeth o ‘Hwb Dementia’ Dementia Friendly Swansea.
  • Adnabod effaith llesiant cynaliadwy mewn mentrau gwaith.
  • Adolygiad systematig o ymyraethau seiliedig ar theori seicolegol sy’n hwyluso newid mewn diwylliant sefydliadol.
  • Cymhwyso hyn i hysbysu newid mewn ymddygiad i wella ymgysylltu gyda pholisïau llesiant sy’n arwain i hybu llesiant mewn ysgolion.